Darparu mynediad di-stŵr at gymorth arbenigol i'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig
10 Mehefin 2021
Mae diogelwch a llesiant ein cwsmeriaid a'n gweithwyr wrth galon popeth a wnawn yn Dŵr Cymru. Fe siaradon ni â'r Pennaeth Talent a Chynwysoldeb, Annette Mason, i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith diweddaraf i helpu'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn rhedeg trwy bopeth a wnawn ac rydyn ni i gyd wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser. Mae'r gwaith yma'n eang iawn – mae pobl yn wynebu pob math o sialensiau yn eu bywydau ac mae yna gynifer o ffyrdd y gallwn ddarparu rhagor o gymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen.
Roeddem ni'n arbennig o drist i weld ystadegau heddluoedd Cymru a Lloegr oedd yn dangos cynnydd o 7% yn nifer yr adroddiadau o gamdriniaeth ddomestig yr haf diwethaf. Yn ôl un adroddiad, cafodd Heddlu Dyfed Powys 900 adroddiad am gamdriniaeth ddomestig ym mis Awst o gymharu â 350 o ddigwyddiadau'r mis yn 2017.
Rydyn ni'n gwybod bod camdriniaeth ddomestig yn gallu gwneud i bobl deimlo eu bod ar eu pennau eu hunain, ac mewn llawer o achosion, mae'n debyg bod y pandemig wedi ynysu pobl yn fwy eto gan ei gwneud yn anos byth iddynt ofyn am gymorth. Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i helpu'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig – yn gydweithwyr ac yn gwsmeriaid – a'i gwneud hi mor rhwydd â phosibl iddynt gael y cymorth sydd ei hangen arnynt yn ddiogel.
Dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda ‘Mannau Diogel Ar Lein’ i ychwanegu porth cynnil ar ein gwefan. Bwriedir i'r porth cynnil yma helpu pobl sy'n dioddef trais yn y cartref i gael cymorth a chyngor arbenigol, ac fe'i hychwanegwyd at waelod holl dudalennau gwe Dŵr Cymru.
Bydd clicio ar y botwm ‘Mannau Diogel Ar Lein’ yn cyfeirio’r defnyddwyr at gymorth arbenigol ar gamdriniaeth ddomestig rad ac am ddim. Gall dioddefwyr gyrchu cyfeiriadur o wasanaethau a llinellau cymorth arbenigol, llenwi holiadur i asesu pa mor ddiogel yw eu perthynas, a chyrchu gwybodaeth am drais rhywiol, stelcian ac aflonyddu.
Gellir defnyddio'r dechnoleg, a ddatblygwyd gan y Post Brenhinol, yn hyderus gan wybod nad oes modd gweld y dudalen yn hanes pori'r rhyngrwyd, ac mae modd gadael y dudalen ar unwaith os oes angen i ddioddefwyr gau'r dudalen yn gyflym.
Mae cynnwys linc i'r porth Mannau Diogel Ar Lein ar ein gwefan yn helpu i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd yna i ddioddefwyr gael gafael ar gymorth proffesiynol yn ddiogel. Rydyn ni'n hapus ac yn falch o allu cynnig hyn i unrhyw un sy'n ymweld â dwrcymru.com ac rydyn ni'n sefyll yn gadarn gydag unrhyw un sy'n dioddef o drais domestig.