Ein ffora datblygwyr yn dychwelyd wyneb yn wyneb
30 Mehefin 2022
Pan gynhaliwyd ein fforwm datblygwyr ffisegol diwethaf nôl ym mis Tachwedd 2019, doedd dim syniad gennym taw hwnnw fyddai ein hachlysur wyneb yn wyneb olaf am ddwy flynedd a hanner!
Does dim amheuaeth fod y pandemig wedi ein gorfodi ni i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Cyn covid, rhan allweddol o'n rhaglen o gysylltiadau â chwsmeriaid datblygu oedd cynnal dau achlysur wyneb yn wyneb y flwyddyn, sef y ffora datblygwyr.
Yn yr achlysuron hyn, byddem yn cynnig diweddariadau ar y meysydd sy'n flaenoriaeth i'n cwsmeriaid, fel rheoliadau newydd, y gwelliannau a wnaed i'n gwasanaethau, ac yn clywed adborth gwerthfawr ganddynt am eu profiadau o weithio gyda ni ar gysylltiadau dŵr a charthffosiaeth newydd.
Ymlaen i ganol 2022, ac o'r diwedd dyma ni'n cynnal dau fforwm wyneb yn wyneb eto, y naill yng Nghaerdydd a'r llall yng Nghaer.
Gyda dros 65 o bobl yn bresennol, roedd y pynciau trafod yn amrywio o ddiweddariad ar ffosffadau sy'n achosi oedi wrth gyflawni tai newydd, a sut rydyn ni'n gweithio mewn ffordd ragweithiol â rhanddeiliaid eraill i edrych ar atebion cynaliadwy tymor byr a thymor hir i’r broblem, sut y gall cwsmeriaid datblygu wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran dŵr, a sut i reoli draenio cynaliadwy ar safleoedd datblygu.
Yn yr achlysur yng Nghaer, croesawyd y siaradwr gwadd Stephen Beauchamp, cyfarwyddwr OTB, sef cwmni geodechnegol a pheirianneg sifil arbenigol fu'n gweithio gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer ar eu draeniau dŵr wyneb newydd.
Hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni am wneud y fforwm yn llwyddiant. Ac yn fwy na dim – diolch i'n cwsmeriaid datblygu am gymryd rhan yn ein fformat nôl-i'r-arfer, am ofyn y cwestiynau craff yna, ac am rannu eu meddyliau am bynciau allweddol am y diwydiant yn agored.
Os oes diddordeb gennych fynychu ffora datblygwyr y dyfodol, e-bostiwch developer.services@dwrcymru.com er mwyn i ni'ch ychwanegu at ein rhestr bostio.