Yma i chi – Stori Kim


28 Ionawr 2022

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n deall fod ar rai o'n cwsmeriaid angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd.

Nawr, yn fwy nag erioed, r’yn ni'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn wynebu sialensiau ariannol a phersonol a allai fod yn gwneud bywyd ychydig bach yn anodd. Felly, r’yn ni'n cymryd yr amser i'ch cyflwyno i rai o'n cydweithwyr yn Dŵr Cymru sydd yma i helpu.

Mae Kim, ein Rheolwr Cymorth Arbenigol, yn fam falch i 2 fachgen, Thomas a Lewis. Mae hi wedi bod yn briod â Jonathan ers 27 mlynedd ac mae ganddynt 2 ddaeargi tarw Swydd Stafford, Lola a Bleu. Mae'r pâr wedi prynu fan VW T6 a'i throsi'n ddiweddar, ac maen nhw'n edrych ymlaen at gael teithio gyda'r cŵn dros yr haf. Ymddangosodd fel ecstra ar Dr Who un tro!

Felly, gadewch i ni glywed sut mae Kim yma i chi.

Sut gall Kim eich helpu chi

Mae fy nhîm yn gyfrifol am gymryd galwadau gan gwsmeriaid bregus a darparu'r cymorth sydd ei hangen arnynt. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n cynorthwyo dros 130,000 o gwsmeriaid i leihau eu biliau dŵr trwy dariffau cymdeithasol, ac mae dros 110,000 o gwsmeriaid wedi cofrestru ar gyfer ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth am ddim erbyn hyn.

Mae'r adborth a gawn yn rhagorol, ac mae cwsmeriaid yn aml yn cael eu siomi ar yr ochr orau gan ba mor drugarog a pharod i wrando ydyn ni. Mae pobl yn aml yn ein diolch ni am gymryd yr amser i wrando ac am ddarparu cymorth nad oedden nhw’n ymwybodol y gallent ei gael.

Testun balchder i Kim

Yn ddiweddar fe gynorthwyon ni ddyn oedrannus trwy ddod o hyd i ollyngiad a'i drwsio iddo. Bu modd i ni leihau bil y cwsmer yn sylweddol trwy ychwanegu tariff cymdeithasol at ei gyfrif a sicrhau ei fod yn cael cymorth trwy ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw'r gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth fel y gall cwsmeriaid roi gwybod i ni am eu hamgylchiadau, ac fel y gallwn gynnig cymorth ychwanegol iddynt pan fo angen. Er enghraifft, yn achos y gŵr o dan sylw, pe bai problem yn codi gyda'i gyflenwad dŵr, byddem ni'n mynd â chyflenwad o ddŵr potel allan ato.

Ond nid dyna'r cyfan. R’yn ni'n aml yn gweithio gyda sefydliadau eraill sy'n rhannu'r un gwerthoedd â ni, felly fe gyfeirion ni'r gŵr at 'Gofal a Thrwsio', un o'r sefydliadau rydym ni'n cydweithio'n agos â nhw sy'n cynorthwyo cwsmeriaid oedrannus i barhau i fyw yn eu cartrefi. Bu modd i Gofal a Thrwsio gynnig atebion ymarferol eraill i helpu'r gŵr i barhau i fyw'n annibynnol mewn cartref cynnes, diogel a hygyrch.

Pam fod Kim eisiau helpu

Gallaf ddweud yn onest fy mod i wrth fy modd yn gweithio dros gwmni nid-er-elw sydd wir yn rhoi ei gwsmeriaid yn gyntaf ac sydd wir yn poeni am lesiant ei bobl. Mae gwybod fod beth rydw i a fy nhîm yn ei wneud yn cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau rhai o'n cwsmeriaid mwyaf bregus yn fy ngwneud i’n hapus. Mae fy rôl mor werth chweil.

Rwy'n credu bod fy mlynyddoedd o brofiad o weithio gyda chwsmeriaid dan amgylchiadau bregus, ynghyd â fy natur ddigyffro a’m gallu i uniaethu, yn caniatáu i mi ddeall y sialensiau pob dydd y gall pobl eu hwynebu. Mae hyn yn fy nghynorthwyo i arwain tîm sy'n gallu sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo'n ddigon diogel i rannu eu sialensiau â ni. Trwy hynny, gallwn ddeall eu hamgylchiadau unigol go iawn, a darparu'r cymorth sydd orau iddyn nhw.

Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol gan Ddŵr Cymru unrhyw bryd, peidiwch â diodde'n dawel. Dim ots a ydych chi mewn trafferthion ariannol, yn dioddef o anhwylder meddygol, neu os oes gennych bryderon eraill am eich bil dŵr, cysylltwch - r'yn ni yma i chi.