Mae’r Athro Tony Harrington, Cyfarwyddwr Amgylcheddol Dŵr Cymru, yn esbonio pam ei bod hi’n amser gwahardd weips


6 Mawrth 2024

Mae Llywodraethau ar draws y DU wrthi’n adolygu ymatebion i ymgynghoriadau er mwyn pwyso a mesur a ddylid gwahardd cynhyrchu a gwerthu weips sy’n cynnwys plastig, yn ogystal â deunyddiau eraill.

Mae’r weips yma’n niweidiol i’r amgylchedd, oherwydd – ar ôl eu fflysio – maen nhw’n dianc i’r amgylchedd ac yn achosi’r rhan fwyaf o’r tagfeydd yn ein carthffosydd– gan beri i garthion orlifo a llygru ein cymunedau a’n hafonydd a’n moroedd hynod werthfawr ar draws Cymru.

Er bod llawer o bobl yn cefnogi gwahardd weips sy’n cynnwys plastig, hwyrach nad yw’n mynd yn ddigon pell, ac efallai ei bod hi’n amser cael gwared ar yr holl weips sy’n blocio ein carthffosydd – drwyddi draw.

Mae hyn yn fater sydd wedi cael ei drafod yn faith gyda Phanel Ymgynghorol Annibynnol Dŵr Cymru ar yr Amgylchedd (IEAP), sy’n cytuno’n unfrydol fod angen i ni wahardd weips o’r fath. Sefydlwyd y Panel i herio a chefnogi ein cwmni i fwyafu gwerth ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer cwsmeriaid a’r amgylchedd, a’n helpu ni i ddiogelu dyfodol diogel a chynaliadwy ar gyfer ein hamgylchedd, un sy’n gallu cynnal yr economi ac ansawdd bywyd am genedlaethau i ddod.

Ar hyn o bryd, mae’r system garthffosiaeth yng Nghymru dan bwysau digynsail. Mae fflysio eitemau plastig na ddylai gael eu fflysio’n effeithio ar y carthffosydd. Mae Dŵr Cymru’n codi tua 420 tunnell o blastig o’i weithfeydd trin dŵr gwastraff bob mis. Mae gorfod chwistrellu’r plastigau yma trwy’r carthffosydd yn dod ar gost o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i Ddŵr Cymru – ac felly i’n cwsmeriaid – ac arian a ddylai gael ei fuddsoddi er mwyn gwella ein hamgylchedd a delio ag argyfwng yr hinsawdd yw hyn. Does neb eisiau gweld weips ac eitemau eraill yn ein hafonydd a’n moroedd – felly er mwyn atal gorfod tynnu’r pethau hyn o’n carthffosydd, mae angen i ni stopio eu rhoi nhw i mewn.

Carthffosydd wedi eu blocio sydd i gyfrif am 40% o ddigwyddiadau llygru Dŵr Cymru, ac mae’r rhan fwyaf o’r achosion hyn yn cael eu hachosi’n uniongyrchol neu eu dwysáu gan weips; digwyddiadau mae pawb am eu gweld yn cael eu dileu. Mae tagfeydd sy’n gysylltiedig â weips, ynghyd â chynnydd yn y glawiad, datblygiadau tai newydd, patios newydd a glaswellt artiffisial oll yn atal glaw rhag cael ei amsugno i’r ddaear, sy’n golygu bod mwy o ddŵr wyneb yn llifo i’r carthffosydd, gan eu gosod dan straen sylweddol. Os yw’r carthffosydd yn rhy llawn, mae gorlifoedd storm yn caniatáu iddynt ryddhau elifiant, wedi ei ryddhau’n sylweddol, trwy bwyntiau rhyddhau er mwyn osgoi llifogydd yn ein cartrefi a’n cymunedau.

Mae diddordeb y cyhoedd yng nghyflwr ein hafonydd a’n moroedd wedi dwysáu - fel y dylai. Fel cwmni, rydyn ni wedi gosod taclo problemau sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr ar ben ein rhestr o flaenoriaethau ers blynyddoedd, gyda £1.5bn o wariant hyd yn hyn. Yn amodol ar gydsyniad rheoliadol, rydyn ni wedi clustnodi £1.9bn i wella’r amgylchedd rhwng 2025 a 2030, sy’n uwch o lawer na’r cyfnod buddsoddi cyfredol. Ond dim ond un darn o’r pos yw cyfraniad Dŵr Cymru at y problemau hyn.

Mae hi’n rhy syml o lawer edrych ar y materion sy’n ein hwynebu a meddwl y gall ein cwmni ni ddatrys yr her mewn ffordd gynaliadwy ar ei ben ei hun. Mae angen i ni weithredu i atal plastigau untro rhag mynd i’n carthffosydd, ac rydyn ni’n gweithio gyda chwsmeriaid, sy’n gallu helpu i ‘Stopio’r Bloc’ trwy ymgyrch Dŵr Cymru i annog pobl i newid eu hymddygiad a pheidio â fflysio dim ond y 3 P – sef Pŵ, Pi-pi a Phapur – i lawr y tŷ bach. Rhaid i ni symud i gyfeiriad gwasanaeth carthffosiaeth mwy cynaliadwy, lle, yn hytrach na gwario miliynau ar fflysio ein carthffosydd, rydyn ni’n buddsoddi’r arian yna ym mlaenoriaethau ein cwsmeriaid – fel gwella rhagor ar ansawdd dŵr neu welliannau i fioamrywiaeth.

Rydw i wedi gweld effaith tagfeydd weips â’m llygaid fy hun yn ystod fy 12 mlynedd gyda’r cwmni. Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n cael ei reoli gan rymoedd y farchnad, sy’n cael eu llywio gan anghenion tymor byr y gymdeithas yn bennaf. Rydyn ni’n dda iawn am ddyfeisio pethau fel weips, sy’n gwneud bywyd yn fwy cyfleus i ni i gyd, heb ddeall goblygiadau amgylcheddol eu defnyddio a’u gwaredu. Nid yw cynhyrchu pethau i’w defnyddio unwaith a’u taflu i ffwrdd yn effeithlon, ac nid yw’n gynaliadwy yn y pen draw. Mae’n debyg taw ymyrraeth reoliadol yw’r unig ffordd effeithiol o reoli grymoedd y farchnad ac i ble maen nhw’n mynd â’n cymdeithas. Rydyn ni wedi buddsoddi hefyd mewn nifer o atebion arloesol i geisio taclo’r problemau sy’n achosi tagfeydd mewn weips yn uniongyrchol. Rydyn ni’n dod i ddiwedd treial ar gyfer dyfais sgrinio newydd (sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn Abertawe) sy’n codi malurion gan gynnwys weips mewn ffordd effeithlon ac effeithiol, fel na allant ddianc o’r gorlifoedd storm.”

Ond beth am y ‘weips y gellir eu fflysio’? Fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, nid yw labelu’r cynnyrch hyn â nodyn ‘pheidiwch â fflysio’ yn ddigonol , ac nid yw’n rhoi arweiniad clir i ddefnyddwyr y dylid taflu cynnyrch o’r fath i’r bin yn hytrach na’u fflysio i lawr y tŷ bach. Rwy’n dweud hyn ar sail yr ‘awtopsïau’ ar y pethau sy’n creu bloc yn ein carthffosydd, sy’n cadarnhau bod weips y gellir eu fflysio yn dal i flocio carthffosydd. Pe bai modd gwella sut mae’r cynnyrch yn cael ei labelu, a’i wneud yn amlwg (ar flaen y pecyn), yn glir, ac yn orfodol, y gobaith yw na fyddai angen ymestyn y gwaharddiad ymhellach i weips heb blastig. Fodd bynnag, fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae cynnyrch untro o’r fath yn cael ei fflysio ac yn tagu carthffosydd gan achosi llygredd a llifogydd. Am y rheswm yna, byddem yn dadlau’r achos dros ehangu cwmpas unrhyw waharddiad o’r fath.

Mae’r dystiolaeth yn glir. Rhaid i ni symud i gyfeiriad dyfodol mwy cynaliadwy trwy leihau effaith y gymdeithas ar ein hafonydd a’n moroedd wrth addasu i newid hinsawdd. Mae gan bob un ohonom ni rôl i’w chwarae wrth helpu i amddiffyn ein hamgylchedd, a byddai gwaharddiad ar weips yn sicrhau canlyniadau uniongyrchol er budd yr amgylchedd, yn ogystal ag ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol.