Cynorthwyo'n gilydd ar ddydd Llun Llwm
17 Ionawr 2022
Un o'n Uwch Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch yw Trystan Lewis-Williams, ac mae'n arwain ein hymgyrchoedd llesiant meddwl yn Dŵr Cymru.
Ar ddydd Llun Llwm, mae'n rhannu ei argymhellion er mwyn helpu cyrff eraill i flaenoriaethu llesiant meddwl eu staff.
Mae un person ym mhob pedwar yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, fel gorbryder, iselder neu straen. Dyna pam fy mod i'n falch o arwain ein hymgyrch llesiant meddwl flynyddol yn Dŵr Cymru bob blwyddyn rhwng Ionawr a Mawrth.
Er mwyn ein galluogi ni i ofalu am ein hiechyd meddwl, rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wybodaeth iawn ar gael i ni ar yr adeg briodol - boed hynny er mwyn ceisio dysgu rhagor am anhwylderau iechyd meddwl, opsiynau ar gyfer triniaeth, neu ddod o hyd i adnoddau ymarferol i ddatblygu ein gwytnwch meddyliol a'n llesiant.
I mi, does yna ddim adeg well na dechrau'r flwyddyn i atgoffa cydweithwyr fod iechyd meddwl yn bwysig, yn enwedig nawr pan fo Covid yn flaenllaw yn ein bywydau ni i gyd ac yn creu cymaint o ansicrwydd. Mae'r 24 mis diwethaf wedi bod yn frwydr i lawer ohonom ni, ac rwy'n siŵr y gallwch chi uniaethu â'r teimlad 'Dydd Llun Llwm' yna ar ddechrau 2022.
Dyna pam y bydd thema ein hymgyrch iechyd meddwl eleni'n canolbwyntio ar sut y gall ein timau gynnal eu gwytnwch ac ymdopi â newid, ac rydyn ni'n galw'r ymgyrch yma yn 'Amser Meddwl'.
Yn rhan o'r ymgyrch, byddwn ni'n cynnig gwybodaeth a chyfleoedd i gydweithwyr drafod llesiant meddwl. Fe wnawn ni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy weminarau, cyflwyniadau mewn cyfarfodydd tîm a phecynnau briffio ar gyfer ein uwch dimau uwch iddynt ymweld â'n gwahanol safleoedd.
Y tu ôl i'r holl gynnwys a rannwn, mae'r neges allweddol yn un syml. Dylem ni i gyd gymryd amser i ofalu am ein llesiant meddwl a chefnogi ein gilydd.
 hithau'n Ddydd Llun Llwm, dyma fy argymhellion i'ch helpu chi i roi hwb i'ch llesiant meddwl yn 2022:
- Sicrhewch eich bod chi'n cael noson dda o gwsg. Mae cael digon o oriau o gwsg da yn gallu bod yn fuddiol dros ben i'ch hwyliau, eich gallu i ganolbwyntio, eich egni a'ch llesiant meddwl yn gyffredinol.
- Sicrhewch eich bod chi'n ymarfer corff ac yn bwyta'n dda. Trwy hynny, dwi ddim yn golygu deffro am 5am bob bore a mynd i'r gampfa, a byw ar ddiet cyfyngedig o ddeiliach salad! Jyst dechreuwch fynd i'r arfer o symud am 30 i 60 munud y dydd a cheisiwch fwyta mwy o lysiau a ffrwythau yn eich prydau pob dydd. Mae gwneud y ddau beth yma'n gallu lleihau teimladau o orbryder, rhoi hwb i'ch hunanhyder a gwella'ch llesiant meddwl.
- Siaradwch yn agored. Mae trafod teimladau'n gallu bod yn anodd iawn, a dyw hi ddim yn hawdd cychwyn arni, ond os ydych chi'n cael pethau'n anodd ac yn teimlo'n isel, gallai dweud wrth rywun godi pwysau mawr oddi ar eich ysgwyddau a'ch helpu chi i gael y cymorth angenrheidiol. Peidiwch â theimlo'ch bod chi'n faich ar rywun trwy siarad chwaith, mae'ch teulu a'ch ffrindiau'n poeni amdanoch ac maen nhw eisiau helpu.
Mae yna rai pethau y gall sefydliadau eu gwneid i helpu'ch gweithwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl hefyd:
- Hyrwyddo pwysigrwydd cymryd egwyl yn rheolaidd. Anogwch eich gweithwyr i gymryd seibiant go iawn dros ginio ac i gymryd seibiannau rheolaidd yn ystod y dydd. Mae hyn yn rhoi'r amser i'w meddyliau ymadfer.
- Anogwch reolwyr llinell a thimau i gadw llygad ar eu lles ei gilydd. Rhowch gyfleoedd i'ch gweithwyr ofyn yn syml 'sut wyt ti?' bob dydd. Mae hyn yn datblygu bond rhwng y tîm ac yn creu lle diogel i'r gweithwyr rannu unrhyw broblemau sydd ganddynt.
- Ystyriwch gynlluniau cost-effeithiol y gallwch eu cyflwyno i gynorthwyo'ch gweithwyr a'u lles. Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n ffodus fod gennym Raglen Cymorth i Weithwyr, Headspace, cynlluniau disgownt ar gyfer campfeydd a chynllun Beicio i'r Gwaith. Mae'r rhain oll yn rhoi hwb mawr i’r gweithwyr.