Cyflwyno Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant


27 Medi 2021

Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant – wythnos lle'r ydyn ni'n dathlu pob math o gynhwysiant pob dydd.

Yma yn Dŵr Cymru rydyn ni'n credu mewn gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'r cwmni.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno cynllun mentora o chwith gan baru cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr â rhywun o'r tu hwnt i'r uwch dîm rheoli er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a dealltwriaeth ar bob math o bynciau.

Dyma Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwsmeriaid Domestig a Jenna Nicolle-Gaughan, sydd wedi bod yn cyfarfod bob yn ail fis dros y 12 mis diwethaf.

Samantha James

Mae hi'n bwysig i mi ein bod ni'n creu amgylchedd lle gall pawb yn Dŵr Cymru ddangos eu gwir hunain a llewyrchu. Ond er mwyn gwneud hynny'n dda, roeddwn i'n gwybod bod angen i mi ddysgu am brofiadau pobl eraill, ac roedd mentora o chwith i'w gweld yn gyfle gwych i wneud hynny.

Dechreuais i a Jenna ar ein mentora o chwith bron i 12 mis yn ôl. Roeddwn i'n nabod Jenna o'i hamser yn y Gwasanaeth Adwerthu, ac yn fwy diweddar fel Cennad Cynhwysiant, ond ddim yn dda iawn. Ar y cychwyn, roeddem ni'n dwy ychydig bach yn ansicr sut y byddai'r sesiynau'n gweithio dwi'n credu.

Diflannodd unrhyw bryderon oedd gen i’n syth. Dwi wir wedi mwynhau'r sesiynau hyn, a dwi ychydig bach yn drist eu bod nhw'n dod i ben.

Dwi wedi dysgu llawer iawn gan Jenna ac mae'r sesiynau wedi herio fy ffordd o feddwl a’m cysyniadau.

Dwi'n gwerthfawrogi'r ffaith fod Jenna wedi ymddiried digon ynof fi i rannu rhai o'i phrofiadau personol ar ei siwrnai, o ddod allan i'w rhieni i briodi Liz a chael ei mab.

Roedd y sgwrs ym mhob sesiwn yn amrywio'n fawr. Fe siaradon ni am hanes hawliau LGBT+ ac (yn fwy syfrdanol) pa mor ddiweddar y digwyddodd rhai o'r datblygiadau hyn.

Awgrymodd Jenna lyfrau i mi eu darllen a meysydd i mi ymchwilio iddynt gan ddweud wrtha'i sut mae'r gymuned LGBT+ yn Dŵr Cymru'n ei deimlo, a'r pethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth.

O ganlyniad i'n trefniant mentora, mae Jenna wedi gweithio gyda Thîm Arwain Adwerthu erbyn hyn i ddatblygu ein cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant. Byddwn ni'n lansio'r cynllun yr wythnos hon.

Felly sut ydw i’n ei deimlo wrth edrych nôl dros y flwyddyn ddiwethaf yma?

Wel, fel cwmni rydyn ni ar siwrnai. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn uchel ar restr flaenoriaethau'r cwmni, ond yn y peth pwysicaf yw taw cydweithwyr sy'n arwain mwyfwy ar hyn, sy'n beth gwych. Dwi'n gwybod bod rhagor o waith o'n blaenau, ond mae'r profiad wedi rhoi'r hyder i mi ein bod ni’n creu diwylliant lle gall pawb fod yn nhw eu hunain trwy'r trafodaethau agored a gonest yma.

Jen – diolch i ti am dy amser. Dwi wir wedi gwerthfawrogi dy onestrwydd ac am ganiatáu i mi ofyn cwestiynau twp.

Jenna Nicolle-Gaughan

Mae mentora o chwith yn rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers amser. Mae'r manteision yn glir, ac roeddwn i'n teimlo y gallai helpu i hybu diwylliant mwy blaengar a chynhwysol yn Dŵr Cymru. Felly pan gofynnwyd i mi gymryd rhan mewn cynllun peilot mentora o chwith, roeddwn i'n gyffrous ond yn nerfus.

Cefais fy mharu â Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwsmeriaid Domestig, ac er fy mod i'n nabod Sam o'r cyfnod dreuliais i'n gweithio yn y Gwasanaethau Adwerthu, doeddwn i ddim yn ei nabod hi'n ddigon da i ddweud mwy na helo wrth basio. Roeddwn i ychydig bach yn ofnus – wedi'r cyfan, mae Sam yn un o'r bosys mawr, a doeddwn i ddim yn siŵr sut byddai'r ddeinameg yn gweithio.

Ni allai'r berthynas fod yn un ystyrlon oni bai ein bod ni’n ymddiried yn ein gilydd

Roedd hi'n bwysig i mi ein bod ni'n sefydlu ambell i reol sylfaenol ynghylch cyfrinachedd yn ein sesiwn gyntaf, am na allai'r berthynas fod yn un ystyrlon oni bai ein bod ni’n ymddiried yn ein gilydd – ac yn y broses. Fe benderfynon ni beth roeddem ni am ei gael allan o'r berthynas hefyd, ac wrth edrych nôl ar fy nodiadau, dwi'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni wedi cyflawni ein hamcanion a mwy.

Mae Sam wedi gwrando'n ofalus ar fy mhrofiadau, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad lle'r oedd hynny'n briodol. Mae Sam wedi bod yn agored am ei breiniau a'r pethau nad oedd hi’n ymwybodol ohonynt ei hunan hefyd, ac rydyn ni wedi cael trafodaethau cadarnhaol am rai o'r pynciau hyn. Yn fy nhro, dwi'n credu fy mod i wedi herio Sam i fod yn gyfaill gwell, i gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant yn amcanion PMR ei thîm, ac i fod yn fwy gweledol fel arweinydd.

Ond nid yw'r cyfan wedi bod yn un ffordd – rydw i wedi dysgu llawer o'n sesiynau. Mae cael Sam i wrando arna'i wedi bod yn bwysig dros ben i mi – alla'i ddim a dweud wrthych faint mae'n ei olygu i gael eich clywed. Ar lefel ymarferol, mae Sam wedi fy nghynorthwyo i sefydlu Rhwydwaith Gweithwyr LGBT+ ac wedi bod yn hael yn ei chefnogaeth dros godi ymwybyddiaeth am faterion LGBT+ yn y gwaith.

Fe gytunodd hefyd i noddi ein hachlysur Mis Pride gyda Gareth Thomas, na fyddai wedi gallu digwydd heb ei chefnogaeth hi. Rydw i wedi cael cyfle hefyd i gynorthwyo Tîm Arwain Adwerthu i ddatblygu cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae pob un ohonom ni am wneud gwahaniaeth

Mae gweithio gyda Sam wedi rhoi golwg i mi ar sut mae pethau'n gweithio yn uchelfannau Dŵr Cymru, gan roi'r hyder i mi barhau i ddefnyddio fy llais er budd. Mae pob un ohonom ni am wneud gwahaniaeth, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wir yn teimlo'n ystyrlon i mi.

Dwi'n teimlo bod Sam a fi wedi sefydlu perthynas weithio cadarn - r'yn ni'n deall ein gilydd ac yn teimlo'n wirioneddol gyffyrddus yn cael sgyrsiau anodd er mwyn gweithio trwy broblemau. Er bod ein trefniant mentora o chwith yn dod i ben, dwi'n hyderus y byddwn ni'n parhau i'n cefnogi a'n herio ein gilydd yn ein hymdrechion ni'n dwy i wneud Dŵr Cymru'n le lle gall pawb ddod â'u hunain cyfan i'r gwaith.