Cadwch beryglon nofio mewn cronfeydd dŵr mewn cof wrth i'r tywydd poeth ddychwelyd


20 Mehefin 2022

Mae hi'n Wythnos Atal Boddi, cyfle i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd mwynhau'r dŵr yn ddiogel.

Fe siaradon ni â'n Pennaeth Gweithrediadau Atyniadau Ymwelwyr, Mark Davies, i glywed beth rydyn ni'n ei wneud fel cwmni i helpu i gadw pobl yn ddiogel dros yr haf.

"Bob blwyddyn, mae nifer fawr o unigolion a theuluoedd yn ymweld â'n cronfeydd ac yn mynd i'r dŵr i nofio, padlo neu ddefnyddio teganau awyr, gan beryglu eu bywydau nhw, a phobl eraill.

O'r wyneb, mae ein cronfeydd dŵr yn edrych yn brydferth. Ond mae peryglon cudd yn llechu dan yr wyneb, ac mae nofio heb awdurdod yn gallu lladd.

Mae ein cronfeydd yn llawn peryglon cudd, gan gynnwys peiriannau awtomataidd cudd sy'n gallu dechrau gweithio unrhyw bryd, a cheryntau cryf iawn, sy'n gallu tynnu'r nofwyr cryfaf hyd yn oed o dan y dŵr. Mae'r dŵr yn iasoer hefyd, sy'n gallu peri i nofwyr fynd i sioc dŵr oer, ac mae'r tebygolrwydd o achub yn is mewn rhai ardaloedd oherwydd lleoliad anghysbell llawer o gronfeydd, ac yn aml nid oes gwasanaeth ffôn da neu nid oes gwasanaeth o gwbl.

Mae ein gofalwyr yn gweithio'n galed i gadw llygad ar ein cronfeydd er diogelwch y cyhoedd, ac fe welwch chi fwy ohonom ni o gwmpas y lle dros fisoedd yr haf - ond allwn ni ddim â bod ym mhobman yr un pryd. Dydyn ni ddim yma i sbwylio'ch hwyl - ry'n ni yma i'ch cadw chi'n ddiogel.

Rydyn ni'n gwybod bod mwyhau'r dŵr yn ddiogel yn gallu bod yn fuddiol dros ben i les meddwl a chorfforol pobl, felly rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu ffyrdd i bobl ailgysylltu â'r dŵr yn ddiogel."

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2020, rydyn ni'n cyflwyno gweithgareddau nofio dŵr pwrpasol ar draws safleoedd nifer fechan o'n cronfeydd sydd â chanolfannau ymwelwyr a lle'r ystyrir ei bod hi'n ddiogel ac yn briodol nofio. Mae'r sesiynau nofio dŵr agored yma'n cael eu rheoli a'u goruchwylio'n dynn, gydag achubwyr bywyd dŵr agored cymwys yr RLSS.

Mae Dŵr Cymru yn cynnal ei ymgyrch ddiogelwch 'Prydferthwch sy'n Lladd' bob blwyddyn er mwyn annog pobl Cymru i'w haddysgu eu hunain am y peryglon cudd sy'n llechu dan wyneb prydferth rhai o fannau harddaf Gymru. Os bydd unigolyn yn mynd i drafferthion yn y dŵr, mae'r RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub) yn annog pawb i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu diogelwch eu hunain a'u teuluoedd trwy gofio'r pethau hyn a allai achub bywyd rhywun:

  • Os ewch chi i drafferthion yn y dŵr, Arnofiwch i Fyw.
  • · Gorweddwch nôl a defnyddiwch eich breichiau a'ch coesau i'ch helpu chi i arnofio, wedyn cymrwch reolaeth dros eich anadlu cyn galw am gymorth neu nofio i ddiogelwch.
  • · Os gwelwch chi rywun arall mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999 neu 112. Os ydych chi wrth gronfa, afon, camlas neu leoliad mewndirol arall, gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Ar yr arfordir, gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Wythnos Atal Boddi yw'r ymgyrch genedlaethol a gynhelir gan y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU er mwyn cwtogi ar nifer y bobl sy'n boddi bob blwyddyn. Cynhelir Wythnos Atal Boddi rhwng 18 a 25 Mehefin.

I drefnu sesiwn nofio dŵr agored, ewch i: