Cais am fesurydd dŵr

Information

Mae nifer fawr iawn o geisiadau am fesuryddion yn dod i law ar hyn o bryd, felly gallai hi gymryd mwy o amser nac arfer i ni ymateb. Os ydych chi wedi cyflwyno cais, gallwn gadarnhau ei fod e’n cael ei brosesu ac nid oes angen i chi gysylltu â ni eto. Cewch alwad gan rif 0330 pan fyddwn ni’n ceisio trefnu apwyntiad gyda chi.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Cartref: Arbed dŵr i arbed arian


2 Chwefror 2022

Mae tîm Cartref yn gweithio'n galed i helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr, ynni ac arian. Mae lleihau eich defnydd o ynni'n newyddion da i fwy na dim ond eich biliau. Mae'n allweddol i leihau eich ôl troed carbon hefyd. Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o declynnau a dyfeisiau arbed ynni o safon uchel am ddim i'ch helpu chi i leihau’ch defnydd o ddŵr.

I archebu nwyddau am ddim, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar gyfer ein cyfrifiannell Get Water Fit, lle gallwch greu dangosfwrdd personol a fydd yn dangos i chi sut ac ymhle rydych chi'n defnyddio dŵr yn eich cartref, a ffyrdd syml o wneud arbedion. Pan fyddwch wedi creu eich dangosfwrdd, cewch archebu nwyddau arbed dŵr sy'n addas at eich anghenion, a hynny am ddim.

Pa declynnau sydd ar gael?

Pennau cawod sy'n rheoleiddio'r llif ac amseryddion i'r gawod.

Trwy newid i ben cawod sy'n rheoleiddio'r llif, gallwch leihau'ch defnydd o ddŵr yn eich cawod cymaint ag 8 litr y funud heb gyfaddawdu pwysedd y dŵr. Gallwch ategu'r arbedion hyn trwy dreulio llai o amser yn y gawod, a gallai hynny ddim bod yn haws gyda'n hamserydd 4 munud i'r gawod. Gwyliwch y fideo yma i weld sut mae gosod y pen cawod newydd - mae'n gyflym ac yn rhwydd, ac nid oes angen unrhyw offer arbennig.



Awyryddion i’r Tapiau

Gallwch ychwanegu awyryddion at y rhan fwyaf o'r tapiau yn y cartref, a thrwy ychwanegu aer at y dŵr, gallant arbed cymaint â hanner eich defnydd o ddŵr. Wnewch chi ddim sylwi ar y gwahaniaeth chwaith! Gwyliwch y fideo yma i weld sut mae gosod eich awyrydd newydd.



Bagiau dadleoli dŵr a stribedi gollyngiadau

Gall tŷ bach sy'n gollwng wastraffu tua 200 litr o ddŵr mewn diwrnod, ond mae'n gallu bod yn anodd gwybod bod problem. Mae ein stribedi canfod gollyngiadau'n ffordd syml o weld a oes dŵr yn gollwng ai peidio. Os nad ydych chi'n siŵr a oes dŵr yn gollwng ai peidio, rhowch wybod i ni ac efallai y gallwn ni helpu. Ffordd rhwydd arall o arbed dŵr yn yr ystafell ymolchi yw defnyddio ein bagiau dadleoli dŵr.  Gall y bagiau hwylus yma arbed hyd at 2 litr o ddŵr â phob fflysh. Gwyliwch y fideo yma i weld sut i osod y ddau.



Felly pam oedi?

Rydyn ni eisoes wedi cyflenwi ein cwsmeriaid â dros 9,000 o becynnau arbed dŵr – ac mae bron i 20,000 o declynnau wedi eu gosod mewn cartrefi a busnesau ar draws y wlad i gyd.

Ewch draw i'n Cyfrifiannell Ffitrwydd Dŵr  ac atebwch ambell i gwestiwn syml am eich defnydd o ddŵr o ddydd i ddydd, a chewch archebu'r nwyddau uchod a chychwyn ar eich siwrnai arbed dŵr.