Beth mae Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ei olygu i ni?
5 Hydref 2021
Yr wythnos hon, mae sefydliadau ar draws y wlad yn dathlu'r gorau o’r byd gwasanaethau cwsmeriaid yn rhan o Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Yma yn Dŵr Cymru, nid rhywbeth rydyn ni’n canolbwyntio arno am un wythnos o'r flwyddyn yn unig yw gwasanaethau cwsmeriaid da, mae’n ffocws i ni trwy gydol y flwyddyn.
Beth arall fyddech chi'n ei ddisgwyl gan gwmni â gweledigaeth i 'ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd'?
Fe sgwrsion ni ag ambell un o'n cydweithwyr ar y rheng flaen sy'n angerddol dros helpu cwsmeriaid am beth mae gwasanaethau cwsmeriaid da yn ei olygu iddyn nhw:
Rhys Richards-Evans
Swyddog Datrys i Gwsmeriaid
“Yn ddiweddar, roedd gan gwsmer broblem gyda dŵr yn llifo oddi ar y mynydd ger ei fferm. Am fod y gyli dŵr wyneb ar y ffordd yn llawn dail, nid oedd y dŵr yn gallu draenio, ond nid oedd e'n gallu anfon lluniau i mewn. Fe chwiliais i ar ein system, ac er nad oedd yna garthffosydd/draeniau dŵr wyneb o eiddo Dŵr Cymru’n agos at yr eiddo, fe gynghorais i'r cwsmer i gysylltu â'r cyngor lleol am y mater.
Roedd y cwsmer yn falch ein bod ni'n gallu tawelu ei feddwl am ei fod e'n ansicr ynghylch pwy y dylai drafod y broblem â nhw.
Rwy'n ddiolchgar ac yn falch o fod wedi cael y cyfle i gael gweithio dros Ddŵr Cymru. Hoffwn ddiolch i fy nhiwtoriaid sydd wedi rhoi'r wybodaeth a'r datblygiad i mi, am fod hyn yn fy ngalluogi i helpu ein cwsmeriaid a thawelu eu meddyliau trwy gynnig profiad gwasanaethau cwsmeriaid o'r safon uchaf iddyn nhw, a sicrhau ein bod ni wir yn ennill ffydd ein cwsmeriaid."
Alix Olarerin
Ymgynghorydd Cynigion i Gwsmeriaid Bregus
"I mi, wrth weithio yn y gymuned gyda chwsmeriaid sydd mewn sefyllfaoedd bregus, mae darparu gwasanaeth rhagorol yn golygu helpu cwsmeriaid i gael yr hyn sydd ei angen arnynt, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael cymorth. Mae hyn yn gallu digwydd mewn nifer o wahanol ffyrdd, o'u cofrestru ar gyfer ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a bod yn llais empathetig, i’w cyfeirio at gymorth allanol.
Mater o ddeall y darlun ehangach yw hi hefyd, a sylweddoli'r effaith y gall ein rôl ei chael ar fywydau ein cwsmeriaid. Er nad yw'n edrych fel arbediad ariannol mawr i rai, gallai'r bil fod wedi bod yn bod yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl a chorfforol rhai cwsmeriaid am eu bod nhw'n poeni am ddyledion neu'n ceisio tynnu dau ben llinyn ynghyd trwy hepgor prydau bwyd. Mae gwerthfawrogi'r ffactorau hyn a deall bod breguster yn beth cymhleth a newidiol yn ein helpu ni i ddeall y sialensiau y mae ein cwsmeriaid yn eu hwynebu bob dydd, a darparu gwasanaeth cefnogol.”
Marc Curtis
Rheolwr Perthnasau Busnes
Mae busnesau'n darparu nwyddau, gwasanaethau a swyddi hanfodol bwysig ar gyfer ein cymunedau. Mae effaith Covid-19 ar draws sectorau busnes, a'r adferiad sydd ar droed ers hynny, yn golygu nad yw ein rôl wrth eu cynorthwyo i weithredu’n effeithlon erioed wedi bod yn bwysicach. O siop leol i swyddfa, fferm neu ffatri, ein nod bob tro yw darparu gwasanaethau cwsmeriaid penigamp.
I fi a'r tîm mae hynny'n golygu:
- Cymryd yr amser i ddeall beth sydd ei hangen ar bob cwsmer a pham fod y peth yn bwysig i'r busnes.
- Cadw pethau'n glir ac yn syml.
- Cadw ein haddewidion am beth wnawn ni a phryd.
- Rhannu diweddariadau â'r cwsmer.
- Bod yn broffesiynol ac yn onest ym mhopeth a wnawn."
Chelsea Scriven
Arolygydd Dosbarthu
"Mae gwasanaethau cwsmeriaid yn rhan bwysig o fy rôl fel Arolygydd Dosbarthu, am fy mod i'n mwynhau rhyngweithio â chwsmeriaid o ddydd i ddydd.
Rwy'n cyfarch pobl â gwên bob tro ac yn ceisio bod mod hawddgar ag y gallaf i. Rwy'n teimlo bod dangos ein bod ni wir yn poeni’n ffactor bwysig wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid.
Rwy'n ceisio datrys unrhyw ymholiadau neu broblemau'r tro cyntaf bob tro ac yn sicrhau fy mod i'n gosod y disgwyliadau cywir ar gyfer cwsmeriaid. Ar ôl pob cysylltiad â chwsmer, rwy'n ceisio meddwl nôl i wneud yn siŵr fy mod i wedi gwneud popeth y gallaf i i sicrhau bod y cwsmer yn fodlon.”
Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n gwneud ein gorau i wneud y peth iawn bob tro. Er nad ydym ni'n llwyddo i wneud pethau'n berffaith y tro cyntaf bob tro (a phwy sydd yn?), rydyn ni'n falch o fod â phobl sy'n poeni am ein cwsmeriaid, a byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid bob tro.