Cadw eich dŵr yn llifo… o gartref


22 Medi 2021

I'r rheiny ohonom sydd wedi arfer â gweithio ym mwrlwm canolfannau cysylltu prysur, â'r dechnoleg ddiweddaraf ar flaen ein bysedd – roedd y newid sydyn i weithio gartref yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol yn dipyn o dro ar fyd.

Ym mis Mawrth 2020, roedd Dŵr Cymru eisoes wrthi’n gweithio ar rywbeth roeddem ni'n ei alw'n 'Prosiect Connect'; gan baratoi ar gyfer lansio system deleffoni newydd sbon a fyddai'n cyflymu ac yn symleiddio pethau i'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr sy'n gweithio yn ein canolfannau cysylltu.

Ond pan darodd y pandemig, bu angen cyflymu'r prosiect – a hynny ar fyrder. O fewn wythnos, roeddem ni wedi trosglwyddo tua 1,000 o bobl i weithio gartref fel y gallem barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid wrth gadw ein gweithwyr yn ddiogel yn eu cartrefi.

Dros y misoedd a ddilynodd, fe ddysgon ni lawer am fanteision a sialensiau gweithio o bell. Ac rydyn ni'n dal i ddysgu hefyd. O’r rhyddid rhag teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith a chael mwy o amser i fynd allan i'r awyr agored, i jyglo gofal plant a hiraethu am baned gyda chydweithwyr, fe sgwrsion ni ag ambell un o'n cydweithwyr i weld sut mae'r profiad o weithio o bell wedi bod iddyn nhw…

Jason Elward, Ymgynghorydd Arbenigol Cymorth i Gwsmeriaid

"Y peth rwy'n ei fwynhau'r mwyaf am fy rôl yw'r ffaith fy mod i'n gallu gwneud gwahaniaeth ym mywydau ein cwsmeriaid sydd wir mewn angen.

“Fe ymunais i â Dŵr Cymru ym mis Gorffennaf 2020 pan oeddem ni eisoes yn gweithio gartref. Rwy'n hoffi gweithio o bell a dweud y gwir, am ei bod hi'n caniatáu mwy o hyblygrwydd ac mae peidio â gorfod teithio nôl ac ymlaen i’r gweithle’n ei gwneud hi’n haws o lawer taro cydbwysedd go iawn rhwng bywyd a gwaith. Diolch i’r drefn, rwy'n gallu cyflawni fy rׅôl gyfan o gartref, ond rwy'n deall ei bod hi'n wahanol i bobl eraill.

“Dyw meithrin perthnasau gwaith â phobl ddim yr un fath â bod yn y swyddfa, ac rydych chi'n gweld eisiau gweithio gyda phobl, ond fel unig blentyn, ‘dwi wedi hen arfer â bod ar fy mhen fy hun! A diolch i ddatblygiadau technolegol, rydyn ni wedi lleihau’r effaith am ein bod ni i gyd cwta neges 'Teams' i ffwrdd wrth ein gilydd, ac mae'r tîm bob amser wrth law i helpu!

"Rwy'n mwynhau peidio â gorfod codi mor gynnar a chael ffitio gwaith o gwmpas ymrwymiadau eraill, ond rwy'n gweld eisiau'r cyfeillgarwch sy'n dod o weithio mewn swyddfa."

Ceris Dartnell, Aelod o'r Tîm Cyfryngau Cymdeithasol

"Rydw i wir yn mwynhau fy ngwaith – mae hi'n amrywiol iawn gyda gwahanol fathau o ymholiadau cwsmeriaid yn dod i mewn, ac rydw i wir yn dwlu gallu helpu cwsmeriaid i ddatrys eu problemau’n gyflym.

“Sut rydyn ni'n cyfathrebu â'n gilydd yw'r sialens fwyaf rydyn ni wedi ei hwynebu ers i ni fod yn gweithio o gartref, ond nawr mae gennym ni ffyrdd newydd o gael gafael ar ein gilydd yn gyflym pan fo angen. Cefais i hyfforddiant newydd wrth weithio gartref a chefais fy synnu ar yr ochr orau gan y ffordd y cafodd y cwrs ei gyflwyno.

“Rwy'n mwynhau gweithio gartref, yn enwedig am ei bod hi'n golygu peidio â gorfod eistedd mewn traffig ar y ffordd yn ôl ac ymlaen i'r swyddfa! Ac mae'r pethau bach yn braf hefyd – fel gallu rhoi eich golch yn y peiriant wrth gael brêc, neu eistedd a chael cinio yn yr ardd yn yr heulwen (pan ddaw’r tywydd braf)!”

Gail Edwards, Ymgynghorydd Arbenigol Cymorth i Gwsmeriaid

“Rwy'n helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus, gan geisio lleihau eu taliadau, neu weithiau jyst yn cynnig clust i wrando iddyn nhw. Rwy'n dwlu ar y ffaith ein bod ni'n gallu cynnig cymorth, a bod Dŵr Cymru'n cynorthwyo cynifer o bobl. Mae natur fy ngwaith yn golygu bod rhai galwadau'n ddigon emosiynol, felly rwy'n gweld eisiau cael cydweithwyr wrth law i gynnig cymorth emosiynol ar ôl galwad anodd.

"Y peth gorau am weithio gartref yw fy mod i'n cael paneidiau cyson am fod fy ngŵr wedi ymddeol! Mae hi'n braf gallu cael fy nghŵn, Budweiser a Stowford Press gyda fi yn fy swyddfa gartref hefyd. Mae pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr; mae'n hyfryd gallu mynd allan i'r ardd am egwyl pan fo'r tywydd yn braf a chael bod adref pan fo parseli'n cyrraedd.”

Dim ots a ydyn ni yn y swyddfa neu'n gweithio gartref, rydyn ni wastad yma i helpu i ateb cwestiynau, datrys problemau a chynnig cymorth. Dim ots a ydych chi’n dewis siarad â ni ar lein neu dros y ffôn – r'yn ni yma i helpu!