Canolfan Eden Gate, Casnewydd: Stori Katie


20 Tachwedd 2023

Fel cwmni, rydyn ni’n gweithio’n galed i gydweithio â’n cymunedau. Yn y blog yma, cewch glywed rhagor am waith arloesol ein Prosiect Cymunedau Gwydn o ran Dŵr yng Nghasnewydd - a sut mae’n ymdrechu i gael effaith ychwanegol wrth helpu cwsmeriaid i daclo heriau.

Cefndir

Mae’r Prosiect Cymunedau Gwydn o ran Dŵr am ddull o weithredu sy’n cael ei arwain gan werthoedd ac yn seiliedig ar le wrth weithio gyda chymunedau ar draws holl gwmpas y cymorth a gynigiwn – gan ysbrydoli cymunedau cadarn.

Mae’n cynnwys cydweithio ystyrlon, presenoldeb uwch a dealltwriaeth ddwys o’r sialensiau sy’n wynebu cwsmeriaid yn yr ardal. Yng Nghasnewydd, roedd hyn yn golygu gweithio gyda dros ugain o grwpiau a sefydliadau – o ganolfannau cymunedol i gymdeithasau tai, canolfannau i bobl ddigartref i ysgolion. Diolch i gymorth menter gymdeithasol Grow Social Capital, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru a Busnes yn y Gymuned, mae’r prosiect wir wedi elwa ar bwrpas newydd o ran ei waith cymunedol.

Mae’r prosiect yn hyrwyddo dull arloesol o weithredu hefyd. Er enghraifft:

Sut ydych chi’n cynorthwyo cwsmeriaid sy’n delio â dyledion yn yr ardal?

I ni, roedd hyn yn golygu mynd â’n cynghorwyr dyledion allan o’r ganolfan gysylltu i’r ganolfan gymunedol, gan helpu i gynnig cymorth a meithrin ymddiriedaeth. Y canlyniad?

“Rwy’n nerfus iawn wrth siarad ar y ffôn. Fe ddes i i lawr yma heddiw, ac mae’r dyn wedi rhoi cymorth i mi. Rwy’n trio rhoi trefn ar bethau. Mae pethau’n dynn iawn. Rwy’n teimlo bod popeth yn fy llethu’n ddiweddar.

Cyhyd ag y byddaf i’n cadw i fyny â’r taliadau ar y tariff newydd, caiff y dyledion eu clirio.”

Sut ydych chi’n mynd ati i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn datblygu sgiliau eang, gwybodaeth ac ysbrydoli diddordeb yn niwydiant y cyfleustodau at y dyfodol?

I ni, mae hyn yn golygu mynd â’n tîm addysg i mewn i ddosbarthiadau i ddarparu gweithdai pwrpasol, ymarferol ac addysgiadol. Y canlyniad?

“Gan ddefnyddio’r chwyddwydrau bach yna, fe edrychais i ar was y neidr - roedd ganddo gynffon hir a llygaid mawr!”

Sut ydych chi’n codi dyheadau pobl, ac yn helpu i daclo diweithdra?

I ni, mae hyn yn golygu gweithio gyda hyfforddwyr gwaith o’r canolfannau gwaith lleol, darparu gweithdai cyflogadwyedd sy’n arwain at gyfleoedd go iawn o fewn cwmni. Y canlyniad?

“Mae hi wedi rhoi llawer o gefndir i mi na fyddwn i wedi ei gael o’r blaen. Mae gen i fwy o wybodaeth i allu ymgeisio am swydd.”

Meithrin partneriaeth â Chanolfan Eden Gate yng Nghasnewydd

“Mae yna rai sialensiau sydd ddim cweit mor amlwg i ni ar adegau. Mae llythrennedd yn un mawr - dyw pobl ddim yn hoffi dweud nad ydyn nhw’n gallu darllen.”

Pan siaradon ni â Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Eden Gate i Bobl Ddigartref yng Nghasnewydd, gwnaeth sawl peth i ni aros a meddwl. Dyna pam fod y cyfle i chwarae rhan wrth helpu eu gwesteion i’w helpu eu hunain mor anhygoel o werth chweil i ni.

Wrth i ni ddatblygu’r bartneriaeth annhebygol yma, daeth hi’n gliriach i ni i ba raddau y gallem gynorthwyo gwesteion y ganolfan i oresgyn rhai o’r rhwystrau oedd yn gysylltiedig â digartrefedd.

Trwy weithio mewn ffordd cydgysylltiedig, fe gynigion ni gymorthfeydd i gwsmeriaid bregus, archwiliadau effeithlonrwydd dŵr, cyllid cymunedol (ar gyfer gardd les) a sesiynau llythrennedd i oedolion. Cafodd y sesiynau llythrennedd eu cyd-gynhyrchu er mwyn cynnwys dinasyddion, a’u cyflawni ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl. Roedd hyn wir yn golygu rhywbeth i westeion y ganolfan.

Dyma’n Cymuned yn Adrodd ei Stori ei Hun: Cynorthwyo Katie

“Fe gollais i allan ar lawer o bethau fel plentyn. Felly dyma’r union beth sydd ei angen arna’i. Os rhowch chi lyfr i mi, bydd hi’n ymdrech.”

Fel yr adroddwyd gan ein partneriaid yng Nghanolfan Eden Gate, mae Katie, 33 yn westai sy’n mynychu yn rheolaidd. Ar ôl dod yn ddigartref, dechreuodd Katie a’i phartner fynychu Eden Gate a chymryd rhan yn y rhaglen galw heibio a Shoulder 2 Shoulder. Am ei bod hi’n caru anifeiliaid, a chathod yn arbennig, roedd Katie yn awyddus i gymryd rhan yn y sesiynau fferm ymarferol oedd yn rhedeg mewn partneriaeth â lloches anifeiliaid All Creatures Great and Small. Helpodd Katie gyda phrosiect Gardd Flaen Eden Gate hefyd, lle aeth y gwesteion, gyda chymorth y staff, ati i harddu darn bach o dir o flaen y ganolfan.

Ar ôl gweld manteision cysylltiadau personol, ac am ei bod am wneud newidiadau cadarnhaol yn ei bywyd, dechreuodd Katie gymryd rhan mewn llawer o’r prosiectau, gan fwynhau ac elwa ar y cysylltiadau cymdeithasol a’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd o ganlyniad.

Ym mis Gorffennaf 2023, gyda chymorth Dŵr Cymru a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol, dechreuodd Eden Gate gynnal sesiynau sgiliau lythrennedd wythnosol ar gyfer gwesteion oedd am wella eu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Cofrestrodd Katie i gymryd rhan, a’i phrif gymhelliant yn hynny o beth oedd ei hawydd i sefyll y prawf theori gyrru, y cam cyntaf ar y llwybr i yrru a pherchen ar gar, sy’n rhywbeth roedd hi wedi bod yn awyddus i’w wneud ers amser.

Mae Katie wedi elwa’n fawr ar y cymorth fesul un a gafodd gan yr athrawon hyfforddedig oedd yn gwirfoddoli eu hamser o Ddŵr Cymru, ac o ganlyniad, mae ei sgiliau darllen a’i hyder wedi gwella’n fawr trwy’r sesiynau. Mae’r athrawon, staff Eden Gate ac yn bwysicach na neb, Katie ei hun wedi sylwi ar ei chynnydd. Diolch i’r cynnydd yn ei hyder, bwciodd Katie i sefyll ei phrawf theori gyrru ym mis Tachwedd 2023 ac rydyn ni’n falch o ddweud iddi lwyddo. Mae hi’n awyddus i barhau i adeiladu ar ei llwyddiannau, ac mae’n annog pobl eraill i gael ysbrydoliaeth i wneud yr un fath.

Mae Katie wedi wynebu nifer o anawsterau yn ystod ei bywyd, ac er ei bod hi’n dal i fod ar siwrnai i’w datblygu ei hun, mae ei phenderfyniad i gymryd rhan yn Rhaglen Shoulder to Shoulder Eden Gate wedi bod yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad iawn, yn arbennig wrth ddatblygu ei sgiliau llythrennedd.

Mae Eden Gate yn awyddus i fynd gam ymhellach trwy gynorthwyo gwesteion i ddatblygu sgiliau rhifedd trwy gymysgedd o sesiynau ar sail gweithlyfrau ac ymarferol, fel siopa a chyllidebu.

Mae’r astudiaeth achos yma’n dangos sut y gall gweithio gydag unigolyn fel Katie i ddatblygu profiadau cadarnhaol, a sut y gall meithrin gwybodaeth ymarferol gael effaith aruthrol wrth helpu rhywun gyda’u hunanddatblygiad. Mae’n dangos hefyd beth y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol i gyflawni nodau cyffredin.

Wrth grynhoi, meddai Katie: “Rydw i mor ddiolchgar i Eden Gate, ac yn arbennig i Dîm Addysg Dŵr Cymru a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd, sydd wedi bod o gymorth mawr i mi. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cymorth a’u hamynedd. Fe wrandawon nhw arnaf i a chymryd yr amser i ddeall fy anawsterau gyda dysgu a darllen. Rwy’n gobeithio y bydd pobl eraill yn penderfynu cymryd rhan hefyd pan fyddan nhw’n barod”.

I Ddŵr Cymru, mae’r prosiect Cymunedau Gwydn o ran Dŵr yn rhoi sylw ar rai o’r gwahaniaethau mwyaf ystyrlon, a’r ddysg y gallwn ei gymryd o hynny - ym mhopeth a wnawn. Rydyn ni’n llawn cyffro i weld lle bydd y siwrnai’n mynd â ni nesaf.