Sbotolau ar: Ryan Norman, Swyddog Arwain Blaengynllunio
18 Awst 2021
R’yn ni'n troi'r sbotolau ar yr unigolion yn Nŵr Cymru sy'n gwneud ein timau ni'n arbennig. Yr wythnos hon, r’yn ni'n siarad â Ryan Norman, sy'n gweithio gyda'n tîm cynllunio, i gael rhagor o fanylion amdano fe a rôl ei dîm.
Felly rwyt ti'n gweithio yn y tîm cynllunio. Beth mae'r tîm cynllunio'n ei wneud?
Fel tîm, r’yn ni'n ymrannu'n ddwy brif swyddogaeth – Rheoli Datblygiad a Blaengynllunio. Mae Rheoli Datblygiad yn cynnwys cydgysylltu â chwsmeriaid am ymholiadau cyn-cynllunio a chysylltiadau newydd â charthffosydd, ac yn ymateb i ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio gan Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) am allu ein rhwydweithiau i ddarparu ar gyfer datblygiadau newydd. Fi sy'n arwain y tîm Blaengynllunio, a'n prif ffocws yw cysylltu ag ACLl mewn perthynas â’u Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Trwy ganfod ymhle mae datblygiadau ar y gweill ar draws ein hardal weithredu, gallwn helpu i lywio cynlluniau buddsoddi Dŵr Cymru o ran yr ardaloedd rydyn ni'n dewis buddsoddi ynddynt. Mae hyn yn allweddol i'n dealltwriaeth ehangach fel cwmni o ran ble mae angen i ni fuddsoddi ac ehangu ein rhwydwaith.
Beth sy'n digwydd mewn diwrnod arferol yn dy rôl?
Mae'r diwrnod fel arfer yn dechrau gyda fi'n ceisio clirio fy mlwch e-bost a dal i fyny â rhai aelodau o'r tîm cynllunio. Wedyn mae'r cyfarfodydd yn dechrau am 10am. Mae'r rhain yn gallu amrywio o gyfarfodydd twf cydweithredol rhwng ein timau rheoli asedau a dŵr gwastraff, i drafod ein rhaglen fuddsoddi, i gyfarfod Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru-gyfan ar broblemau ffosffadau, a ffora CDLl gydag amryw o ACLl. Mae gan bob ACLl eu CDLl ei hun sy'n cynllunio sut maen nhw'n bwriadu dyrannu safleoedd ar gyfer datblygiadau newydd dros y blynyddoedd nesaf. Rhan allweddol o fy rôl yw cydweithio'n agos â phob ACLl a dadansoddi eu cynigion i fwydo ein rhaglen fuddsoddi cyfalaf.Wyt ti'n gallu rhoi mwy o wybodaeth i ni am ganllawiau cyfredol CNC am ffosffadau a datblygiadau?
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyngor am naw Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) afonol yng Nghymru sydd wedi cael eu dynodi er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt. Ers hynny, mae llawer o ymholiadau wedi dod i law am ddatblygiadau newydd yn yr ardaloedd hyn.Mae cyngor CNC yn gofyn bod ACLl yn sgrinio unrhyw ddatblygiadau sy'n cynyddu cyfaint y dŵr gwastraff er mwyn ceisio atal lefelau'r ffosffadau rhag codi. Gall datblygwyr liniaru'r defnydd o ffosffadau ac mae angen dangos i'r ACLl sut y byddan nhw'n gwneud hyn. Un dull o liniaru yw os yw safle'r datblygiad mewn dalgylch Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) â thrwydded ffosfforws, sy'n golygu ein bod ni'n tynnu'r ffosffadau o'r dŵr gwastraff yn y gweithfeydd cyn ei ryddhau. Fodd bynnag, dim ond tua 50 o'r tua 300 o weithfeydd o dan sylw sydd â thrwyddedau ffosffadau.
Rydyn ni felly'n gweithio ar ymarfer modelu afonydd ar y cyd â CNC er mwyn canfod a yw ein buddsoddiad gwaredu ffosffadau ar gyfer ein cynllun rheoli asedau (AMP) cyfredol a nesaf yn targedu'r ardaloedd cywir. Yn ogystal â hyn oll, mae hi'n bwysig bod pawb o dan sylw'n datblygu amrywiaeth o atebion cynaliadwy fel defnyddio gwlypdiroedd er enghraifft.
Sut brofiad oedd y cyfnod clo i ti?
Am fod dau blentyn gen i, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael treulio amser yn eu haddysgu gartref neu'n chwarae gyda nhw. Mae'r hynaf newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn yr ysgol ac mae'r ifancaf ond yn 16 mis oed, felly roedd fy ngwraig ar gyfnod mamolaeth tan Fawrth 2021. Gyda'r pedwar ohonom ni yn y tŷ wrth i mi drio gweithio o gartref am y tro cyntaf, roedd fy rheolwr yn wych wrth fy ngalluogi i weithio pan oeddwn i'n gallu, roedd hynny'n golygu fy mod i'n aml yn gweithio ar ôl i'r plant fynd i'r gwely.
O ran y teledu, rydyn ni wedi dwlu ar This Is Us ar Amazon Prime. Os nad ydych chi wedi ei weld e, mae'n hawdd ei wylio – mae'n dilyn teulu dros gyfnod o drideg mlynedd. Does gen i ddim awydd gwylio dim sy’n rhy ymestynnol ar ôl diwrnod hir!