Sylw i: Jennifer Thomas


3 Mai 2023

Rydyn ni’n rhoi sylw ar unigolion ar draws Dŵr Cymru sy’n gwneud ein timau’n arbennig. Yr wythnos hon rydyn ni’n siarad â Jennifer sy’n gweithio yn ein tîm casgliadau masnachol, i glywed rhagor am ei rôl.

Elli di ddweud rhagor wrthym am dy rôl yn Dŵr Cymru?

Mae fy rôl i’n cynnwys paratoi biliau cyfunol ar gyfer sefydliadau mwy o faint, a chysylltu â chwsmeriaid sydd heb dalu eu biliau. Yn aml, unig fasnachwyr yw’r cwsmeriaid hyn ac efallai eu bod nhw’n wynebu trafferthion, felly fy mhrif nod i yw cysylltu â nhw a thrafod cynllun talu i’w gosod nhw nôl ar ben ffordd gyda’u dyledion.

Rwy’n credu bod yna gred, os ydych chi’n berchen ar eich busnes eich hun, y gallwch fforddio talu eich biliau, ond nid yw hynny’n wir bob tro. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn mynd ati mewn ffordd holistaidd i ddelio â chwsmeriaid yn gyffredinol, waeth beth yw eu cefndir neu eu sefyllfa.

Rydyn ni’n deall na all rhai cwsmeriaid dalu pob tro, hyd yn oed cwsmeriaid busnes. Nid pawb sy’n gallu, ac mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar bob un ohonom ni mewn ffyrdd gwahanol iawn. Felly mae hi’n bwysig i ni wneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid busnes.

Sut wyt ti’n gweithio gyda busnesau o fewn dy rôl?

Ar y cyfan, mae’n golygu siarad â busnesau i geisio negodi taliadau am filiau dŵr sy’n hwyr, neu ffeindio allan beth sy’n digwydd gyda’r cwsmer yna. Rwy’n gofalu am y cwsmeriaid hyn fel rheolwr cyfrif a dweud y gwir. Yn aml, mae yna lawer o waith ymchwil i’w wneud ac rwy’n gweithio gyda thimau eraill o fewn Dŵr Cymru er mwyn mynd at wraidd pam nad ydyn nhw’n talu.

Weithiau mae yna reswm da iawn pam nad yw’r biliau wedi cael eu talu; fel y ffaith fod eiddo wedi cael ei werthu i fusnes arall heb i neb ddweud wrthym ni. Weithiau mae hi’n gallu bod mor syml â’r ffaith fod gennym ni’r manylion cyswllt anghywir ac mae angen eu diweddaru.

Gallai hi hyd yn oed fod yn fater o’r ffaith fod y cwsmer wedi cael problem gyda dŵr yn gollwng ac nad ydyn nhw’n siŵr ai ein cyfrifoldeb ni neu nhw yw hi – ac maen nhw wedi penderfynu peidio â thalu nes bod y mater wedi cael ei ddatrys. Yn yr achosion hyn, byddaf i’n trefnu bod aelod o’n tîm yn mynd allan i weld beth sy’n digwydd. Wedyn byddan nhw’n adrodd nôl gyda’u canfyddiadau fel y gallwn ni ddatrys y broblem.

Wyt ti’n gallu rhoi esiampl i ni o un ffordd rwyt ti wedi helpu cwsmer busnes gyda’r argyfwng costau byw yn ddiweddar?

Dydd Iau diwethaf, fe siaradais i â dyn sy’n rhedeg siop tecawê. Doedd e ddim wedi bod yn talu ei filiau dŵr ers sbel, felly roedd ganddo £500 o ddyled. Roedd e wedi cael neges destun gennym ni i ofyn am y taliad felly rhoddodd e alwad i ni.

Wrth i ni sgwrsio, soniodd ar y ffôn ei fod e ar dariff fforddiadwyedd ar gyfer ei gyfeiriad cartref. Tariff fforddiadwyedd yw rhywbeth rydyn ni’n ei gynnig i gwsmeriaid domestig sy’n fregus. Yn ei achos e, roedd cap ar filiau ei gartref oherwydd anabledd rhywun yn yr eiddo.

Y rheswm pam nad oedd e wedi bod yn talu’r biliau ar ei gyfrif masnachol oedd am ei fod yn cael trafferth talu biliau ei fusnes a’i gartref yr un pryd oherwydd costau byw cynyddol.

I symleiddio pethau iddo, fe sefydlais i ddebyd uniongyrchol oedd yn cwmpasu ei gyfrifon cartref a busnes ac yn lledu’r gost. Rhoddais i nodyn ar ei gyfrif cwsmer am y sialensiau fforddiadwyedd hefyd fel bod cydweithwyr eraill yn ymwybodol nad mater o ‘gwrthod talu’ oedd hi, ond ‘cael trafferth talu’.

Roedd e wir yn gwerthfawrogi fy mod i wedi mynd trwy’r cyfan gydag ef a thawelu ei feddwl. Fe ddywedodd e ei fod e wedi bod ofn ein ffonio ni. Mae clywed cwsmeriaid yn dweud hynny yn torri fy nghalon i – rydyn ni wir yma i helpu.

Beth wyt ti’n hoffi gwneud yn dy amser hamdden?

Mae rhaid dweud fy mod i’n bach o grys. Yn fy amser hamdden, rwy’n mynd i Geek Retreat yn y dref nos Wener gyda fy mhartner. Rydyn ni’n chwarae gemau bwrdd ac yn cyfarfod â gwahanol bobl ac yn sgwrsio â nhw, sy’n gallu bod yn llawer o hwyl.

Rwy’n un mawr am gemau electronig hefyd – os ydw i wedi bod dan straen yn y gwaith, fy XBox yw’r unig beth sy’n gorffwys fy meddwl oherwydd rwy’n canolbwyntio ar fath gwahanol o bos ac mae’n tynnu fy meddwl oddi ar y gwaith.

Rwy’n mwynhau mynd â chi mam am dro hefyd am ei bod hi’n byw jyst rownd y gornel, nofio, siopa a gwylio ffilmiau yn y sinema.