Sylw i Feiciau Gwaed Cymru: Defnyddio dŵr yn fwy effeithlon
20 Mehefin 2024
Wrth redeg busnes, mae hi’n hawdd cymryd dŵr yn ganiataol pan fo’ch ffocws ar wneud y peth rydych chi’n ei wneud orau – sef cadw’ch busnes i fynd. Ond a oeddech chi’n gwybod bod y busnes cyfartalog yn y DU yn defnyddio 30% yn fwy o ddŵr nag sydd ei angen?
Nawr bod yr haf wedi cyrraedd, dyma’r amser delfrydol i ddechrau arferion newydd o ran defnyddio dŵr yn ddoeth. Bydd defnyddio llai o ddŵr yn arbed arian i chi, yn lleihau eich ôl troed carbon, a thrwy ddefnyddio llai o ddŵr mewn proses gweithgynhyrchu sy’n cynnwys cynhesu dŵr, byddwch chi’n lleihau eich biliau ynni hefyd.
Un ffordd hawdd o arbed dŵr yw defnyddio dŵr glaw lle gallwch chi. Er enghraifft wrth ddyfrio unrhyw blanhigion neu erddi, neu wrth lanhau’r tu allan i gerbydau. Does dim angen defnyddio dŵr tap sydd wedi cael ei drin ar gyfer gweithgareddau fel hyn, ac mae’n gallu adio cost sylweddol at eich bil dŵr.
Beiciau Gwaed Cymru
Yn ddiweddar, fe ddalion ni i fyny â Paul Kennedy, Gyrrwr Beic Gwaed o Feiciau Gwaed Cymru, elusen yn y gogledd sy’n dibynnu 100% ar wirfoddolwyr i glywed rhagor am sut maen nhw wedi arbed dŵr yn ddiweddar:
“Elusen o wirfoddolwyr sy’n cludo eitemau pwysig fel samplau, gwaed a llaeth dynol rhwng ysbytai, meddygfeydd a hosbisau yw Beiciau Gwaed Cymru. Rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar roddion a grantiau i gynnal ein gwasanaeth.
Wrth gyflawni ein tasgau ar gyfer y GIG a gwasanaethau cysylltiedig eraill yn y gogledd-orllewin 365 diwrnod o’r flwyddyn, mae ein Beiciau Gwaed lifreiog yn teithio dros filltiroedd mawr, dros 200 milltir y dydd ar gyfartaledd.
Oherwydd hyn, mae ein fflyd o feiciau modur yn cael eu baeddu gan stwff oddi ar y ffordd fel graean, mwd, ac yn y gaeaf, halen. Mae hi’n bwysig iawn cadw’r beiciau hyn yn lân fel y gallwn glustnodi unrhyw ddifrod allanol iddynt.
Mae’r beiciau’n cael eu golchi’n ddyddiol, ac yn y gorffennol bu angen i ni ddibynnu ar berchnogion ein storfeydd am gyflenwad dŵr o’r brif bibell, oedd yn golygu bod angen i ni gario dŵr tap fesul bwced o adeilad cyfagos. Roeddem ni’n ymwybodol iawn nad oedd hyn yn ddefnydd da o ddŵr yfed, ac y gallem leihau ein defnydd o ddŵr trwy ddefnyddio dŵr glaw - ond roedd angen ffordd o’i ddal a’i storio arnom ni!”
“Roeddem ni wrth ein bodd i gael Grant o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn ddiweddar i’n galluogi i brynu casgen ddŵr. Helpodd y tîm cyfan i osod y system gasglu, ac erbyn hyn, rydyn ni’n casglu glaw, sy’n rhywbeth nad oes prinder ohono yn y gogledd! Lleolir y gasgen ddŵr 1200 litr y tu allan i’r storfa feics, sy’n caniatáu i ni lanhau’r beics gyda llai o ymdrech ac i safon uwch nag o’r blaen.
Rydyn ni’n falch nawr ein bod ni’n defnyddio ffynhonnell dŵr sy’n llesol i’r amgylchedd, gan leihau ein defnydd o ddŵr o’r brif bibell, ac rydyn ni’n defnyddio cynhyrchion glanhau bioddiraddadwy i gadw’r beiciau’n lân hefyd.”