Cynorthwyo ein cwsmeriaid pa fyddwch mewn angen
10 Hydref 2022
Rhwng 3 a 7 Hydref eleni, bu cydweithwyr yn Dŵr Cymru’n nodi Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Mae ein timau cymorth pwrpasol wedi bod yn rhannu awgrymiadau defnyddiol â chydweithwyr am sut y gallwn ni i gyd wneud rhagor i gynorthwyo ein cwsmeriaid. O ddangos sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i glustnodi cwsmeriaid a allai fanteisio ar gymorth ychwanegol, i rannu gwybodaeth am bwy y dylid cysylltu â nhw i gael y cymorth angenrheidiol i gwsmeriaid sydd dan amgylchiadau bregus.
Dywedodd Kim Hopkins, Rheolwr Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid gyda Dŵr Cymru: “R’yn ni’n gwybod bod ar ein cwsmeriaid angen help llaw o bryd i’w gilydd. Dim ots a ydyn nhw’n fregus yn ariannol ac yn cael trafferth fforddio’r hanfodion fel bwyd, biliau’r cyfleustodau a biliau dŵr, neu a ydynt yn fregus mewn ffyrdd eraill, oherwydd anabledd neu salwch tymor hir er enghraifft; rydyn ni yma i helpu, ac mae gennym dîm cyfeillgar wrth law i gynorthwyo cynifer o gwsmeriaid ag y gallwn ni.”
Ar hyn o bryd, mae dros 144,000 o gwsmeriaid yn derbyn cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru, ac rydyn ni’n disgwyl i’r nifer yna godi yn sgil yr argyfwng costau byw.
Ychwanegodd Kim: “Nid mater o ‘un ateb i bawb’ mohoni wrth gynorthwyo cwsmeriaid, a dyna pam fod gennym amrywiaeth o gymorth ar gael i’n cwsmeriaid. I’r rheiny sy’n wynebu trafferthion ariannol, mae ein tariffau cymdeithasol yn cynnig ffordd o godi tâl ar ein cwsmeriaid yn seiliedig ar eu sefyllfa unigryw. Atebion tymor hir yw’r rhain ac maen nhw’n helpu i wneud bywyd ychydig bach yn haws trwy leihau costau. Mae gennym ni ein cynlluniau cymorth gyda dyledion hefyd, sy’n benodol ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n wynebu trafferthion ariannol. Nod ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu cwsmeriaid sy’n wynebu dyledion dŵr i glirio’u balans, gwneud eu taliadau’n haws eu rheoli, a’u rhyddhau rhag pwysau dyledion yn y tymor hwy.”
Yn ogystal â thrafferthion ariannol, mae gan Ddŵr Cymru gymorth i’w gynnig i gwsmeriaid sy’n fregus mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru ar gael i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae dros 127,000 o gwsmeriaid eisoes wedi cofrestru.
“Mae cofrestru ar gyfer gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru’n ffordd wych o sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael ychydig bach o gymorth ychwanegol gennym. Rydyn ni’n cynnig gohebiaeth mewn fformatau hygyrch, fel print bras neu Braille, ac yn caniatáu i gwsmeriaid enwebu ffrind neu berthynas i siarad â ni neu i dderbyn gohebiaeth ar eu rhan. Gall cwsmeriaid cymwys sefydlu cynllun cyfrineiriau i’w hamddiffyn rhag galwyr ffug, ac wrth gwrs, gallant gael dŵr potel i’r drws os oes toriad yn eu cyflenwad.
“Nod ein gwaith wrth godi proffil y cynlluniau hyn gyda’n cwsmeriaid yn ystod Wythnos Gwasanaethau Cwsmeriaid yw helpu ein timau i glustnodi pobl sy’n cael trafferthion ac nad ydynt yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt. Rydyn ni’n gobeithio cael rhagor o atgyfeiriadau am gymorth fel y gallwn helpu cynifer o gwsmeriaid â phosibl.” meddai Kim.
Yn Dŵr Cymru, r’yn ni yma i helpu. Os oes angen help llaw arnoch chi, neu ar rywun rydych chi’n ei nabod, mae ein tîm cymorth arbenigol cyfeillgar yma i helpu. Cysylltwch â ni heddiw.
Am fanylion ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a’n Cymorth Ariannol.