Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 14:00 12 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Sais yng Nghymru


24 Tachwedd 2023

Ymgyrch gan Gomisiynydd y Gymraeg yw Defnyddia dy Gymraeg. Eleni, bydd yr ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ yn rhedeg rhwng 27 Tachwedd ac 11 Rhagfyr. Cyfle yw hwn i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hybu eu gwasanaethau Cymraeg ac mae’r ymgyrch yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd hefyd.

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn ei dathlu trwy gydol y flwyddyn mewn pob math o ffyrdd; gan gynnwys annog cydweithwyr i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio lle bo modd.

Yn ddiweddar, fe siaradon ni â Keith, un o’r athrawon sy’n rhan o’r tîm Addysg yma yn Dŵr Cymru. Cyn ymuno, cymerodd yr athro flwyddyn sabothol wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddysgu Cymraeg. Nawr mae’n defnyddio ei rôl yn Dŵr Cymru fel cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth yna a datblygu’n broffesiynol.

Dyma stori Keith…

Sais yng Nghymru

Fe symudais i i Gymru pan oeddwn i’n 22 oed i astudio i fod yn athro ysgol gynradd. Doeddwn i ddim wir wedi ymweld â’r wlad o’r blaen ac fe syrthiais i mewn cariad â’r wlad o dipyn i beth. Cefais fy synnu a’m drysu gan yr arwyddion dwyieithog, gan chwerthin yn fy anwybodaeth ar y digrifwyr oedd yn defnyddio’r un hen jôc o ollwng y darnau Scrabble dros y llawr. Fe ddysgais i’n gyflym i beidio byth â galw Clwb Ifor Bach yn “the Welsh Club” ac fe dreuliais i amser maith yn ceisio dysgu sut i ddweud LlanfairPG. Chi’n gwybod, y pethau arferol y mae rhywun di-Gymraeg yn eu gwneud. Heblaw am hynny, ni ddatblygodd fy sgiliau Cymraeg y tu hwnt i sgiliau dysgwr ail iaith 8 oed.

Addysgu ond Diffyg Hyder

Fel athro ysgol gynradd, rydw i wastad wedi bod un wers o flaen y plant, ond doeddwn i byth yn teimlo mod i’n gallu ateb cwestiynau am yr iaith na sut i strwythuro brawddegau, a doeddwn i’n sicr ddim yn gallu dweud wrthyn nhw pam fod Cymru’n troi’n Gymru wrth groesawu rhywun i’r wlad. Roedd fy ngwersi’n addysgu hanfodion yr iaith i’r disgyblion, ond roedd diffyg hyder a rhuglder yn aml yn ‘Faes i’w Wella’ mewn arsylwadau gwersi. Doeddwn i’n sicr ddim wedi breuddwydio defnyddio fy Nghymraeg gyfyngedig y tu hwnt i’r dosbarth, ac a bod yn onest, mae ‘”Pwy wyt ti?” yn gwestiwn digon anfoesgar i’w gyfeirio at rywun ar noson allan.

Cymraeg mewn Blwyddyn!

Ar ôl sawl blwyddyn o gynnal y lefel yma o Gymraeg, roeddwn i’n awyddus i allu siarad yr iaith yn iawn. Tua’r un pryd, daeth cydweithiwr nôl i’r ysgol ar ôl dilyn cwrs bendigedig ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’ dan adain tiwtoriaid rhagorol Prifysgol Caerdydd! Roedd hi wrth ei bodd ar y cwrs, ac er nad oedd angen gormod o berswadio arna’i, darbwyllodd fi i ymgeisio i ymuno â’r garfan nesa o athrawon. Gwnaeth y cwrs yn union fel yr oedd wedi ei addo; mewn cwta blwyddyn roeddwn i’n gallu llunio brawddegau am y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, roeddwn i’n deall pryd a sut roedd angen treiglo, ac roeddwn i’n gallu cynnal sgyrsiau â siaradwyr rhugl. Roeddwn i’n bell o fod yn rhugl, ond roedd modd fy neall i.

Nol i’r Ysgol

Dyluniwyd y cwrs ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’ i “alluogi ymarferwyr i addysgu’r Gymraeg yn effeithiol ac i drosglwyddo’r iaith i’w disgyblion” – ac roedd hi’n wych yn hynny o beth. Gwelais welliant yn fy nefnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol ac roeddwn i’n athro Cymraeg mwy medrus o lawer. Ond y tu allan i’r ysgol, nid oedd pethau fawr ddim gwell nag o’r blaen. Byddai’n cymryd lot fawr i fy annog i siarad Cymraeg - roedd hi’n amlwg fod angen hwb arna’i i’m hannog i siarad Cymraeg mewn amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd.

Dŵr Cymru

I mi, y ffordd orau o sicrhau fy mod i’n gwneud rhywbeth yw rhoi ychydig bach o bwysau arnaf fi fy hun trwy ddweud wrth bobl fy mod i’n bwriadu ei wneud e! Felly, yn ystod fy nghyfweliad am gyfle datblygu proffesiynol ar secondiad gyda Thîm Addysg Dŵr Cymru, fe ddywedais i wrth y panel, er nad ydw i’n hollol rugl, fy mod i wedi dysgu’r iaith ac yn gallu siarad Cymraeg. Fe ddywedais wrthyn nhw hefyd y byddwn i wrth fy modd i gael yr her o gyflwyno gwasanaethau, gweithdai a gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda rhaglen addysg mor helaeth ac amrywiol, hwn oedd y cyfle perffaith i wella fy sgiliau yn y Gymraeg. Roedd y panel i’w gweld yn gwerthfawrogi fy awydd i fentro’r tu hwnt i fy ffiniau cyffyrddus a chofleidio’r Gymraeg eto fyth. A chyn pen dim, fe gefais i alwad ffôn hyfryd i ddweud wrtha’i bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus. Daeth yr amser i gadw fy ngair.

Cydweithwyr Cefnogol

Mae rhaglen addysg Dŵr Cymru mor boblogaidd, erbyn i mi ddechrau i fy rôl newydd ym mis Medi, roedd llwyth o ysgolion wedi bwcio eu sesiynau’n barod, misoedd o flaen llaw. Daeth fy ymweliad cyntaf o fewn dim o dro, a doedd yna ddim troi nôl ar yr ymrwymiadau y gwnes i yn y cyfweliad! Roeddwn ni’n nerfus dros ben, ond gyda chymorth fy nghydweithwyr a digon o baratoi trylwyr, fe es i amdani! Roeddwn i’n barod i gynnal ymweliad ysgol o flaen cannoedd o ddisgyblion, yn Gymraeg!

Profiadau Aruthrol

Diflannodd fy nerfusrwydd yn ddigon buan am fod y staff a’r disgyblion sy’n siarad Cymraeg yn yr ysgolion rydw i wedi ymweld â nhw wedi bod mor hael, caredig a chroesawgar. Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i mi trwy ystumio a gwenu yn ystod y gwasanaethau, wedi helpu pan fo gair neu ymadrodd yn peri trafferth i mi, ac wedi rhoi adborth ystyriol i mi. Mae hyn wedi rhoi hwb mawr i fy hyder ac wedi caniatáu i mi ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a’r tu hwnt, heb deimlo fel ffugiwr. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle hwn i wella fy sgiliau a hoelio fy lle fel un o’r filiwn o siaradwyr Cymraeg sy’n rhan o weledigaeth Cymraeg 2050.

Ydych chi’n siarad Cymraeg? Oeddech chi’n gwybod bod modd diweddaru eich dewisiadau iaith trwy roi galwad cyflym i ni neu trwy lenwi’r ffurflen fer yma .

I gael rhagor o wybodaeth ar yr ymgyrch Defnyddiad dy Gymraeg, cliciwch yma.