Pam ein bod wedi llofnodi cytundeb strategol â Phrifysgol Caerdydd


5 Gorffennaf 2022

Yr wythnos hon, fe lofnodon ni gytundeb fframwaith strategol â Phrifysgol Caerdydd. Ond beth mae hyn yn ei olygu? Fe siaradon ni â Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i glywed y manylion.

Prifysgol Caerdydd yw prifysgol fwyaf Cymru, ac rydyn ni’n gwneud mwy o waith ymchwil a gwaith arall gyda nhw nag unrhyw brifysgol arall.

Mae’r cytundeb yn sefydlu fframwaith cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Dŵr Cymru Welsh Water gan adeiladu ar flynyddoedd maith o waith partneriaeth rhwng y ddau sefydliad. Yn benodol, bydd yn:

  • Hwyluso, trwy gytundeb anghyfyngol, fframwaith i gynorthwyo cyfleoedd ar gyfer y naill sefydliad a’r llall.
  • Alinio â strategaeth Y Ffordd Ymlaen Prifysgol Caerdydd ar gyfer 2018-23 a nodau ei is-strategaeth Ymchwil ac Arloesi.
  • Alinio â Gweledigaeth Dŵr Cymru 2050 a’r Strategaeth Arloesi gysylltiedig.
  • Ceisio llywio gwyddoniaeth ac ymchwil perthnasol o safon uchel ar gyfer y tymor hir.

Egwyddor arweiniol greiddiol y Bartneriaeth Strategol yw sefydlu strwythur lle gall Dŵr Cymru a Phrifysgol Caerdydd ddefnyddio eu hadnoddau cyfunol yn well er mwyn sicrhau gwerth i’r naill a’r llall.

Mae’r cytundeb hwn yn adeiladu ar lwyth o waith arall rydym yn ei gyflawni gyda phrifysgolion, gydag UKWIR, sef ein corff ymchwil, ac wrth arwain y gwaith o sefydlu Spring Innovation Ltd, sef canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer y sector dŵr yn y DU.

Mae’r brifysgol yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd i’n cynghori ar faterion amgylcheddol, ymchwil a gwyddorau data ymysg eraill. Rydyn ni’n cydweithio hefyd i samplo a dadansoddi ein carthffosiaeth er mwyn deall yn well y risg o Covid yn ein cymunedau – data sy’n allweddol wrth ragrybuddio’r awdurdodau iechyd yma yng Nghymru am beth sy’n digwydd gyda’r afiechyd.

Rydyn ni’n cyd-noddi amrywiaeth o gynigion ymchwil UKRI, sy’n berthnasol i’n hanghenion ymchwil ni ein hunain a bennwyd yn ein strategaeth Arloesi, a’r cyfeiriad y mae’r brifysgol yn bwriadu ei gymryd wrth wthio ffiniau gwyddoniaeth. Rydyn ni wedi cefnogi nifer o Ddoethuriaethau, cymrodoriaethau ymchwil ac interniaethau, ac wedi cynorthwyo gwaith yr Ysgol Biowyddorau hefyd ymysg eraill. Mae yna gymaint i adeiladu arno.

Bydd y fframwaith yn codi proffil y gwaith yma yn y ddau sefydliad, ac yn sicrhau ein bod ni, fel cwmni, wedi ymrwymo’n llwyr i holl geisiadau perthnasol UKRI ar gyfer y Brifysgol a Chynghrair Great Western, neu GW4, sef prifysgolion Caerdydd, Bryste, Caerfaddon a Chaer-wysg, yn y gobaith y gellir trosoli’r cyllid hwn ynghyd â’n cyllid ein hunain, er budd ein cwsmeriaid.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar ein llwyddiant ni’n dau hyd yn hyn, ac at yrru mwy o waith ymchwil ag effaith uwch gyda’r brifysgol er mwyn ein helpu ni i symud tua dyfodol mwy cynaliadwy.