Tynnu Sylw at Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid
4 Hydref 2022
Yr wythnos hon, mae sefydliadau ledled y wlad yn dathlu’r gorau o fyd gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan o Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Yma yn Dŵr Cymru, nid yw gwasanaeth da i gwsmeriaid yn rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno am un wythnos o’r flwyddyn, ond drwy’r flwyddyn gron.
Beth arall fyddech chi’n ei ddisgwyl gan gwmni sydd â’r weledigaeth i ‘ennyn ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd’?!
Mae ein menter Diolch yn caniatáu i gwsmeriaid enwebu ein gweithwyr am wobrau am fynd y cam ychwanegol i’w helpu. Rydym wedi dewis rhai enghreifftiau isod:
Dean Quigley
Arolygydd dosbarthiad rhwydwaith
Cawsom ein galw yn ddiweddar i helpu Clwb Criced Sir Forgannwg â phroblem a allai fod wedi peryglu eu gemau a’u digwyddiadau yn y dyfodol. Roedden nhw’n cael problemau achlysurol gyda chyflenwad dŵr eu stadiwm yng Ngherddi Sophia a gwnaethon nhw ein ffonio ni am gymorth.
Cafodd Dean ei alw i’r safle i ymchwilio i’r broblem. Trefnais gwrdd â’r cwsmer yng Ngerddi Sophia, dangosodd ei danciau mewnol i mi a’r gwaith pibellau preifat. Dim ond diferu i mewn i’r tanciau cadw dros dro oedd y dŵr. Yna nodais ba fesurydd oedd yn bwydo’r tanciau cadw dros dro a sylwi’n gyflym bod problem ar y mesurydd a oedd yn atal llif y dŵr i’r safle.
"Dywedais wrth y cwsmer fod yn rhaid newid y mesurydd ac y byddai angen diffodd dy dŵr am gyfnod wrth i’r gwaith gael ei gwblhau. Rhoddodd y cwsmer amser a dyddiad addas i ni ar gyfer hyn a threfnais i’n contractwyr gwrdd â fi ar y safle er mwyn i mi allu ynysu’r brif bibell ddŵr i’w galluogi i newid y mesurydd dŵr yn ddiogel. Wedyn edrychais eto ar y tanciau cadw ac roedd y dŵr yn llifo i mewn yn rhwydd ac yn llenwi’r tanc, gan sicrhau y byddai’n llawn erbyn eu digwyddiad mawr nesaf."
Dywedodd Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Sir Forgannwg "Diolch i Dŵr Cymru am weithio mor gyflym i gwblhau’r cyfan. Rydym yn gweld y manteision yn barod ac yn hapus iawn gyda’r canlyniadau."
Ashleigh Curtis
Cynghorydd cymorth cwsmeriaid arbenigol
Roedd cwsmer yn cael anawsterau’n talu’r biliau, ac roedd y cwsmer yn cael ei lethu. Fe wnaeth gysylltu â Dŵr Cymru a chael ei syfrdanu gan y cymorth a gafodd gan Ashleigh:
"Rwy’n credu bod Ashleigh Curtis yn haeddu’r wobr hon yn fawr. Roeddwn i ar ben fy nhennyn ac oherwydd amynedd, caredigrwydd, agwedd gyfeillgar a dealltwriaeth Ashleigh o fy holl bryderon, cafodd llwyth mawr ei godi oddi ar fy ysgwyddau. Mae Ashleigh yn broffesiynol iawn hefyd. Ymdriniodd â fy holl broblemau mewn modd rhagorol. Nid oedd dim yn ormod i Ashleigh. Nawr rwy’n dawel fy meddwl bod y pryder mawr hwn wedi ei ddatrys, ac oherwydd Ashleigh mae hynny. Aeth i ffwrdd, datrys fy mhryder eithafol a fy ffonio yn ôl ar ôl iddi wneud. Mae hi’n glod i’r tîm ac i Dŵr Cymru."
Chris West
Cynghorydd Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd (SHEQ) yn ein partner Gwasanaethau Dŵr Morrison
Roedd Chris yn dyst i wrthdrawiad traffig difrifol wrth yrru adref o’r gwaith a fe oedd y person cyntaf ar y safle i helpu. Stopiodd ei gerbyd ar unwaith a rhedodd i’r gwrthdrawiad, tynnodd ddyn allan o gerbyd gan sylweddoli bod ganddo anaf difrifol i’w ben.
Rhoddodd Chris gymorth cyntaf drwy roi pwysau uniongyrchol ar yr anaf i ben y dyn. Ar ôl rhoi’r dyn yn y safle adfer, chwiliodd Chris am anafiadau eraill a sicrhau bod y dyn mewn cyflwr sefydlog. Parhaodd o siarad â’r dyn a’i drin am sioc drwy ei gadw’n gynnes.
Pan gyrhaeddodd yr ambiwlans a’r heddlu, rhoddodd Chris asesiad o anafiadau’r dyn iddyn nhw a’r driniaeth a roddodd. Yna fe helpodd criw’r ambiwlans i godi’r dyn anafedig ar wely cludo er mwyn ei gludo i’r ysbyty.
Cyn gweithio i Wasanaethau Dŵr Morrison, gwasanaethodd Chris yn y lluoedd arfog, felly mae’n gyfarwydd ag ymateb i ddigwyddiadau difrifol. Dywedodd: "Cwblheais ddwy daith i Afghanistan ac un i Iraq ond hwn oedd y tro cyntaf i mi ymdrin â gwrthdrawiad traffig ffordd."
Richard Carne a Ben Roberts
Gweithredwyr Trwsio a Chynnal Chadw yn ein partner Gwasanaethau Dŵr Morrison
Roedd cwsmer yn cerdded gyda’i chwaer yn ei chadair olwyn ar ffordd gul lle'r oedd Richard a Ben yn gweithio. Dywedon nhw y bydden nhw’n symud y peiriant cloddio er mwyn iddyn nhw allu mynd heibio. Dywedodd y cwsmer:
"Mae anghenion ychwanegol amlwg ar fy chwaer ac ar ôl symud y peiriant, fe wnaethon nhw ofyn a oedd angen ei ddiffodd wrth iddyn nhw gerdded heibio. A’r cyfan heb yr un nodyn o ddicter pan oedd hyn yn amlwg yn fwy o drafferth iddyn nhw. Rwyf i o’r farn bod hyn yn wasanaeth RHAGOROL. Diolch yn fawr iawn."
Boed mewn cartref cwsmer, yn gyrru ar y ffyrdd neu hyd yn oed yn gyrru adref o’r gwaith, mae ein gweithwyr bob amser yn cael eu hannog i wneud y peth iawn.
Er efallai nad ydym ni’n cael pethau’n berffaith y tro cyntaf bob amser (pwy sy’n gwneud), rydym yn falch o fod â phobl sy’n gofalu am ein cwsmeriaid a byddwn yn gwneud ein gorau bob amser i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.