Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Becca Gillam


10 Chwefror 2022

Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, sef wythnos flynyddol i ddathlu prentisiaethau. Yma yn Dŵr Cymru Welsh Water rydyn ni'n cynnig nifer o gyfleoedd cyffrous ar draws ein timau dŵr, dŵr gwastraff a gwasanaethau cymorth.

Fel prentis, cewch ddatblygu eich gyrfa o'r diwrnod cyntaf un trwy ennill profiad yn y gwaith a chyflog cystadleuol.

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydyn ni'n cynnig cipolwg cyflym i chi ar fywydau rhai o'n prentisiaid sy'n helpu i gadw tair miliwn o bobl yn iach â dŵr yfed glân a diogel.

Dyma Becca

Becca Gillam ydw i, dwi'n 28 oed ac yn Weithredwr Prosesau Dŵr Gwastraff.

Beth wnaeth dy ddenu di i ymgeisio ar gyfer y rhaglen brentisiaethau?

Ar ôl gadael y coleg fe es i'n syth i mewn i swydd fel nyrs milfeddygol. Roedd hi'n rhywbeth roeddwn i wastad wedi meddwl fy mod am ei wneud, ond roedd yna rhywbeth yng nghefn fy mhen oedd yn dweud wrtha'i nad oeddwn i'n wirioneddol hapus. Fe dreuliais i dair blynedd yn y swydd honno cyn penderfynu mynd amdani ac ailhyfforddi. Roeddwn i eisiau rhywbeth oedd yn cynnig mwy o ddatblygiad, ac ar ôl siarad â ffrind oedd yn dilyn cynllun prentisiaethau Dŵr Cymru Welsh Water, roeddwn i'n gwybod taw dyna oedd y swydd i fi. Fe gyflwynais i fy nghais a chroesi bysedd!

Roeddwn i yn y gwaith pan gynigiwyd y swydd i mi, ac roedd hi'n anghredadwy – roedd hi fel gwireddu breuddwyd.

Fe ddechreuais i fy mhrentisiaeth yn Ionawr 2021. Ar fy niwrnod cyntaf, cefais gyflwyniad i'r safle a chefais fy mharu gyda fy mydi y byddwn i'n ei gysgodi am y chwe mis cyntaf. Fe weithiais i gyda nhw i ddysgu hanfodion y rôl, a dwi wedi bod yn dysgu byth ers hynny!

Beth sy'n digwydd mewn diwrnod cyffredin yn dy rôl?

Fel gweithredwr prosesau, fy rôl i yw rheoli system o beiriannau sy'n trosglwyddo dŵr gwastraff ac yn ei drin. Mae fy nhasgau'n cynnwys sicrhau bod yr holl offer ar y safle'n gweithio fel y dylai, a samplo elifiant er mwyn sicrhau bod y safle'n cydymffurfio â’r gofynion. Os oes problem. mae angen i ni ymchwilio i weld a oes rhywbeth y gallwn ei wneud i'w gywiro. Un o'r peiriannau sy'n cael ei fonitro yw’r un sy'n cywasgu llaid i greu cacen slwtsh, sy'n cael ei gludo i ffwrdd mewn sgips i'w brosesu a'i droi'n ynni a gwrtaith.

Efallai nad yw'n waith pert, ond rwy'n dwlu ar y ffaith nad oes byth dau ddiwrnod yr un fath, ac mae yna broblemau newydd i'w datrys o hyd.

Roedd fy wythnos gyntaf yn eithaf ymestynnol, ac rwy'n cofio meddwl "be dwi wedi neud?!" ond ymhen ychydig wythnosau, fe ddechreuais i ddod i ben ac fe setlais i i mewn i'r tîm yn dda. Rwy'n gweithio yng Nghaer ar hyn o bryd, ac er taw fi yw'r unig ferch ar y tîm, dyw hynny ddim yn fy atal rhag dilyn fy angerdd. Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac maen nhw wastad yn hapus i helpu os oes unrhyw gwestiwn gen i.

Beth wyt ti wedi ei fwynhau'r mwyaf am y rhaglen prentisiaethau?

Rwy'n dwlu ar y ffaith nad oes byth dau ddiwrnod yr un fath. Bob dydd wrth gyrraedd y gwaith, mae yna broblem newydd i'w datrys ac felly rwy'n dysgu'n barhaus. Rydw i wedi mwynhau cael dysgu am ddiwydiant newydd a dechrau gyrfa mewn maes nad oeddwn i’n gwybod dim amdano ac nad oedd gen i unrhyw brofiad ohono o'r blaen. Rydw i wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr sydd wedi fy nghynorthwyo i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i lwyddo yn y rôl.

A oes yna faes o'r busnes yr hoffet ti ddysgu mwy amdano?

Yn y dyfodol, hoffwn i ddysgu rhagor am samplo elifiant masnachol. Mae unrhyw beth heblaw carthffosiaeth ddomestig (o doiledau, baddonau neu olchi dwylo) neu ddŵr glaw yn cael ei alw'n elifiant masnachol. Gall elifiant masnachol ddifrodi ein carthffosydd, ein prosesau trin carthffosiaeth a'r cyrsiau dŵr rydyn ni'n rhyddhau iddynt, ac mae'r ochr yna o'r busnes wir o ddiddodeb i mi!

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio ar gyfer y rhaglen?

Fe wnes i'r penderfyniad beiddgar i newid gyrfa yn fy ugeiniau hwyr, a dyna'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Rydw i wedi cael dysgu rhywbeth newydd a chael fy nhalu'r un pryd. Os oes rhywbeth o ddiddordeb i chi, ewch amdani. Byddwch yn chi eich hun trwy gydol y broses ymgeisio, a meddyliwch am gwestiwn i'w ofyn a fydd yn peri penbleth lwyr i'r cyfwelwyr! Efallai y bydd i'n cymryd amser i chi ffeindio'ch traed a chyflawni'ch nodau, ond ar ôl cael lle, bydd gennych chi'r amser i wneud hynny.

I ddechrau eich gyrfa gyda ni, ewch draw i'n gwefan i weld y rolau sydd ar gael.