Cwrdd â’r prentisiaid - Zak Marlow-Payne, Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid
6 Chwefror 2024
Dyma ni yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024! Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n hynod o falch o’n rhaglen prentisiaethau hynod lwyddiannus.
Mae’r cyfleoedd cyffrous yma ar draws ein timau dŵr, dŵr gwastraff a chymorth mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru, a byddan nhw’n rhoi’r cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd wrth weithio, gan ennill cyflog cystadleuol.
Yn Dŵr Cymru mae gennym lawer o weithwyr sydd wedi dechrau yn y busnes fel prentisiaid sy’n gwneud gwaith bendigedig i ni bob dydd. Rydyn ni’n credu’n gryf ei bod hi’n llwybr gwych i yrfa gwerth chweil gyda ni sy’n rhoi boddhad mawr.
Ond peidiwch â derbyn ein gair ni.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, fe siaradon ni â Zak Marlow-Payne, Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid, i glywed rhagor am ei siwrnai fel prentis hyd yn hyn.
Beth yw dy rôl gyfredol yn Dŵr Cymru?
Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid ydw i yn gweithio yn ein canolfan cysylltu adwerthu.
Beth oedd dy brif ddiddordebau yn yr ysgol? Oedd unrhyw gynlluniau gyrfaol gen ti? Oeddet ti wedi ystyried prentisiaeth?
Yn yr ysgol, fy mhrif ddiddordebau oedd bioleg, chwaraeon a maths. Doedd dim cynlluniau gyrfaol gen i ar y pryd, ac ar y cychwyn roeddwn i wedi bwriadu mynd i’r coleg i gael addysg bellach yn y pynciau roeddwn i’n eu mwynhau - felly bryd hynny doeddwn i ddim wir wedi ystyried prentisiaeth na hyd yn oed wedi meddwl mynd i waith amser llawn.
Sut glywaist ti am gynllun prentisiaethau Dŵr Cymru? Beth wnaeth i ti ymgeisio?
Fe glywais i am gynllun prentisiaethau Dŵr Cymru gan fy chwaer oedd yn meddwl y byddai diddordeb gen i. Fe edrychais i ar yr hysbyseb, ac roedd hi wir yn apelio ataf i - felly fe benderfynais i roi cynnig arni a gweld beth fyddai’n digwydd!
Sut ffeindiaist ti’r broses o ymgeisio a chyflwyno i’r busnes? Sut deimlad oedd clywed dy fod wedi cael dy dderbyn fel prentis?
Roedd y cais ar gyfer y swydd yn ddigon syml a rhwydd i’w lenwi, ac roedd y cyfweliadau’n grêt.
Cefais i fynd ar daith o gwmpas yr adeilad a gweld sut le gallwn ni fod yn gweithio ynddo pe bawn i’n un o’r ymgeiswyr lwcus i gael fy nerbyn ar gyfer y brentisiaeth! Ar ôl y cyfweliad, fe gymerodd hi tua 2-3 wythnos cyn i mi glywed gan Ddŵr Cymru.
Er syndod i mi, fe gefais i’r alwad wrth gerdded adre o’r ysgol - dywedodd Stacie o Ddŵr Cymru fy mod i wedi cael y swydd. Roedd hi’n foment arbennig i mi! Roeddwn i wedi sylweddoli y byddai’n fwy buddiol mynd i’r gwaith na mynd i’r coleg, a hyd yn hyn mae hi wedi bod yn benderfyniad gwych.
Dwed wrthym ni am dy siwrnai gyda Dŵr Cymru. Beth yw’r uchafbwynt i ti hyd yn hyn?
Hyd yn hyn, mae fy siwrnai gyda Dŵr Cymru wedi bod yn anhygoel ac mae llwyth o uchafbwyntiau wedi bod yn fy amser byr gyda’r cwmni. Ond yr uchafbwynt mwyaf yn fy siwrnai hyd yn hyn oedd cymryd fy ngalwadau cyntaf ar ôl cwblhau fy hyfforddiant llawn a bod yn barod ar gyfer unrhyw ymholiadau fyddai’n codi.
Sut mae’r gefnogaeth i ddatblygu dy yrfa wedi bod hyd yn hyn?
Mae’r gefnogaeth rydw i wedi ei chael hyd yn hyn wedi bod yn wych. Mae yna ateb i bopeth a ffordd o ddatrys pob dim. Does yna ddim cwestiwn twp yn y cwmni yma - fe gewch chi ateb bob tro!
Oes unrhyw gynlluniau gen ti o ran ble’r hoffet ti weld dy yrfa’n mynd?
Ar hyn o bryd, fy nghynllun gyrfaol yw aros o fewn y gwasanaethau cwsmeriaid a gweithio fy ffordd i fyny, a’r gobaith yw cael dod yn rheolwr un diwrnod.