Prosiect Cartref: Symud i Gyfeiriad Newydd
3 Medi 2021
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r newid yn yr hinsawdd a newidiadau cymdeithasol yn sgil pandemig Covid-19 wedi gosod ein hadnoddau dŵr dan bwysau ychwanegol, sy'n golygu nad yw hi erioed wedi bod yn bwysicach defnyddio dŵr yn fwy effeithlon.
Ar hyn o bryd, mae'r person cyfartalog yn y DU yn defnyddio tua 150 litr o ddŵr y dydd. Mae hynny'n swno'n lot, ond mae fflysio tŷ bach unwaith yn gallu defnyddio tua 4-8 litr o ddŵr! Rhywbeth sy'n fwy o syndod yw nad yw pawb yn gwybod sut y gallan nhw arbed dŵr.
Mae prosiect Cartref Dŵr Cymru wedi bod yn helpu ein cwsmeriaid mewn cymunedau ar draws ein hardaloedd gweithredol i ddeall eu harferion defnydd a sut y gallant wneud arbedion bychain yn eu cartrefi, trwy gynnig offer a gwasanaethau am ddim:
Trwsio gollyngiadau
Mae'r prosiect Cartref yn helpu cwsmeriaid i ganfod gollyngiadau a'u trwsio – mae hynny'n gallu bod yn unrhyw beth o dap sy'n diferu i dŷ bach sy'n gollwng, sy'n gallu gwastraffu tua 12 litr yr awr. Mae hynny'n golygu gwastraffu 288 litr mewn diwrnod – sydd bron â bod cymaint â defnydd dŵr dyddiol cyfartalog dau berson.
Rydyn ni wedi creu chwiliwr cod post hwylus, sy'n caniatáu i chi weld a yw'ch eiddo yn un o'r ardaloedd hyn, ac os felly, gall ein tîm drefnu apwyntiad ag un o'n plymwyr ardystiedig, a hynny'n hollol rad ac am ddim.
Yn rhan o'r gwasanaeth yma, gallwn drwsio nifer o ollyngiadau cyffredin yn hollol rad ac am ddim. Byddwn ni'n esbonio'r mathau o waith trwsio y gallwn ei gyflawni wrth gwrdd â chi. Hyd yn oed os na all un o'n plymwyr drwsio'r broblem, gallan nhw gynnig awgrymiadau ac argymhellion i chi am ffyrdd o arbed dŵr, a rhannu manylion cwmni a fydd yn gallu'ch helpu chi.
Cynhyrchion Arbed Dŵr a'r cyfrifianell Get Water Ffit
Os nad yw eich eiddo yn un o'r ardaloedd lle'r ydyn ni'n gweithio, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddechrau eich siwrnai arbed dŵr.
Trwy ateb ambell i gwestiwn syml am eich defnydd o ddŵr yn y cartref ar ein cyfrifiannell Ffitrwydd Dŵr, gallwn gynnig cyngor i chi am newidiadau syml y gallwch eu gwneud i'ch defnydd pob dydd o ddŵr. Mae'r gwasanaeth yma'n rhoi'r cyfle i chi archebu cynnyrch arbed dŵr am ddim. Mae'r rhain yn gyflym ac yn hawdd eu gosod ac maen nhw'n gallu cynnig arbedion mawr ar eich bil dŵr.
Sut mae pethau'n newid?
Er y byddwn ni'n parhau i helpu ein cwsmeriaid i wneud arbedion yn eu cartrefi, dros y misoedd nesaf, bydd tîm Cartref yn ymestyn y gwasanaethau hyn i gynulleidfa ehangach o gwsmeriaid annomestig hefyd, gan gynnwys cyflogwyr mawr, ysgolion a chymdeithasau tai, gan gychwyn mewn 3 ardal: sef Dolgellau, Rhisga a Phontardawe.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at feithrin perthnasau pwysig â'r grwpiau hyn, gan eu cynorthwyo i wneud newidiadau gwerthfawr yn eu hamgylchedd gwaith neu gymdeithasol, ac i'r arferion hyn gael ei gweithredu yn y cartref hefyd, gan wneud defnydd cynifer o'n cwsmeriaid â phosibl yn effeithlon.
Am gael rhagor o wybodaeth? Ewch i cartref, am fanylion ein gwaith yn Nolgellau, Rhisga a Phontardawe dros y misoedd nesaf. Gallwch gael cynhyrchion arbed dŵr am ddim trwy ddefnyddio ein cyfrifiannell Ffitrwydd Dŵr hefyd yma.