Cwrdd â'r Prentisiaid
6 Chwefror 2023
Heddiw yw dechrau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023. Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n hynod o falch o’n rhaglen prentisiaethau arobryn, ac eleni mae gennym 50 o brentisiaethau i’w cynnig - sy’n fwy nag erioed o’r blaen.
Mae’r cyfleoedd cyffrous yma ar draws ein timau dŵr, dŵr gwastraff a chymorth mewn amryw o leoliadau ledled Cymru, a byddan nhw’n rhoi’r cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd wrth weithio, ac ennill cyflog cystadleuol.
Yn Dŵr Cymru mae gennym lawer o weithwyr sydd wedi cychwyn fel prentisiaid yn y busnes sy’n gwneud gwaith bendigedig i ni bob dydd. Rydyn ni’n credu’n gryf bod ein prentisiaethau’n cynnig llwybr llwyddiannus i yrfa gwerth chweil sy’n rhoi boddhad mawr.
Ond peidiwch â derbyn ein gair ni.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, cawsom sgwrs gyda Bronnie Jones a Chloe Edwards, a ymunodd â ni’r llynedd fel Prentisiaid Gwasanaethau Cwsmeriaid, i glywed rhagor am eu siwrnai fel prentisiaid.
Sut mae’r brentisiaeth wedi bod hyd yn hyn?
Bronnie: Rydw i wir yn mwynhau fy amser fel prentis gyda Dŵr Cymru. Mae pob diwrnod yn sialens newydd, rydyn ni’n cael siarad â chynifer o wahanol gwsmeriaid o bob cefndir, gan eu cynorthwyo gydag amrywiaeth eang o ymholiadau.
Rydw i wedi cael llwyth o brofiadau’n barod ac rydw i wedi cael cyfle i ymweld â rhai o’r gweithfeydd trin er mwyn deall y broses o lanhau’r dŵr sy’n mynd i dapiau ein cwsmeriaid a sut rydyn ni’n trin ein dŵr gwastraff yn ddiogel hefyd.
Mae yna gyfleoedd newydd i ni ddysgu sgiliau newydd pob dydd, ac fel prentis rwy’n ceisio sicrhau fy mod i’n manteisio ar bob cyfle.
Beth wnaeth i ti ymgeisio am brentisiaeth gyda Dŵr Cymru?
Chloe: Roeddwn i am wneud cais am brentisiaeth gyda Dŵr Cymru am fy mod i’n gwybod bod enw da gan y cwmni - nid dim ond gyda’i gwsmeriaid, ond gyda’i weithwyr hefyd. Roedd hi’n bwysig i mi fy mod i’n gweithio gyda chwmni adnabyddus sy’n gofalu am ei weithwyr ac yn cynorthwyo eu datblygiad.
Roedd y ffaith fod y Prif Weithredwr wedi dechrau fel prentis yn dweud y cyfan, mae yna gyfleoedd di-ri i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol. Roeddwn i wedi clywed llwyth o bethau da am Ddŵr Cymru gan ffrindiau a pherthnasau, felly pan welais i’r cyfle i ddod yn brentis adwerthu, roeddwn i’n gwybod taw dyna oedd y rôl i mi.
Disgrifia dy rôl i ni.
Bronnie: Fy mhrif gyfrifoldeb yn Dŵr Cymru yw helpu cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau bilio sydd ganddyn nhw. Rwy’n siarad gyda chwsmeriaid bob dydd, ac rydw i wir yn mwynhau cael siarad â rhywun gwahanol wrth ateb pob galwad.
Yn rhan o’r brentisiaeth, rwy’n cael symud o gwmpas y gwahanol adrannau yn Dŵr Cymru, felly rydw i wir yn edrych ymlaen at sialens newydd ac ehangu fy ngwybodaeth am y busnes a’r diwydiant dŵr.
Beth yw dy hoff beth am dy rôl bresennol?
Chloe: Rydw i wir yn mwynhau’r sialens o beidio byth â gwybod beth fydd ymholiad y cwsmer nesaf i’n ffonio ni. Mae pob un dydd yn wahanol, a chewch chi byth yr un ymholiad ddwywaith!
Mae’r rôl yn gallu bod yn her, ond mae helpu ein cwsmeriaid i ddatrys eu problemau a bod yn rhan o’u siwrnai o’r alwad gyntaf yn rhoi boddhad i mi. Rydyn ni’n cael cymorth arweinwyr y tîm i ddod o hyd i’r ateb gorau ar gyfer pob cwsmer unigol bob tro, ac mae hyn yn caniatáu i ni ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer.
Sut mae’r brentisiaeth wedi cynorthwyo dy ddatblygiad?
Chloe: Rwy’n credu bod dod i mewn i’r busnes fel prentis yn dod â mwy o fuddion nac ymuno fel cynghorydd. Ein blwyddyn ni oedd y cyntaf i dreialu system newydd lle cawsom ni dair wythnos o hyfforddiant cychwynnol, wedyn cymysgedd o ddysgu trwy gysylltiadau â chwsmeriaid a chysgodi cydweithwyr yn y ganolfan gysylltu. Bu hyn yn ddefnyddiol am y bu modd i ni ddefnyddio’r wybodaeth a gawsom o’r hyfforddiant mewn sefyllfaoedd go iawn, gyda chymorth llawn ein hyfforddwyr.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi cael llwyth o gyfleoedd eraill, fel mynychu’r seremoni wobrwyo ar gyfer prentisiaethau, sesiwn cwrdd â chyfarch gyda’r tîm gweithredol, ac ymweld â’n safleoedd dŵr glân a dŵr gwastraff.
Rydyn ni wedi cael cyfle hefyd i symud o gwmpas y gwahanol adrannau yn y ganolfan gysylltu bob chwe mis, a fydd yn agor y drws ar ragor o gyfleoedd ac yn ein taclu â gwybodaeth am wahanol feysydd o’r busnes.
Beth yw dy obeithion ar gyfer dy yrfa?
Bronnie: Rwy’n gobeithio y byddaf i’n gallu datblygu fy ngyrfa gyda Dŵr Cymru am ei bod hi’n gwmni moesegol sy’n gyson â fy ngwerthoedd personol i. Mae’r cyfleoedd i ddatblygu’n arbennig, ac os ydych chi am ddatblygu, mae yna gymorth helaeth i’ch helpu chi i gyrraedd yno.
Hoffwn i gael mwy o brofiad mewn gwahanol adrannau er mwyn cael dysgu rhagor am y cwmni a’r diwydiant dŵr. Fydd hi ddim yn hir nes i fi fy ffeindio fy hun mewn swydd uwch gobeithio!
Beth fyddai dy neges di i unrhyw un arall sy’n ystyried prentisiaeth gyda Dŵr Cymru?
Chloe: Mae prentisiaeth gyda Dŵr Cymru’n ffordd wych o dyfu a datblygu – ac fe gewch chi gymhwyster hefyd! Os ydych chi’n fodlon dysgu, dyma’r rhaglen i chi. Mae yna gynifer o gyfleoedd i ddatblygu mewn nifer o wahanol adrannau a chael gwell dealltwriaeth o’r cwmni. Mwynhewch!
Bronnie: Hoffwn i ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth fod cynllun Dŵr Cymru’n cynnig cyfleoedd bendigedig. Rhaid i chi weithio’n galed, ond fe gewch chi’r rhyddid i fod yn chi eich hun, ac i gael hyfforddiant o safon uchel. Mae pawb rydych chi’n dod i gysylltiad â nhw’n gefnogol iawn ac yn awyddus i’ch gweld chi’n datblygu yn eich gyrfa.
Ond y peth pwysicaf yw mwynhau, cymryd y cyfan i mewn a chael hwyl!