Cwrdd â’r Graddedigion: siwrnai Laura


5 Hydref 2023

Mae ein rhaglen graddedigion ar gyfer 2024 wedi agor am geisiadau! Yma yn Dŵr Cymru, mae ein rhaglen graddedigion yn caniatáu i chi fod yn aelod o dîm sy’n darparu gwasanaeth hanfodol, datblygu eich sgiliau technegol, gwneud cynnydd, a llwyddo mewn gyrfa gwerth chweil.

R’yn ni’n chwilio am raddedigion â gradd 2:1 neu’n uwch mewn pwnc STEM neu’r rhai sydd ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau. Am glywed rhagor? Dyma Laura Duckels, un o’n Graddedigion AI…

Beth yw dy rôl yn Dŵr Cymru?

Rydw i’n dilyn y rhaglen Graddedigion AI ac fe ddechreuais i ym mis Medi 2022.

Beth wnest ti astudio yn y brifysgol a beth oedd dy syniadau am yrfa ar ôl graddio? Oeddet ti wedi ystyried cynllun graddedigion?

Fe astudiais i Mathemateg ym Mhrifysgol Leeds rhwng 2017 a 2020. Roeddwn i’n ofnus ac yn poeni am ymgeisio am swyddi, felly fe ddechreuais i ymgeisio ar ôl graddio. Doedd yna ddim llawer o gyfleoedd ar gael i raddedigion ar y pryd oherwydd y pandemig, ac roedd y rhan fwyaf o’r rolau i raddedigion yn dechrau’r mis Medi canlynol, felly sylweddolais i fy mod i wedi gwneud camgymeriad trwy aros i ymgeisio am rolau.

Yn y pen draw, fe gefais i interniaeth 3 mis yn y diwydiant dŵr gyda chwmni gwahanol, ac wedyn fe benderfynais i astudio am radd Meistr yn y Gwyddorau Data a Dadansoddeg ym Mhrifysgol Leeds yn 2021-22 er mwyn rhoi mwy o amser i mi ddod o hyd i’r swydd gywir i fi ar ôl graddio a datblygu fy sgiliau a’m cyflogadwyedd am rôl ym myd y gwyddorau data. Rhoddodd y flwyddyn yna allan o’r byd addysg yn chwilio am swyddi gwell syniad i mi am ba fath o yrfa fyddai o ddiddordeb i mi.

Sut clywaist ti am gynllun graddedigion Dŵr Cymru? Beth wnaeth i ti ymgeisio?

Yn sgil fy mhrofiad ar ôl graddio yn 2020-21, fe wnes i’n siŵr fy mod i’n defnyddio fy mlwyddyn Meistr yn ddoeth wrth ymgeisio am rolau i raddedigion er mwyn cael rhywbeth yn barod erbyn diwedd fy ngradd. Am fod gen i ychydig bach o brofiad a diddordeb yn y diwydiant dŵr, fe gadwais i lygad yn agored am rolau yn y diwydiant hwnnw.

Fe ffeindiais i Gynllun Graddedigion AI Dŵr Cymru, ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn berffaith i mi o ystyried bod y rôl yn agos iawn i’r hyn fues i’n astudio yn ystod fy ngradd Meistr. Ar ôl byw gartref yn ystod fy astudiaethau prifysgol, roeddwn i’n awyddus i symud i rywle newydd, ac roedd y syniad symud o Leeds i dde Cymru’n ddeniadol iawn i mi!

Sut ffeindiaist ti’r broses o ymgeisio a’r cyflwyniad i’r busnes? Sut deimlad oedd clywed dy fod wedi cael dy dderbyn?

Dyw cyfweliadau byth yn brofiad pleserus, ond roedd fy nghyfweliad gyda Dŵr Cymru yn brofiad digon cadarnhaol. Mae hi’n rhyfedd edrych nôl, oherwydd rwy’n adnabod y bobl a roddodd gyfweliad i mi, ond nid pwy yn union am nad oeddwn i’n eu hadnabod nhw bryd hynny. Pan gefais i’r alwad ffôn i gynnig y rôl i mi, fe dderbyniais i ar unwaith. Roeddwn i’n poeni fy mod i’n rhy frwd, ond roeddwn i’n llawn cyffro i ennill rôl mewn diwydiant a phroffesiwn oedd o ddiddordeb i mi. Rhoddodd y ffaith fod swydd gen i’n barod ar gyfer Medi 2022 ar ddechrau’r flwyddyn dawelwch meddwl i mi, a chymerodd llawer o straen oddi ar fy ysgwyddau, gan wybod y gallwn i ganolbwyntio’n llwyr ar fy ngradd.

Ble wnest ti ddechrau yn Dŵr Cymru? Dwed wrthym ni am dy siwrnai trwy’r busnes i ble’r wyt ti heddiw.

Mae’r cynlluniau Data i raddedigion y mae Dŵr Cymru’n eu cynnig yn gallu newid bob blwyddyn: mae rhai cynlluniau i raddedigion yn cylchdroi trwy’r pedwar tîm (Gwyddorau Data, Gwybodaeth Fusnes, Llywodraethu Data a Pheirianneg Data) dros y ddwy flynedd, ac mae eraill o fewn un tîm yn unig (y tîm Gwyddorau Data yn fy achos i). Er y byddai’n werthfawr cael profiad o’r holl dimau, y gwyddorau data oedd y maes roedd gen i brofiad penodol ynddo, ac rwy’n teimlo fy mod i’n gallu arbenigo’n gynt nac fel arall. Mae hi’n rhoi tawelwch meddwl i mi wybod pa rôl fydd gen i ar ôl i’r cynllun graddedigion ddod i ben.

Sut mae’r cymorth i ddatblygu dy yrfa wedi bod hyd yn hyn?

Mae Dŵr Cymru’n cynnig cynifer o gyfleoedd datblygu, y tu fewn a’r tu allan i’r rhaglen graddedigion. Ar ddechrau’r rhaglen, cefais i a fy nghydweithiwr ar y cynllun graddedigion AI y cyfle i fynychu cwrs bwtcamp mis o hyd yn y gwyddorau data ym Mhrifysgol De Cymru i’n helpu ni i ddysgu’n gyflym am dechnegau y gwyddorau data. Fel carfan o raddedigion, rydyn ni’n cael sesiynau hyfforddiant gyda’n gilydd ar bynciau fel arweinyddiaeth a rheoli sgyrsiau anodd trwy gydol y ddwy flynedd. Yn ogystal â bod yn gyfleoedd bendigedig i ddysgu, mae’r rhain yn ffordd o ddod i nabod ein gilydd yn well. Rydw i wedi bod ar nifer o ymweliadau safle i weld gweithfeydd trin dŵr a dŵr gwastraff, y canolfannau ymwelwyr a’r argaeau, sydd wedi bod o gymorth i gael darlun ehangach am sut mae Dŵr Cymru’n gweithredu.

Oes unrhyw gynlluniau gen ti o ran ble’r hoffet ti weld dy yrfa’n mynd?

Hoffwn i ddod yn hollol hyfedr yn fy rôl a bod yn llai dibynnol ar gefnogaeth fy nhîm, ac rwy’n siŵr y daw hynny gydag amser a phrofiad. Does gen i ddim nodau mawr i ddringo’r ysgol yrfaol, ac rwy’n hoffi cyflawni pethau yn fy mhwysau fy hun. Gallai fy nodau newid dros amser ac mae hynny’n iawn; rwy ddigon hapus i ddod yn fedrus yn fy rôl gyfredol.

Rydw i wir wedi mwynhau dod i adnabod y graddedigion eraill yn fy mlwyddyn ac yn y flwyddyn uwchben. Maen nhw’n griw gwych ac mae eu cyngor a’u profiad yn gallu bod yn amhrisiadwy. Mae dod i adnabod y graddedigion eraill yn ffordd rwydd o siarad ag eraill o wahanol adrannau i ehangu eich rhwydwaith, meithrin cysylltiadau pellach a chael dealltwriaeth am beth mae adrannau eraill yn gweithio arno o fewn y busnes.

Gallwch ymgeisio am ein rhaglen graddedigion 2024 yma: dwrcymru.com/graduates. Bydd ceisiadau’n cau ar 14 Ionawr 2024. Y cyflog cychwynnol ar gyfer ein holl gyfleoedd i raddedigion yw £28,105.