Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Cwrdd â'r Prentisiaid
8 Chwefror 2022
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yw hi’r wythnos hon, wythnos flynyddol i ddathlu prentisiaethau.
Yma yn Dŵr Cymru Welsh Water rydyn ni'n cynnig nifer o gyfleoedd cyffrous i brentisiaid ar draws ein timau dŵr, dŵr gwastraff a gwasanaethau cymorth. Fel prentis, cewch ddatblygu eich gyrfa o'r diwrnod cyntaf un trwy ennill profiad yn y gwaith a chyflog cystadleuol.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydyn ni'n cynnig cipolwg cyflym i chi ar fywydau rhai o'n prentisiaid sy'n helpu i gadw tair miliwn o bobl yn iach gyda dŵr yfed glân a diogel.
Dyma Chelsea
Chelsea Scriven ydw i. Dwi'n 22 oed ac rwy'n Arolygydd Rhwydwaith Dosbarthu yn gweithio yn ardal y Dwyrain.
Beth wnaeth dy ddenu di i ymgeisio ar gyfer y rhaglen brentisiaethau?
Roedd diddordeb gen i’n syth pan welais i fod Dŵr Cymru Welsh Water yn chwilio am brentisiaid. Un o brif werthoedd y cwmni yw "Ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd". Hynny oedd yr atyniad mwyaf i mi am fod rhoi gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid wedi bod yn bwysig i mi erioed.
Fe ddewisais i brentisiaeth am fy mod i'n gallu mynd amdani o'r cychwyn cyntaf i 'ddysgu’n ymarferol' a chael fy mentora gan bobl broffesiynol profiadol – a hynny oll wrth ennill arian!
Oherwydd natur fy mhrentisiaeth rwy'n astudio rhywfaint yn y dosbarth ac yn defnyddio beth rydw i wedi ei ddysgu allan yn y byd go iawn. Mae'r cymysgedd yma o ddulliau dysgu'n golygu fy mod i'n dysgu rhywbeth newydd o hyd, a dyna un o'r prif resymau pam fy mod i'n dwlu ar fy ngwaith – rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r gwaith i weld beth a ddaw bob dydd.
Beth sy'n digwydd mewn diwrnod cyffredin yn dy rôl?
Er bod fy rôl yn ymwneud â delio â chwsmeriaid, nid oes byth dau ddiwrnod yr un fath. Rwy'n gyfrifol am sicrhau bod dŵr yfed glân a diogel ar gael i'n cwsmeriaid 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae fy nhasgau bob dydd yn cynnwys delio â gollyngiadau neu fyrstiau ar brif bibellau, helpu cwsmeriaid gydag ymholiadau am eu biliau dŵr a gwirio pwysedd dŵr. Mae fy nhîm yn helpu ein contractwyr i drwsio prif bibellau dŵr a chynnal cyflenwadau dŵr hefyd, a hynny weithiau trwy ddefnyddio tanceri. Mae pob un dydd yn cynnig gwahanol senario sy’n dod â sialensiau newydd, ac rwy'n dwlu ar ddod o hyd i atebion newydd ar gyfer ein cwsmeriaid.
A oes unrhyw rannau o'r rôl sy'n ymestynnol i ti?
Un o'r heriau mawr rwy'n ei wynebu'n aml yw ymchwilio i ganfod pam nad oes dŵr gan gwsmer. Mae yna gynifer o wahanol resymau pam y gallai hynny ddigwydd, ac mae angen i mi ddefnyddio fy sgiliau datrys problemau i ddod o hyd i'r ateb. Mae hi'n gallu bod yn anodd, ond rwy'n dysgu rhywbeth newydd o bob ymchwiliad, ac mae adfer cyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid cyn gynted â phosibl yn fy ngwneud i’n hapus bob tro.
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio am le ar y rhaglen?
I unrhyw un sy'n ymgeisio am le ar y rhaglen: rwyt ti'n gwneud penderfyniad gwych wrth gymryd y camau cyntaf i ddechrau dy yrfa! Rwy'n dwlu ar fy ngwaith a byddwn yn annog pobl i edrych ar yr holl wahanol rolau sydd ar gael ac i fentro i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i wastad wedi meddwl fod addysg yn golygu ysgol, coleg wedyn prifysgol. Wrth edrych nôl nawr, byddai wedi bod yn dda i mi glywed mwy am brentisiaethau. Mae yna gynifer o raglenni prentisiaeth ar gael ar draws pob math o wahanol ddiwydiannau – dim ond dewis yr un sy'n iawn i chi sydd rhaid!
I ddechrau eich gyrfa gyda ni, ewch draw i'n gwefan i weld y rolau sydd ar gael.