Cadw gafael ar ein nod anrhydedd am wasanaethau cwsmeriaid


17 Chwefror 2021

Yn Dŵr Cymru rydyn ni'n gweithio'n galed bob dydd i ennill ffydd ein cwsmeriaid Rydyn ni'n gwneud hynny nid yn unig trwy ddarparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff diogel a dibynadwy ar eu cyfer, ond hefyd trwy ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid o'r safon uchaf. Felly roedd hi'n bleser mawr i ni glywed yr wythnos hon fod ein ffocws ar wasanaethau cwsmeriaid wedi ennill cydnabyddiaeth wrth i ni gynnal ein hachrediad 'Nod Gwasanaeth'.

Safon genedlaethol yw'r Nod Gwasanaeth sy'n rhoi cydnabyddiaeth annibynnol am gyflawniad sefydliadau ym maes gwasanaethau cwsmeriaid a'u hymrwymiad i gynnal y safonau hynny.  Cawsom yr achrediad am y tro cyntaf nôl ym 2018, ac yn dilyn proses ail-werthuso trylwyr gyda chwsmeriaid a chydweithwyr, rydyn ni wrth ein boddau i glywed y byddwn ni'n cynnal y statws yma tan 2024.

Dyfernir y Nod Gwasanaeth yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid ac asesiad o ymgysylltiad aelodau o staff â strategaeth gwasanaethau cwsmeriaid sefydliad. Mae'n helpu sefydliadau i ddeall effeithiolrwydd eu strategaeth ac yn clustnodi unrhyw feysydd lle gellir gwella.

Mae cyflawni achrediad Nod Masnach yn gyfle i sefydliadau – mawr a bach ac o bob math o sectorau – ddangos safonau uchel eu gwasanaethau cwsmeriaid.  Roedd y cam cyntaf yn cynnwys cyflawni arolwg o dros 2,000 o gydweithwyr am sut maen nhw'n teimlo y mae'r cwmni'n rheoli gwasanaethau cwsmeriaid. Y sgôr meincnod ar gyfer achrediad yn y maes hwn yw 70, ac rydyn ni'n falch o weld ein bod wedi sgorio 81 eleni, sy'n uwch na'n sgôr o 74 yn 2018.
 
Y cam pwysig nesaf yn y broses yw casglu safbwyntiau cwsmeriaid am ein gwasanaethau cwsmeriaid. Yma eto llwyddodd y cwmni i berfformio'n dda gan sgorio 79.2 yn erbyn sgôr meincnod o 70.  Mae hyn yn rhywbeth rydym yn arbennig o falch ohono, yn enwedig am ein bod wedi cyflawni’r fath gamp er gwaethaf pandemig Covid-19, sy'n dangos nad ydym wedi gadael i’r argyfwng dynnu ein ffocws oddi ar wasanaethu ein cwsmeriaid.
 
Yn naturiol, rydyn ni'n falch o ennill yr achrediad, ond rydyn ni'n gwybod hefyd nad oes lle i ni laesu dwylo am fod disgwyliadau cwsmeriaid yn parhau i godi. Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n parhau i weithio'n galed i gyflawni'r disgwyliadau hyn a rhagori arnynt. Dyna pam fod gennym gynlluniau eisoes i wella pethau eto fyth at y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi mwy o alluogrwydd digidol ar waith fel hunanwasanaeth, tracio gwaith ar gyfer cwsmeriaid yn fwy effeithiol, a chyfoethogi'r diwylliant o wasanaethu cwsmeriaid o fewn y sefydliad er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid bob tro.
 
Mae cynnal y safon wedi bod yn dipyn o gamp i'r cwmni ac mae'n destament i'n holl gydweithwyr sy'n gweithio rownd y cloc dros ein cwsmeriaid. Y sialens nawr yw sicrhau ein bod ni'n cynnal ein safonau wrth edrych tua'r dyfodol.