Rhybudd Berwi Dŵr

Wedi’i ddiweddaru: 23:00 04 December 2024

PWYSIG: Rydyn ni wedi ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr sydd mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardaloedd canlynol: Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.

Achosodd Storm Bert lifogydd sylweddol ar safle Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn i mewn i’r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc ei hun.

Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i unioni’r broblem, ond mae’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd pellach yn golygu gosod pilenni anhydraidd o gwmpas y tanc storio.

Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni hyn yn llwyddiannus ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Bydd ein timau’n parhau i weithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfamser, rydyn ni’n gofyn i’r holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw i barhau i ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed.

Rydyn ni’n dosbarthu dŵr potel i’r cwsmeriaid sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac i gartrefi gofal, ac yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.

Mae gorsafoedd dŵr potel ar agor yn y lleoliadau canlynol:

  • Ystâd Ddiwydiannol Ynyswen, Heol Ynyswen, Treorci, CF42 6ED.
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Parc Gelligaled, Heol Tyntyla, CF41 7SY.
  • Co-op, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6UA.

Rydyn ni’n blaenoriaethu cwsmeriaid bregus, ac yn gofyn i bobl gymryd beth sydd ei angen arnynt yn unig.

Gall cwsmeriaid:

Ddarllen am yr Estyniad i’r Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored at gwsmeriaid gan ein Prif Weithredwr, Peter Perry.

Cadarnhau a yw’r broblem yn effeithio ar eu cyflenwad nhw trwy ddefnyddio’r gwiriwr cod post yma: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice

Gweld rhestr o Gwestiynau Cyffredin https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice.

Edrych ar Yn Eich Ardal neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.

Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra yn sgil y digwyddiad yma.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod


8 Mawrth 2024

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dyma gyfle i gwrdd â rhai o’r menywod ysbrydoledig sy’n gweithio dros Ddŵr Cymru, menywod sy’n arwain y ffordd mewn diwydiant sydd wedi bod â’r ddelwedd o fod yn un sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn hanesyddol, sy’n taclo rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r cwmni, a’r diwydiant ar led.

Sharon Ellwood, 51 oed, Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol, Tŷ Awen, Caerdydd

Pan ymunais i â Dŵr Cymru fel Peiriannydd Prosesau yn 2000, fy ngwaith i oedd dylunio a chomisiynu gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff ar draws Cymru - oedd yn rôl digon annodweddiadol i fenyw ar y pryd. Fi fyddai’r unig fenyw ar sawl un o’r safleoedd y byddwn i’n ymweld â nhw, ac yn enwedig y safleoedd adeiladu. Gallwn ni fynd am wythnosau heb weld cydweithiwr benywaidd arall. Yn Dŵr Cymru, rydw i wastad wedi teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi am beth rwy’n ei gynnig i’r busnes ac nid oherwydd fy rhyw, dyw hi byth wedi teimlo’n lle annifyr i weithio.

Yn fwy diweddar, mae fy ngwaith yn cynnwys arwain tîm o adnoddau arbenigol dros ben i ddatblygu rhaglen amgylcheddol Dŵr Cymru sy’n cynorthwyo gwelliannau i ansawdd dŵr. Rydw i wastad wedi bod yn angerddol dros afonydd, ac wrth astudio ar gyfer fy ngradd, roeddwn i wrth fy modd ar yr agweddau oedd yn ymwneud â thrin dŵr gwastraff o ffynonellau diwydiannol a threfol er mwyn atal llygru afonydd a gwella ansawdd dŵr – ac roedd gweithio yn y diwydiant dŵr yn gyfle perffaith i gyfuno’r ddau.

Mae gennym ni rwydwaith menywod bendigedig yn Dŵr Cymru sydd wir yn ein cefnogi ein gilydd ac sy’n cael ei gefnogi gan gynghreiriaid gwrywaidd: mae’r grŵp yn taclo materion fel sicrhau gwelliannau i gyfleusterau lles, rydyn ni’n trafod defnyddio iaith gynhwysol ar gyfer disgrifiadau swyddi, ac yn cynnal trafodaethau agored am bolisïau’r cwmni sy’n effeithio ar fenywod.

Yn Dŵr Cymru, rydw i wastad yn teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi am beth rwy’n ei gynnig i’r busnes, nid oherwydd fy rhyw.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn caniatáu i ni barhau i herio hen gysyniadau, ac i ddangos yr unigolion hynod ddawnus a gweithgar yna ar draws ein sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth mawr gyda’i gilydd.

Lauren Kinsey – Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus

Fe ymunais i â Dŵr Cymru fel Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus bron i flwyddyn yn ôl. Cafodd y rôl ei chreu er mwyn sicrhau bod Dŵr Cymru’n fwy gweladwy, hygyrch ac ymatebol i wleidyddion Cymru sy’n awyddus i ddeall ein gwaith yn well a sut rydyn ni’n helpu i daclo materion allweddol fel ansawdd dŵr afonol ac arfordirol.

Roedd y syniad o gael rhoi fy stamp fy hun ar y rôl newydd yma gyda Dŵr Cymru, sy’n gwmni angori yng Nghymru, yn gyfle cyffrous. Ar ôl gweithio yn Senedd Cymru a Senedd y DU, roeddwn i’n teimlo bod llawer gen i’w gynnig yn nhermau profiad o fyd gwleidyddol Cymru, fy mherthnasau gweithio cadarnhaol gyda gwleidyddion a’u staff, a’r ffaith fy mod i’n deall y ffordd orau o’u hymgysylltu yn y materion allweddol sy’n effeithio ar eu hetholwyr.

Rydw i wedi gweithio dros wleidyddion benywaidd, ac rydw i wedi gweld y rhagfarn a’r feirniadaeth annheg y mae menywod mewn gwleidyddiaeth yn eu hwynebu bob dydd. Yn y rolau yna, byddwn i’n aml yn cael fy nghamgymryd am y derbynnydd neu’r gwirfoddolwr. Rydw i wedi cael fy nhanseilio droeon gan ddynion sydd wedi defnyddio fy syniadau i fel eu rhai nhw eu hunain i symud ymlaen, dim ond am eu bod nhw’n gallu. Mae’r fantol yn sicr er eu plaid nhw, a rhaid i fenywod weithio dwywaith fwy caled i symud ymlaen. Nid rhywbeth sy’n gyfyngedig i wleidyddiaeth yw hyn, ac mae hi’n sicr y bydd hyn yn brofiad cyffredin i lawer o fenywod yn y gweithle ar ryw adeg yn eu bywydau. Ond ar ôl dod i Ddŵr Cymru, mae hi wedi bod yn galonogol gweld cymaint o fenywod sydd yn fy nhîm ac mewn rolau arwain ar draws y busnes. Rwy’n cael fy annog yn weithredol i herio’r uwch dîm arwain o ran ein cysylltiadau cyhoeddus, a dyw hi ddim yn teimlo fy mod i’n brwydro i gael fy nghlywed. Mae fy marn yn cael ei werthfawrogi ac rwy’n cael fy ngwerthfawrogi am fy ngwybodaeth - dydw dim jyst yma i gymryd nodiadau.

Elysia, 25, Arbenigydd Risg Portffolio, Casnewydd

Roedd diddordeb gen i weithio mewn diwydiant â chyfrifoldeb amgylcheddol ac effaith gymdeithasol, mae hi’n braf cael gweld effaith pob dydd fy rôl.

Rwy’n teimlo fy mod i’n cael digonedd o gefnogaeth a bod llawer o gyfleoedd i mi yn Dŵr Cymru.

Fel swyddogaeth gynorthwyol yn Dŵr Cymru, mae gen i drosolwg ar draws ein hadrannau, gan adrodd ar y risgiau mwyaf mae’r diwydiant yn eu hwynebu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer y dirwedd amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n esblygu.

Sara Rees, 33, Rheolwr Perfformiad Cyfalaf

Fe ddechreuais i weithio dros Ddŵr Cymru nôl yn 2016, gan symud o rôl Rheolwr Prosiect, i berfformiad dŵr gwastraff, ac ymlaen wedyn i’r swydd rwy’n ei chyflawni ar hyn o bryd fel Rheolwr Perfformiad Cyfalaf yn y maes cyflawni cyfalaf - sy’n delio â’r prosiectau a’r gwaith y mae’r busnes yn ei gyflawni i ail-fuddsoddi mewn seilwaith a chymunedau; fel gorsafoedd pwmpio, gorlifannau, offer tynnu ffosffadau ac ati.

Er taw dynion sy’n gweithio yn fy maes i’n bennaf, mae’r tîm lle’r ydw i’n gweithio’n gynhwysol ac maen nhw wastad wedi fy nhrin â’r un parch â phawb arall. Pan chi yw’r unig fenyw yn yr ystafell, mae hi’n sialens teimlo’n ddigon hyderus i ddweud eich dweud, ond rwy’n ddiolchgar bod y tîm wastad wedi fy annog i wneud hynny a’u bod yn gwerthfawrogi fy mewnbwn. Mae cydweithio’n agos â’n contractwyr yn dangos bod adeiladu’n amgylchedd sy’n dueddol o gael ei ddominyddu gan ddynion, ond dros y blynyddoedd, mae hi wedi bod yn braf gweld mwy a mwy o fenywod yn dod i’r maes, yn aros yno ac yn datblygu. Er bod cynrychiolaeth fenywaidd yn y maes cyfalaf yn fach, mae’r rolau’n amrywiol ac yn cwmpasu pawb o brentisiaid a graddedigion, yr holl ffordd i fyny i uwch reolwyr.

Mae cwmnïau dŵr yn destun craffu sylweddol yn y cyfryngau ar hyn o bryd ac mae gweithio yn y tîm cyfalaf ochr yn ochr â’n contractwyr yn golygu taw ni yw wyneb Dŵr Cymru’n aml wrth i gwsmeriaid ein gweld ni allan ar safleoedd gwaith. Rydyn ni’n sicrhau ein bod wedi ein taclu â’r wybodaeth gywir i ymateb, ac yn cyfeirio ein cwsmeriaid at adnoddau ar lein i ateb eu cwestiynau. O fy safbwynt i, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cyflawni’n brydlon, gan ganolbwyntio ar adolygu rhaglenni, caffael, a risgiau a chyfleoedd. Mae hyn yn sicrhau bod ein cynlluniau’n cael eu cyflawni i safon uchel a’u bod yn cyflawni’r deilliannau gofynnol.

Danielle Williams – Rheolwr Fframwaith Cyflawni Cyfalaf, Tŷ Awen

 

Rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers 2019, yn gyntaf fel Rheolwr Gwybodaeth lle’r ffocws oedd gwella ansawdd, llif ac effaith gwybodaeth, cyn cymryd rôl Rheolwr Fframwaith, lle rwy’n gweithio’n bennaf gyda’n contractwyr mawr a’n timau mewnol i roi dulliau newydd o gyflawni prosiectau ar waith gan ganolbwyntio ar gysylltiadau cynnar â’n contractwyr.

Does yna ddim dau ddiwrnod yr un fath - gall un diwrnod gynnwys llawer o gysylltiadau â’n contractwyr trwy gyfarfodydd, hyfforddiant neu ddigwyddiadau allweddol, a gall y nesaf fod yn ddiwrnod o ddadansoddi data. Prif thema pob dydd yw cysylltu, gwybodaeth a gwella.

Mae bod yn fenyw yn y maes cyflawni cyfalaf yn brofiad hynod o werth chweil. Mae’r amrywiaeth o bobl rydych chi’n dod ar eu traws ac yn dysgu ganddynt, a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ganddynt, yn anhygoel. Mae hi’n amgylchedd gwaith cefnogol ac er nad oes llawer o fenywod yn y tîm (ac mae llai fyth o gan rai o’n contractwyr) rydw i wastad wedi teimlo bod croeso i mi a fy mod i’n cael fy mharchu. Mae ymdrechion ein Huwch Dîm i gynyddu amrywiaeth o fewn ein maes ac i adeiladu ar y timau gwych sydd gennym ni’n galonogol. Ar ôl dechrau fy ngyrfa yn British Airways fel Prentis Electroneg, mae hi’n hyfryd gweld bod mwy a mwy o ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o gymharu â 15 mlynedd yn ôl - a’r cynnydd y mae Dŵr Cymru’n ei wneud yn hynny o beth.

I mi, dŵr yw un o’r pedwar peth hanfodol sydd ei hangen i fyw, gyda bwyd, aer a chysgod (efallai fy mod i wedi codi hynny o dudalen gwe NASA!), ond yn y pendraw, yr ymdeimlad yna o bwrpas wnaeth fy nenu i’r diwydiant. Fel sector, rydyn ni wedi cael amser digon caled yn y newyddion yn ddiweddar, ond rwy’n teimlo ei bod hi’n well o lawer fod yn rhan o’r ateb, hyd yn oed os yw’r broblem yn un anodd ei datrys ac y bydd hynny’n cymryd amser.

Mae’r cynnydd hwn yng ngraddfa ein rhaglen cyflawni cyfalaf ar gyfer AMP8 yn ddigynsail - ac er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu cyflawni dros ein cwsmeriaid; mae angen i ni gydweithio’n agosach â’n contractwyr a’n cadwyn gyflawni er mwyn rheoli’r cynnydd.

Rydw i wrthi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer MSc mewn Gwaith Ymchwil Gweithredol ym Mhrifysgol Caerdydd dan nawdd Dŵr Cymru er mwyn cyfoethogi fy sgiliau a’m gwybodaeth, ac rwy’n defnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu yn fy ngwaith i wella sut mae’r gadwyn gyflenwi’n cael ei rheoli a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.

Yelena Yershova, 47 oed, Pennaeth Rhaglenni Menter, Linea, Caerdydd.

Fe ymunais i â thîm ITS Dŵr Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae fy nhîm yn rhedeg, yn rheoli ac yn datblygu technoleg sy’n hwyluso gweithrediadau busnes craidd Dŵr Cymru.

Mae’r byd technoleg yn datblygu ar garlam, ac mewn llawer o achosion gallwn hepgor sawl cam yn ein hesblygiad – o ran ein model busnes neu’n galluoedd gweithredol - trwy ddefnyddio’r dechnoleg gywir. Mae hyn yn beth gwirioneddol gyffrous i mi.

Rydyn ni, y bobl dechnegol yn Dŵr Cymru, yn dod yn gyfeillion beirniadol ac yn ymgynghorwyr dibynadwy o fewn y busnes. Mae angen i ni sefydlu diwylliant o arloesi ac arbrofi er mwyn helpu ein busnes i gofleidio’r dechnoleg ddiweddaraf.

O feddwl ein bod ni’n treulio’r rhan fwyaf o’n bywydau’n gweithio, mae hi’n bwysig datblygu eich gyrfa trwy wneud rhywbeth ystyrlon, a defnyddio’ch sgiliau a’ch gallu i wneud gwir wahaniaeth ym mywydau pobl. Mae fy rôl yn Dŵr Cymru’n un ymestynnol a chyffrous. Ymestynnol – am nad yw meddylfryd monopoli rhanbarthol mewn diwydiant sy’n cael ei reoleiddio’n dynn ac sy’n osgoi risg lle bynnag y bo modd bob tro mor gystadleuol â sefydliad o’r sector preifat; ac yn gyffrous - am fod fy arbenigedd mewn technoleg a’m profiad o feithrin timau sy’n perfformio i safonau uchel yn berthnasol, a fy ngobaith i yw y bydd yn paratoi’r ffordd i gofleidio arloesedd technegol ac yn ailddiffinio byd y posibl ar gyfer ein cwsmeriaid.

Dyw hi ddim wastad yn hawdd bod yn fenyw sy’n gweithio - rwy’n poeni llawn gymaint am fy ngwaith ac yr ydw i am fy nheulu. Rydw i am i bethau fod yn berffaith, rwy’n gallu gweld meysydd i’w gwella ym mhob man a rhaid i mi ddal nôl rhag ceisio trwsio popeth ym mhobman yr un pryd. Mae gen i ddisgwyliadau mawr ohonof fi fy hun a fy nhîm, ac weithiau rwy’n teimlo bod angen i ni weithio dwywaith mor galed er mwyn profi beth rydyn ni’n gallu ei wneud. Mae’r rôl ei hun yn gofyn am lawer o hunanddisgyblaeth a dygnwch, gwneud penderfyniadau’n gyflym, jyglo llawer o flaenoriaethau croes, a’r cyfan wrth fynd â phobl eraill ar y siwrnai gyda fi.

Sally Gronow, 59 oed, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid, Linea, Caerdydd

Trwy ddamwain y ffeindiais i fy hun yn y diwydiant dŵr. Roeddwn i’n chwilio am sialens newydd ac yn teimlo y byddai’r diwydiant dŵr yn darparu hynny - a dydw i ddim wedi cael fy siomi. Mae hi wedi bod yn fraint bod yn rhan o Ddŵr Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf - a gweld y datblygiad o’r model oedd yn cael ei gontractio allan yn bennaf yn y 2000 i sut mae’r cwmni’n gweithredu heddiw. Fe ddechreuais i yn fy rôl gyfredol fel Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2018.

Wrth gwrs, fel llawer o ddiwydiannau eraill, mae’r diwydiant dŵr wedi cael ei ddominyddu gan ddynion yn hanesyddol, ond mae pethau’n newid. A dweud y gwir, mae menywod wastad wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant, ac mae’n sicr nad yw bod yn fenyw wedi llesteirio fy ngyrfa gyda Dŵr Cymru. Rwy’n dal i feddwl bod menywod yn cael eu tangynrychioli mewn rhai meysydd (o grefftau medrus i swyddi rheoli ac arwain) ond mae newid ar droed gyda’n sialensiau uniongyrchol a hirdymor yn mynnu ein bod ni’n denu ac yn cadw’r dalent orau. Dyna pam fod angen i ni barhau i godi proffil ‘menywod mewn dŵr’ ac annog menywod i anelu am yrfaoedd cyffrous gyda ni.

Catherine Holbourn, 33 oed, Rheolwr Cynhyrchu’r Dwyrain

Rydw i wedi bod yn Rheolwr Cynhyrchu ers dros dair blynedd. Fe ddechreuais i yn Henffordd a’r Canolbarth cyn ehangu i Went hefyd.

Fe ddechreuais i drwy’r cynllun graddedigion yn 2023, lle bues i’n gweithio i fel Cydlynydd Gweithrediadau, goruchwylydd a rheolwr perfformiad ar draws rhai o’r gwahanol adrannau Dŵr, cyn dod yn rheolwr prosiect. Mae cynhyrchu’n adran sydd wastad yn brysur - o gyfarfodydd safle i drafod cynlluniau Cyfalaf, cyfarfodydd tîm a diwedd prosiect, delio â phroblemau ymatebol, neu gyflawni toriadau cynlluniedig - mae pob diwrnod yn wahanol, sy’n un o’r pethau gorau am y swydd i mi.

Cefais fy nenu i’r diwydiant dŵr gan y cynllun graddedigion am fy mod i’n awyddus i weithio mewn maes gwyddonol/peirianneg. Doeddwn i ddim yn disgwyl gormod ar y cychwyn, ond roeddwn i’n gwybod bod angen sialens arnaf i. Roedd Gweithrediadau’n wych am eu bod yn cynnwys yr holl elfennau hynny a chymaint yn rhagor. Roeddwn i wrth fy modd ar yr amrywiaeth, a pha mor ddeinamig roedd angen bod. Mae pob diwrnod yn sialens wahanol ac mae angen meddwl ar eich traed a jyglo nifer o bethau'r un pryd yn aml - ond rydych chi’n cael gwneud hynny fel aelod o dîm. Cefais fy ngosod yn y gweithrediadau dŵr ar y cynllun graddedigion ac rydw i mor falch am ei bod hi wedi bod yn brofiad gwych cael treulio cymaint o amser yn y maes cynhyrchu, a chael tyfu i mewn i wahanol rolau dros y blynyddoedd.

Mae cynhyrchu’n gallu bod yn faes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, ond mae gennym fenywod bendigedig yn gweithio yn y tîm, ac mae hi wastad wedi bod yn lle gwych i weithio. Mae pawb mor weithgar ac ymroddgar - does dim ots am eich rhyw na’ch cefndir, mater o weithio fel tîm i ddatrys y problemau sydd o’ch blaen chi yw hi. Rydw i wedi dwlu ar fod yn fenyw yn y diwydiant dŵr a byddwn yn ei argymell i unrhyw un.