Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Lansio Ysgoloriaeth Amanda Soady


8 Mawrth 2023

Yn Dŵr Cymru, rydym wedi ymrwymo i gydnabod a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thrin pobl eraill ag urddas a pharch bob amser. Dyna pam rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bob blwyddyn.

Rydym yn cynnal sawl digwyddiad ar draws y busnes i nodi’r diwrnod, gan gynnwys sgwrs gan y siaradwraig wadd Philippa Tuttiett, wyneb rygbi menywod, sylwebydd chwaraeon a pherchennog cwmni adeiladu cyntaf y DU ar gyfer menywod yn unig.

Mae eleni yn arbennig o bwysig i Dŵr Cymru wrth i ni ddathlu bywyd Amanda Soady, cydweithwraig annwyl a fu farw yn gynharach eleni.



Gallwch glywed gan Sally Gronow, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid wrth iddi esbonio mwy am yr ysgoloriaeth yr ydym yn ei lansio yn enw Amanda.

“Roeddech chi bob amser yn gwybod pan oedd Amanda ‘yn yr adeilad’. Roedd hi bob amser yn arwain ei meysydd busnes â llawer iawn o falchder, egni, penderfyniad, a brwdfrydedd ac roedd yn arweinydd allweddol yn ystod digwyddiadau gweithredol.

“Roedd Amanda yn un o’n harweinwyr benywaidd cynharaf a mwyaf amlwg yn y busnes. Roedd yn adnabyddus ac yn cael ei pharchu ym mhob rhan o Dŵr Cymru a’r diwydiant dŵr ehangach, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol yn fwyaf diweddar.

“Yn drist, bu farw Amanda yn gynharach eleni yn dilyn brwydr yn erbyn canser. Mae ei cholli wedi cael effaith ddwys ar y busnes, felly rydym yn nodi ac yn cydnabod y gwaddol y mae hi wedi’i adael gydag ysgoloriaeth yn ei henw.”

Mae Ysgoloriaeth Amanda Soady, mewn partneriaeth â Rhaglen Ddŵr Iau Ewrop (EJWP), ar gael i fenywod sy’n gweithio i Dŵr Cymru sydd â meddwl agored, yn hyblyg, ac yn angerddol ynghylch y diwydiant dŵr a’i heriau. Bydd un gydweithwraig yn cael ei dewis bob blwyddyn, a bydd yn cael hyfforddiant personol a phroffesiynol yn rhan o raglen hybrid ran-amser dros gyfnod o ddwy flynedd.

Rhoddir cyfle i gydweithwyr ifanc benywaidd ddatblygu eu sgiliau allweddol, gan gynnwys:

  • Datblygu rhwydweithiau
  • Cyfathrebu ac amrywiaeth
  • Gwelliannau technegol a mwy

Bydd Ysgoloriaeth Amanda Soady yn agor yn swyddogol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sydd â’r thema #CroesawuTegwch.

Ychwanegodd Sally, “Rydyn ni eisiau cymryd yr amser hwn i gofio Amanda a’r esiampl a osododd i fenywod eraill yn ein busnes – sydd yn nodweddiadol wedi’i ddominyddu gan ddynion. Bydd yr ysgoloriaeth yn galluogi mwy o fenywod o’r un anian i ddilyn yn ôl-traed Amanda.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y dalent anhygoel fydd yn dod drwy’r ysgoloriaeth hon a mwy o arweinwyr sy’n fenywod yn Dŵr Cymru a’r diwydiant ehangach.”

Ychwanegodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol, “Yn ffrind da ac yn gydweithwraig am dros 30 mlynedd, gwelais Amanda yn datblygu i fod ein harweinydd gweithredol benywaidd cyntaf ac amlycaf. Ar hyd y daith honno dangosodd ymrwymiad ac ymdeimlad o ddyletswydd i wneud ei gorau glas dros ei phobl a’n cwsmeriaid ni a oedd yn ddilys ac wedi’i seilio ar yr holl werthoedd yr ydym ni’n ceisio eu cyflawni yma yn Dŵr Cymru.” Gallwch ddysgu mwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Dŵr Cymru yma a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yma.