Ein rôl hanfodol wrth gynllunio datblygiadau
11 Awst 2021
Os ydych chi erioed wedi adeiladu eich cartref eich hun neu wedi chwarae rhan mewn datblygiad newydd, byddwch wedi bod trwy'r broses gynllunio sy'n rhoi caniatâd i chi adeiladu.
Ers 2016, rydyn ni wedi bod yn Ymgynghorai Statudol yn y broses gynllunio yng Nghymru yn sgil cyflwyniad newidiadau deddfwriaethol a bennodd materion dŵr a charthffosiaeth fel ystyriaethau allweddol yn y broses ddatblygu newydd.
Ond beth mae hynny'n ei olygu? Wel, pan fo rhywun yn cyflwyno cais i adeiladu i’r awdurdod lleol, byddan nhw'n gofyn i ni beth ydyn ni'n ei feddwl ac a oes gan ein rhwydwaith cyfredol y capasiti i gynnal y datblygiad newydd. Byddwn ni'n ystyried yr effaith ffisegol ar ein rhwydweithiau hefyd, ac a yw'r cynigion yn effeithio ar ein gallu i gyrchu a chynnal ein systemau'n ddiogel. Er ein bod ni'n cyflwyno sylwadau am faterion dŵr a charthffosiaeth, mae hi’n werth nodi nad ni sy'n gyfrifol am benderfyniadau cynllunio yn y pendraw, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw hynny.
Ein ffocws ni yw cydbwyso datblygiadau newydd a thwf yn ein hardal weithredol ag amddiffyn yr amgylchedd a'r gwasanaeth a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid cyfredol. Yma yn Dŵr Cymru, mae gennym lawer o dimau'n cydweithio i helpu ein datblygwyr i gysylltu â'n systemau'n ddiogel, boed yn breswyliwr yn cynllunio estyniad, neu'n gwmni tai mawr sy’n cynllunio adeiladu cannoedd o gartrefi ar safle penodol. Mae cysylltu cartrefi newydd yn ein helpu ni hefyd am ei fod yn cynyddu ffrydiau refeniw – gan ein galluogi i ledu cost gweithredu, cynnal a buddsoddi yn ein hasedau ar draws sylfaen ehangach o gwsmeriaid.
Eleni fe ymatebon ni i dros 7,300 o ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio yng Nghymru, o adeiladu un tŷ i safleoedd mawr a nifer o dai. Fe godon ni bryderon gyda 44 o'r rhain, sef cwta 0.6% o'r holl ymgynghoriadau. At hynny, trwy gydweithio bu modd goresgyn llawer o'r problemau a'r pryderon hyn trwy weithio gyda'r datblygwyr a'r awdurdodau lleol i ddod o hyd i atebion er mwyn sicrhau bod datblygiadau’n gallu digwydd heb gyfyngu ar ein gallu i ddarparu dŵr yfed diogel, a chludo dŵr gwastraff i ffwrdd yn ddiogel.
Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cydnabod y sialensiau sydd o'n blaenau ar hyn o bryd, gan gynnwys defnyddio pibellau gorlif storm – sy'n hanfodol i atal eiddo rhag dioddef llifogydd carthion mewnol mewn tywydd stormus – a lefelau ffosffadau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol.
Rydyn ni'n cydnabod ein rôl bwysig a breintiedig wrth gynorthwyo ffyniant economaidd yng Nghymru a’r rhannau cyfagos o Loegr a wasanaethwn. Rydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n buddsoddi tua miliwn o bunnoedd y dydd yn ein rhwydwaith, ac un rhan o hyn yw sicrhau ei fod yn ymatebol i dwf a datblygiad yn y dyfodol.
Rydyn ni'n gwybod hefyd fod cydweithio'n sail i'r broses gynllunio gyfan yn y pen-draw, am fod angen i ni gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol, datblygwyr, sefydliadau amgylcheddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwysicach na dim, ein cwsmeriaid a'n cymunedau – a chynrychioli eu buddiannau'n deg.
Os ydych am siarad ag aelod o’n tîm am ddatblygiad newydd, cysylltwch â ni ar 08009172652, developer.services@dwrcymru.com neu ewch i'n gwefan yma i gael rhagor o wybodaeth.
Gan Owain George, Pennaeth Cynllunio Datblygiadau Dŵr Cymru.