Dydd Sadwrn: Cymorth Arbenigol

Dydd Sadwrn: Cymorth Arbenigol


19 Ionawr 2024

Yn Dŵr Cymru, mae gennym Dîm Cymorth Arbenigol medrus iawn sy’n deall bod yna sawl gwahanol fath o fregustra. Maen nhw’n cydweithio’n agos â chyrff partner er mwyn helpu cwsmeriaid i gael cymorth sy’n gweithio iddyn nhw, trwy ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth neu ein cynlluniau cymorth ariannol sydd gyda’r gorau yn y diwydiant.

Dyma Ashleigh

Cynghorydd Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid yw Ashleigh, ac ymunodd â thîm Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid Dŵr Cymru yn 2021. Mae ei rôl yn cynnwys siarad â chwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus, a’u cynorthwyo nhw i fanteisio ar y gwahanol opsiynau o ran cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru.

Pan gofynnwyd iddi beth oedd yn rhoi’r boddhad mwyaf iddi wrth fod yn rhan o Dîm Cymorth Arbenigol Dŵr Cymru, dywedodd Ashleigh: “Y peth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi fel aelod o’r Tîm Cymorth Arbenigol yw’r help a’r gefnogaeth y gallwn eu cynnig i gwsmeriaid. Rydyn ni’n gwybod bod sefyllfa pawb yn unigryw, ac rydyn ni’n cymryd yr amser i siarad â phobl er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau iddyn nhw.

“Fy nghyngor i i gwsmeriaid yn syml yw cysylltwch â ni am sgwrs fach. Gallwn ni wneud mwy na dim ond cynnig tariffau cymdeithasol, mae’r rhwydwaith o gymorth y gallwn ei gynnig trwy ein partneriaid yn amrywiol, o gyngor ariannol, cymorth a chefnogaeth adeg profedigaeth, iechyd meddwl a chymorth i gynorthwyo perthnasau a ffrindiau sydd angen cymorth gyda phryderon iechyd.”

Rheolwr Tîm Cynghori Ariannol gyda Trivallis, darparydd tai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf yw Jamie Quinlan. Gweithiodd Jamie gydag Ashleigh yn ddiweddar i gynorthwyo cwsmer oedd wedi ei ffeindio ei hun mewn dyled gyda’i filiau dŵr.

Estynnodd Jamie ei ddiolch i Ddŵr Cymru am helpu un o denantiaid Trivallis gyda’u pryderon ariannol yn ddiweddar. Meddai: “Fe es i i ymweld â thenant bregus a oedd wedi cael llythyr i ddweud bod ganddo ddyledion o ychydig dros £2,500 gyda Dŵr Cymru. Ers derbyn y llythyr ychydig ddiwrnodau ynghynt, roedd e wedi bod yn poeni’n ofnadwy am y peth ac roedd yn ofni na fyddai’n gallu clirio’r ddyled oherwydd ei incwm isel.

“Fe ffoniais i Ddŵr Cymru a siarad ag Ashleigh o’r Tîm Cymorth Arbenigol; rhoddais i rif y cyfrif iddi ac esbonio’r sefyllfa a sut y mae’r tenant yn cael trafferthion gyda’i iechyd meddwl a chorfforol.

“Heb oedi dim, awgrymodd Ashleigh rhoi’r cwsmer ar y tariff HelpU er mwyn lleihau ei daliadau at y dyfodol. Roedd hi’n barod iawn i helpu, ac fe drafodon ni’r opsiynau talu oedd ar gael iddo. Fe lwyddon ni i drefnu debyd uniongyrchol rhesymol gyda’r tenant, ac mae e’n cael ei ystyried ar gyfer Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid Dŵr Cymru hefyd a fydd yn golygu, yn y pen draw, os yw e’n cadw at ei daliadau, bydd ei ddyled yn cael ei chlirio. Mae’r tenant wrth ei fodd â hyn am ei fod wedi lleihau pwysau’r pryder oedd arno.”

I gael rhagor o fanylion am HelpU, ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid, a’r opsiynau eraill y mae Dŵr Cymru’n eu cynnig o ran cymorth ariannol, ewch i: www.dwrcymru.com/costaubyw.