Chwalu'r rhagfarn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
8 Mawrth 2022
Ar 8 Mawrth, ynghyd â gweddill y byd, byddwn ni'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022.
Y thema eleni yw #ChwaluRhagfarn 'Boed yn fwriadol neu'n anfwriadol, mae rhagfarn yn ei gwneud hi'n anodd i fenywod symud ymlaen. Nid yw'n ddigon gwybod bod rhagfarn yn bodoli, rhaid gweithredu i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal.’
Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith fod y diwydiant dŵr wedi cael ei ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol, ac rydyn ni'n falch o hybu menywod ar draws y sefydliad, dim ots a ydyn nhw'n gweithio yn ein tîm gweithrediadau, ein tîm TG, ein canolfan gysylltu neu yn rhywle arall. Menywod sydd i gyfrif am 30% o'n gweithlu erbyn hyn (o ryw 21% bron i ddegawd yn ôl).
Yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r rhwystrau tymor hir i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, rydyn ni'n gweithio gyda chyrff partner fel Chwarae Teg, Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg (WISE), Stonewall Cymru, Anabledd Cymru ac eraill, gan ganolbwyntio'n benodol ar wneud gyrfaoedd gweithredol a STEM gyda Dŵr Cymru'n fwy deniadol i fenywod. Rydyn ni wedi gweld tipyn o lwyddiant yn hyn o beth, er enghraifft, menywod sy'n cyflawni 50% o'n rolau gwyddonol erbyn heddiw. Fodd bynnag, dim ond 11% o'n rolau peirianneg a gweithredol sy'n cael eu cyflawni gan fenywod, felly mae yna dipyn o waith i’w wneud o hyd!
Yn ddiweddar, fe lansion ni rwydwaith menywod sy'n cynnig lle i gydweithwyr rwydweithio, adolygu polisïau a chyflwyno gwelliannau, yn ogystal â mentora o chwith lle mae menywod yn mentora ein tîm gweithredol ar eu profiadau.
I nodi'r achlysur, fe siaradon ni â phedair cydweithwraig o Ddŵr Cymru am eu profiadau.
Leanne Williams, pennaeth trawsnewid y cwmwl
Fe ddechreuais i weithio gyda Dŵr Cymru fel Rheolwr Prosiect TG yn 2012 ac rydw i wedi gweithio fy ffordd i fyny.
Mae pobl yn aml yn edrych arna i'n hurt wrth glywed teitl fy swydd, na, dyw hi ddim byd i wneud â'r pethau gwyn fflwfflyd yna sydd yn yr awyr – mae llawer o bobl yn gofyn hynny! Meddalwedd a gwasanaethau sy'n rhedeg ar y rhyngrwyd yn hytrach nac yn lleol ar eich cyfrifiadur yw’r cwmwl. Meddyliwch am bethau fel Netflix neu Dropbox.
Fy ngwaith i yw arwain y tîm sy’n gweithio i symud holl raglenni TG Dŵr Cymru sy'n cael eu defnyddio pob dydd gan ein timau gweithredol a swyddfa gefn i'r cwmwl.
Trwy wneud hyn, byddwn ni'n cwtogi ar gostau TG Dŵr Cymru. Rydyn ni'n awyddus hefyd i sicrhau bod ein timau gweithredol yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar yr adegau priodol er mwyn hwyluso penderfyniadau cyflym. Mae hynny’n arbennig o bwysig mewn digwyddiadau o dywydd eithafol neu argyfyngau.
Y peth gorau am fy ngwaith yw fy mod i'n cael dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Mae technoleg, sut rydyn ni'n ei defnyddio, ac i beth, yn newid yn gyflym. Doedd fy rôl i ddim yn bodoli go iawn 20 mlynedd yn ôl, a fi yw'r person cyntaf i gyflawni'r rôl yma yn Dŵr Cymru – sy'n eithaf cyffrous!
Tammilli Wright-Ashworth
“Tammilli (fel ‘family’, ond â T yn lle F) ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers 2011.
“Fe ddechreuais i fel Swyddog Datrys ar ran Cwsmeriaid, ac roedd y rôl honno'n addysg go iawn i mi ac yn dipyn o fedydd tân! Fe ddysgais i bethau'n gyflym am fod rhaid er mwyn cyflawni fy swydd newydd, ond fe wnes i ffrindiau bendigedig a pherthnasau gwaith ar draws y busnes sydd wedi para hyd heddiw.
Cydlynydd Data GIS ydw i erbyn hyn, sy'n golygu fy mod i'n nodi llinellau'r carthffosydd ar y mapiau sy'n cael eu defnyddio gan y bobl sy'n cymryd galwadau, criwiau, technegwyr a pheirianwyr ar draws y busnes. Mae'r rhain yn hanfodol mewn argyfwng (fel llifogydd dŵr wyneb, neu lifogydd y tu fewn i adeiladau) pan fo angen i ni, fel cwmni ymateb yn gyflym.
Mae fy nhîm yn bwysig o fewn y busnes am y gallwn ddarparu cynlluniau ar gyfer gwaith brys, a diweddaru datblygiadau adeiladu newydd ar ein systemau, ac rydyn ni'n cymryd rhan mewn digwyddiadau arian ac aur pan fo angen. Rydyn ni i gyd yn gweithio'n dda gyda'n gilydd, â phawb yn defnyddio'u cryfderau ac yn codi'r slac os oes unrhyw un yn mynd i drafferth gyda rhywbeth ac angen cymorth.
Kelly Jordan, rheolwr prosiect gwyddonol
Rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers bron i chwe blynedd. Mae fy rôl yn cynnwys cyflawni ymchwiliadau a rhaglenni samplo, a phrofi am amryw o ddangosyddion ansawdd dŵr mewn dŵr gwastraff ac afonydd.
Mae rhaglenni samplo Project Science yn darparu data ar gyfer Dŵr Cymru er mwyn cynnig gwell dealltwriaeth i’r busnes am y ffordd orau o fynd ati i amddiffyn yr amgylchedd ar gyfer ein cwsmeriaid. Rwy'n frwd dros weithgareddau awyr agored felly mae'n bwysig i mi deimlo ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth.
Ni fyddai Project Science yn gallu datblygu'r rhaglenni hyn heb gydweithrediad a chefnogaeth amryw o adrannau a chydweithwyr yn Dŵr Cymru. Mae'n wir, gwaith tîm yw'r allwedd!
Chloe White, cynghorydd cadwraeth
Fe ymunais i â Dŵr Cymru trwy'r cynllun graddedigion Dŵr Gwastraff yn 2018.
Erbyn hyn rwy'n gynghorydd cadwraeth yn nhîm Gwasanaethau Amgylcheddol Dŵr Gwastraff. Mae fy rôl yn cwmpasu pob agwedd ar gadwraeth amgylcheddol, o gydgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru wrth gyflawni gwaith mewn ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, i gynghori ein tîm gweithrediadau ar y ffordd orau o reoli rhywogaethau goresgynnol. Rwy'n gweithio gydag ymgynghorwyr i arolygu cyflwr ein hasedau hefyd, er mwyn gweld ymhle y gallwn ni hybu bioamrywiaeth yn well.
Y peth gorau am fy swydd yw gwybod bod yr effaith rwy'n ei chael trwy gynghori eraill ar brosiectau cadwraeth a chyfoethogi yn fwy o lawer na dim y gallwn ei gyflawni ar fy mhen fy hun. Mae lleihau ein heffaith ar fioamrywiaeth fel cwmni'n fanteisiol dros ben i'n cwsmeriaid hefyd, am fod yna fanteision ychwanegol i gyflawni'r gwaith yma'n aml, fel lliniaru llifogydd, glanhau'r dyfrffyrdd a hybu bywyd gwyllt.
Mae hi'n rhoi boddhad anhygoel i mi wybod, ymhen pum mlynedd, y bydd yna anifeiliaid a phlanhigion o bob lliw a llun sydd wedi gallu llewyrchu oherwydd y newidiadau rydym ni wedi eu gwneud i'n harferion gweithredu, a fy mod i wedi chwarae rhan yn hynny o beth.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, chwiliwch dan yr hashnod #IWD2022 ar Twitter. Os oes diddordeb gennych ymuno â #TîmDŵrCymru, ewch i'n porth gyrfaoedd yma