Sylw i Lys Nini: Gofalu am anifeiliaid a’r amgylchedd
30 Gorffennaf 2024
Dyma ein Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol, Lucy Barnett, yn rhannu ei phrofiad diweddar o wirfoddoli yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini yr RSPCA ym Mhenlle’r-gaer, Abertawe, a sut mae’r ganolfan nid yn unig yn gofalu am anifeiliaid, ond yn arbed dŵr ac yn gwneud ymdrech i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd hefyd.
Lucy Barnett ydw i, Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol gyda Dŵr Cymru. O fewn fy rôl, rwy’n gyfrifol am greu negeseuon difyr ar amryw o bynciau ar gyfer ein cwsmeriaid busnes.
Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld ag un o’n cwsmeriaid busnes i wirfoddoli yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini yr RSPCA gyda chydweithwyr eraill o Ddŵr Cymru.
Mae Llys Nini’n gysylltiedig â’r RSPCA yn genedlaethol, ond nid yw’n derbyn unrhyw gyllid ganddo’n awtomatig, Yn ogystal â dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer anifeiliaid, mae Canolfan Anifeiliaid Llys Nini’n gweithio i helpu’r amgylchedd. Byddech chi’n meddwl ei bod hi’n hawdd iddynt gymryd dŵr yn ganiataol pan fo’u ffocws ar ofalu am dros 200 o anifeiliaid ar unrhyw adeg benodol, ond ar ôl treulio amser yno a siarad â nifer o wirfoddolwyr Llys Nini, fe ddysgais i’n gyflym nad ydyn nhw.
Yn ystod fy ymweliad, cefais gyfle i helpu’r ganolfan i sefydlu eu Prosiect Nadolig cynaliadwy. Plannais i a’r aelodau eraill o staff dros 100 o goed Nadolig bychain yn y gobaith y byddan nhw’n tyfu, a bydd y prosiect yn llogi’r coed yma i ymwelwyr i’w mwynhau dros gyfnod y Nadolig. Wedyn gallant ddychwelyd y coed i’r ganolfan am ofal pellach, lle byddant yn eu cynorthwyo nhw i dyfu a chasglu carbon deuocsid o’r awyr. Wrth blannu’r coed, fe sylwais i fod y ganolfan wedi gosod eu system casglu dŵr eu hunain lle’r oedden nhw’n casglu’r dŵr o doeau’r siediau ac yn ei storio. Fe ddefnyddion ni’r dŵr yma yn ystod y gwaith plannu ac ar draws yr ardd.
Mae’r canolfan yn cydnabod ei bod hi’n drueni lladd coeden am y Nadolig, ond gydag ychydig bach o le a chariad, gallant fyw am flynyddoedd mawr, gan wneud beth mae coed yn ei wneud i helpu’r amgylchedd!
Llys Nini
Yn ddiweddar, cefais i sgwrs gyda Sally Hyman, Cadeirydd yr RSPCA yn Llys Nini i glywed cefndir eu hymdrechion i arbed dŵr:
“Mae pawb yma yng nghanolfan Llys Nini yr RSPCA yn angerddol am reoli ein 78 erw mewn ffordd gynaliadwy er budd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth y safle, ac er mwyn i’n holl ymwelwyr eu mwynhau.
Mae Dŵr Cymru wedi bod o gymorth mawr wrth sefydlu ein gardd gymunedol gynaliadwy. Mae hi’n fan lle gall rhai o’n gwirfoddolwyr ddysgu sut i dyfu eu bwyd eu hunain mewn ffordd gynaliadwy, sy’n beth da iddyn nhw ac i’r blaned.
Ynghyd â’r system cynaeafu dŵr rydyn ni wedi ei gosod, mae gennym bowser dŵr symudol sy’n dal 275L, fel y gallwn gludo’r dŵr rydyn ni’n ei gasglu i’n gerddi a’n coed eraill ar draws y safle i gyd.
Yn amlwg, wrth ddarparu ar gyfer dros 200 o anifeiliaid ar unrhyw adeg benodol a gofalu amdanynt, mae llawer o wastraff yn cael ei gynhyrchu. Gan gydnabod bod hwn yn faes arall lle gallem fod yn fwy cynliadwy, gosodwyd offer Trin Elifiant newydd yn ddiweddar. Rydyn ni’n trin ein holl ddŵr gwastraff ar y safle ac yn ei ddychwelyd i’r nentydd sy’n llifo trwy ein safle. Mae’r dŵr wedi ei drin yn cael ei archwilio a’i fonitro gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac mae hi mor bur ag y gall fod. Mae’r nentydd a’r cyrsiau dŵr yn llifo i lawr trwy ein safle ac i mewn i’n pwll dyfrgwn lle mae gennym ddyfrgwn, glas y dorlan, a gweision y neidr a mursennod bendigedig, yn ogystal â nifer o rywogaethau eraill.
Yn Llys Nini rydyn ni’n ceisio defnyddio dŵr mewn ffordd gyfrifol iawn, er budd ein busnes, yr anifeiliaid a’r amgylchedd.”
Mae dŵr yn werthfawr. Plis peidiwch â’i wastraffu.