Eich gosod chi wrth y llyw


15 Mawrth 2021

Mae cwsmeriaid yn dangos i ni'n gynyddol eu bod am gymryd rheolaeth dros eu harian a'u biliau eu hunain. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn brysur yn gwneud llawer o newidiadau er mwyn i chi drefnu a rheoli eich cyfrifon gyda ni.

Mae brandiau digidol blaenllaw fel Starling Bank ac Octopus Energy wedi bod yn chwyldroi sectorau eraill ers amser nawr; ac roedd hi'n glir i ni fod angen i'r diwydiant dŵr gadw i fyny. Er mwyn codi i'r her, rydyn ni wedi bod yn buddsoddi mewn newidiadau mawr sy'n rhoi'r cwsmeriaid wrth y llyw; gan ganiatáu i chi eich gweini eich hun a chyfathrebu â ni trwy sianel o'ch dewis – boed hynny ar lein, trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu trwy godi'r ffôn.

Felly beth sy'n newydd i chi?

  • Gallwch weld eich biliau ar lein. Ni fydd angen tyrchu am hen filiau mwyach! Mae Fy Nghyfrif yn eu cadw nhw i gyd mewn un lle fel y gallwch gadw trac ar eich taliadau. Ac i ni – gorau po leiaf o filiau papur fyddwn ni'n eu hanfon. Mae'n ein helpu ni i ddefnyddio llai o bapur – ac yn ein helpu ni i arbed arian hefyd. Ac fel cwmni nid-er-elw, mae hynny'n golygu y gallwn wario'r arian yna ar bethau fel diogelu'r amgylchedd, gwneud gwelliannau i'n pibellau, a chadw eich biliau mor isel â phosibl. Gallwch chi fod yn rhan o'r newid yma er gwell, a'r cyfan yn syml trwy newid i filiau ar lein!
  • Mae gennych fwy o reolaeth: Rydyn ni wedi gwneud llawer o bethau'n haws ac yn gynt i chi. Mae yna bob mathau o resymau y gallai fod angen i chi gysylltu â ni. Efallai eich bod am roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud tŷ. Neu efallai y byddwch am gyflwyno darlleniad o’ch mesurydd. Hwyrach y byddwch am newid dyddiad prosesu eich taliadau trwy ddebyd uniongyrchol. Gallwch wneud yr holl bethau hyn yn hwylus ar ên gwefan, sy'n rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich biliau a sut rydych chi'n eu talu. 
  • Mae hi'n haws cael cymorth: Mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol arnom ni i gyd o bryd i'w gilydd, felly rydyn ni wedi ei gwneud hi'n gynt ac yn haws cael cymorth pan fo angen. Os ydych chi mewn sefyllfa fregus, gallwch ymuno â'n Cofrestru Gwasanaethau Blaenoriaeth mewn dim o dro, a bydd hyn yn rhoi gwybod i ni fod angen i ni ddod â dŵr potel i'r drws os oes problem gyda'ch cyflenwad. Ac os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau dŵr, mae hi'n haws o lawer ymgeisio ar gyfer ein cynlluniau a'n tariffau ar lein erbyn hyn. 
  • Byddwch chi'n gwybod pan fyddwn ni ar ein ffordd: Dim rhagor o aros o gwmpas i glywed cnoc ar y drws. Os ydyn ni wedi trefnu galw heibio i helpu i drwsio neu ymchwilio i broblem, gallwch weld mewn amser real pa mor bell i ffwrdd mae eich peiriannydd, a hyd yn oed cyfathrebu â nhw ar hyd y ffordd gan ddefnyddio 'Tracio fy Ngwaith'.

Mae llawer mwy i ddod, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i barhau i gyflawni gwelliannau i chi. Diolch i chi am eich adborth hyd yn hyn, rydych chi wedi bod yn dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd iawn…

“Braf gweld Dŵr Cymru'n arwain y ffordd!”

“Mae'r system wedi ei dylunio'n dda, digon hawdd i dalwr biliau am y tro cyntaf ei dilyn”

“Hawdd ei dilyn ac mae'r system yn syml iawn. Trueni nad yw gwefannau eraill fel hyn!”

“Tudalen gwe fendigedig, mor hawdd a didrafferth i'w defnyddio!”

“Dyluniad llyfn iawn a thudalennau gwe effeithlon dros ben”