Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:00 12 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Mae'r Academi Fasnachol Newydd yn lansio'r wythnos hon


1 Gorffennaf 2021

Mae Dŵr Cymru wedi lansio ei Academi Fasnachol, sef rhaglen a ddyluniwyd i ategu arbenigedd a gallu masnachol ar draws y busnes, ac i gynorthwyo'r amcanion busnes i gadw rheolaeth gadarn ar gostau a gwaith masnachol.

Nod yr Academi Fasnachol yn ne Cymru yw denu, datblygu a chynnal yr adnoddau masnachol gorau sydd ar gael trwy gynnig cyfle i unigolion gael profiad ymarferol trwy ddilyn rhaglenni dysgu strwythuredig ochr yn ochr â lleoliadau gwaith cylchol â ffocws masnachol.

Dyma Ryan Evans, un o’n Prentisiaid Arolygu Meintiau, yn rhannu ei brofiadau o weithio dros Ddŵr Cymru dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

Meddai: “Fe ddechreuais i gyda Dŵr Cymru ym mis Medi 2018 ar ôl penderfynu fy mod i am newid gyrfa o waith coed i arolygu meintiau. Fe ddewisais i Ddŵr Cymru am fy mod i wedi clywed pethau da am y cwmni, ac roeddwn i'n awyddus i aros yn lleol yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd rwy'n cyflawni prentisiaeth uwch wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwaith arolygu meintiau. Rwy'n gweithio yn y Gynghrair Cyflawni Cyfalaf ar leoliadau sy’n cylchdroi o fewn y busnes fel y gallaf i gael dealltwriaeth gyffredinol am sut mae Dŵr Cymru'n gweithredu. Fe ddechreuais i yn y Tîm Ymatebol, cyn symud i'r Tîm Data Cost fesul Uned. Erbyn hyn rwy'n gweithio gyda'r rheolwyr masnachol, a bydd yr holl brofiadau hyn yn fy nghynorthwyo i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i gyflawni rôl barhaol fel arolygydd meintiau. Pan fyddaf i wedi ennill fy nghymhwyster, byddaf i'n gyfrifol am reoli pob agwedd ar ochrau contractiol ac ariannol prosiectau, gan gynnwys helpu i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni o fewn y cyllidebau a bennir.

"Y peth gorau am fy rôl yw bod pob un diwrnod yn dod â sialens wahanol. Nid oes byth dau ddiwrnod yr un fath, sy'n beth da i fy natblygiad fel prentis. Mae Dŵr Cymru'n fy annog i ddysgu hefyd, trwy ganiatáu i mi fynychu'r brifysgol a gweithio’r un pryd.

"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio am rôl gyda Dŵr Cymru i fynd amdani, nid dim ond am ei bod hi'n gwmni gwych i weithio drosti, ond hefyd am fod y bobl sy'n gweithio yma wastad yn barod i helpu i'ch datblygu - nid dim ond fel gweithiwr ond fel unigolyn hefyd.

Am fanylion y cyfleoedd sydd ar gael yn yr Academi Fasnachol ar hyn o bryd, ewch i:

Y dyddiad cau yw 11 Gorffennaf 2021