Rhoi’r sbotolau ar Nikita Novoselov, Cynghorydd Cwsmeriaid


2 Tachwedd 2022

Rydym ni'n rhoi'r sbotolau ar yr unigolion ar draws Dŵr Cymru sy'n gwneud ein timau ni yn arbennig. Yr wythnos hon rydym ni’n siarad â Nikita, sy'n gweithio yn ein tîm bilio, i gael gwybod mwy am ei rôl a gwaith ei dîm.

Wnewch chi sôn wrthym ni am eich rôl?

Mae fy rôl yn cynnwys siarad â chwsmeriaid ar y ffôn yn y tîm cymorth bilio - felly mae hyn yn golygu ateb unrhyw ymholiadau neu gwestiynau a allai fod gan gwsmeriaid am eu bil. Rwy'n cael pob math o alwadau yn dod atom - o rywbeth bach fel eu bod nhw’n symud tŷ neu safle busnes, neu fod angen esbonio'r taliadau ar eu bil iddyn nhw, i rywbeth mwy fel achos cymhleth parhaus na all neb arall ei ddatrys.

Dyma'r math o broblemau rwy'n hoff iawn o fynd i’r afael â nhw - pan mae'n fater parhaus mae yna foddhad mawr mewn dweud wrth y cwsmer fy mod wedi ei ddatrys o'r diwedd. Rhan allweddol arall o fy rôl yw cefnogi fy nhîm. Fi oedd un o'r cyntaf i weithio’n hybrid a defnyddio ein meddalwedd newydd o bell, felly fe wnes i helpu aelodau eraill o'r tîm i wneud y newid i weithio’n hybrid hefyd.

Sut ydych chi'n gweithio gyda busnesau yn eich rôl?

O ystyried fy mod yn siarad â chwsmeriaid am ymholiadau biliau, weithiau gall fod yn gwsmer cartref yn ein ffonio, ond yn yr un modd gall hefyd fod yn gwsmer sy'n berchen ar fusnes. Yn aml, maent yn symud safle busnes, neu gallent fod ar ei hôl hi gyda'u taliadau ac efallai y byddant hyd yn oed yn agos at gael ei dŵr wedi’i ddatgysylltu.

We can often work with business customers to find a way to make their bills affordable or create a new payment plan that works for them. Even if it’s not your home, having your business disconnected is a last resort and can have big repercussions so we try and help customers where we can before it gets to that point.

Gyda chwsmeriaid sy'n berchen ar eu busnesau eu hunain, gallwch weld yr angerdd sydd ganddyn nhw dros eu cwmni, boed yn salon trin gwallt neu’n fferyllfa. Rydych chi bob amser eisiau sicrhau bod popeth yn mynd yn ddidrafferth iddyn nhw a'u bod yn hapus gyda phopeth cyn i chi ddod â'r alwad i ben.

Allwch chi roi enghraifft i ni o sut rydych chi wedi helpu cwsmer busnes yn ddiweddar?

Ar hyn o bryd rydym wedi bod ag achos eithaf anodd gyda chwsmer sy'n rhedeg ei fferm laeth ei hun. Ar y fferm mae ychydig o adeiladau allanol a siediau godro. Mae dau gyflenwad dŵr yn mynd i'w safle, ac roedd un yn cynnwys pibell hen iawn y dywedodd y cwsmer wrthyf ei bod wedi ei gosod gan yr Eidalwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Roedd y bibell hon yn gollwng yn y tir. Gan mai eu cyfrifoldeb nhw oedd hynny, fe wnaethon nhw osod pibell newydd, ond roedd wedi cymryd amser hir iddyn nhw sylwi ar ollyngiad gan fod y gollyngiad yng nghanol cae.

Rhwng y gollyngiad yn dechrau a nhw'n trwsio'r bibell, fe wnaethon nhw gronni bil enfawr am daliadau dŵr a charthffosiaeth. Gofynnodd y cwsmer i ni am gefnogaeth i'w helpu. O ystyried nad oedd y dŵr yn debygol o ddychwelyd i'n carthffosydd, rydym felly'n gweithio gydag ef i ddiystyru hynny o'i fil i'w wneud yn fwy fforddiadwy. Rydym hefyd yn trefnu archwiliad o'r bibell newydd dim ond i sicrhau ei bod yn bendant wedi'i thrwsio, ac na fyddan nhw'n cael bil mawr arall yn y dyfodol agos. Er efallai nad ydyn nhw'n gwmni mawr, mae pob ychydig yn helpu!

Beth ydych chi'n hoffi ei wneud y tu allan i'r gwaith?

Yn anffodus, rydw i'n un o'r 'bobl gampfa’ yna sy'n hoffi cadw'n heini ac yn egnïol! Fel arall, rwy'n hoff o fwyd, rwy’n hoffi rhoi cynnig ar lefydd newydd i fwyta. Mae fy mhartner a mi fel arfer yn mynd allan gyda’n gilydd nos Sadwrn ac yn mynd i rywle gwahanol. Gallai fod yn fath gwahanol o weithgaredd i'r arfer neu'n lle gwahanol am fwyd. Rwyf hefyd yn hoffi gofalu am fy nghartref, mae fy mhartner a mi yn dwlu ar anifeiliaid a phlanhigion, felly mae digon o anifeiliaid a phlanhigion i ofalu amdanyn nhw!