Sbotolau ar Ynni Organig Dŵr Cymru
10 Medi 2021
Keeley-Ann Kerr ydw i, rwy'n gweithio fel Dadansoddwr Ynni gyda Dŵr Cymru Welsh Water. Fe ddechreuais i fy amser gyda Dŵr Cymru ar y cynllun graddedigion, ac fe dreuliais i un o fy lleoliadau gyda'n chwaer-gwmni, Ynni Organig Dŵr Cymru.
Am ei bod hi'n wythnos ddiwastraff, roeddwn i'n meddwl y byddai'n dda rhannu ychydig o wybodaeth am Ynni Organig Dŵr Cymru a sut maen nhw'n helpu i drechu'r newid yn yr hinsawdd.
Beth elli di ei ddweud wrthym am brosiect Ynni Organig Dŵr Cymru?
Partneriaeth â Chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yw Ynni Organig Dŵr Cymru. Rydyn ni'n gweithredu dau safle yng Nghaerdydd. Y cyntaf o'r safleoedd hyn yw'r safle gwastraff bwyd sydd wrth ymyl Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Dwyrain Caerdydd Dŵr Cymru ar Rover Way yn Nhremorfa. Y safle arall yw ein safle gwastraff yr ardd yn Lamby Way. Rydyn ni'n defnyddio gwastraff bwyd i gynhyrchu ynni a gwrtaith o safon uchel, a gwastraff yr ardd i gynhyrchu compost.
Rydyn ni'n trin y gwastraff bwyd trwy broses o'r enw treulio anaerobig. Proses naturiol yw treulio anaerobig, lle mae bacteria'n dadelfennu deunyddiau organig heb ocsigen, ac yn cynhyrchu bionwy. Pan fo'r gwastraff bwyd yn cyrraedd y safle, mae'n cael ei osod yn y tanciau eplesu er mwyn dechrau'r broses dreulio anaerobig. Yma, mae'r ensymau’n dadelfennu’r bwyd ar dymheredd o 38 gradd, ac ar y pwynt yma mae'r bwyd yn dechrau creu bionwy, sef cymysgedd o nwyon sy'n cynnwys methan yn bennaf. Mae'r broses ddadelfennu yma'n cymryd tua 28-32 diwrnod. Ar ôl cwblhau’r broses, mae'r cynnyrch terfynol yn cael ei basteureiddio am awr ar dymheredd o 71 gradd er mwyn lladd germau fel E-Coli neu Salmonela. Bionwy a gweddillion treulio anaerobig yw'r ddau sgil-gynnyrch a gynhyrchir.
Rydyn ni'n prosesu gwastraff yr ardd trwy gompostio. Proses fiolegol naturiol yw compostio lle mae organebau'n dadelfennu sylweddau organig ym mhresenoldeb ocsigen. Yn Lamby Way mae gwastraff yr ardd yn cael ei gompostio ar ffurf rhesgompostio, sy’n golygu cynhyrchu compost trwy bentyrru mater organig mewn rhesi hir. Mae'r gwastraff yn cael ei falu, ei gymysgu a'i osod mewn rhesi sy'n cael eu troi’n rheolaidd er mwyn rheoleiddio'r gwres a'r lleithder, a gwella'r cynnwys ocsigen. Mae hi’n cymryd 8-10 wythnos ar gyfartaledd i’r broses gynhyrchu.
Beth yw manteision y sgil-gynhyrchion hyn i'r amgylchedd?
Pe bai’r gwastraff bwyd yn ffeindio'i ffordd i'r safle tirlenwi, byddai’n cynhyrchu nwy tŷ gwydr grymus o'r enw methan, a fyddai’n dianc i'r amgylchedd gan gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Mae methan yn nwy tŷ gwydr grymus oherwydd ei botensial cynhesu byd-eang uchel, tua 28-36 gwaith yn fwy. Mesur o faint o ynni y bydd allyriannau'r nwy yn ei amsugno yw potensial cynhesu byd-eang neu GWP. Po fwyaf yw'r GWP, po fwyaf y bydd y nwy’n cynhesu'r Ddaear o gymharu â CO2 dros yr un cyfnod o amser (100 mlynedd yw'r cyfnod a ddefnyddir fel rheol).
Trwy ei drin trwy ddulliau treulio anaerobig, gallwn ddal y methan a'i ddefnyddio i danio injan sy'n creu ffynhonnell ynni. Rydyn ni'n defnyddio'r gwres yn ein prosesau trin, ac mae'r trydan a gynhyrchir yn caniatáu i'r safle fod yn hunangynhaliol, gyda'r gweddill yn cael ei ddefnyddio i bweru ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyfagos.
Gweddillion treulio anaerobig yw'r deunydd arall a gynhyrchir trwy'r broses, a gall ffermwyr neu fyd garddwriaeth ddefnyddio'r cynnyrch yma at ddibenion amaethyddol, sy'n golygu eu bod nhw'n cymryd lle gwrteithiau sy'n gofyn am lawer o danwydd ffosil.
Trwy gompostio ein gwastraff gwyrdd, mae'r allyriannau methan yn gostwng yn sylweddol. Wedyn gellir defnyddio'r compost a gynhyrchir ar brosiectau tirweddu ac adeiladu, i gynhyrchu uwchbridd neu i gyflyru’r pridd yn y sector amaeth. Mae'r ddwy broses yn helpu i hybu economi cylchol.
Pam fod lleihau gwastraff mor bwysig yn y frwydr fyd-eang yn erbyn y newid yn yr hinsawdd?
Mae ailgylchu neu ailddefnyddio'n helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd trwy leihau nifer y prosesau sy'n defnyddio llawer o danwydd ffosil, fel echdynnu deunyddiau crai neu gynhyrchu deunyddiau crai er enghraifft.
Beth yw dy hoff awgrym am ffordd o fynd ati i helpu’r amgylchedd?
Heblaw am ailddefnyddio pethau at ddibenion eraill, disodli eitemau sy'n anghynaladwy/llai cynaliadwy â rhai cynaliadwy ar ôl gorffen â nhw ddyweden i. Un newid syml y gallwn ni i gyd ei wneud yw newid i fariau siampŵ/poteli adlenwi siampŵ a chyflyrydd gwallt yn lle poteli plastig untro.