Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:00 12 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Taclo sialens allyriannau proses


10 Tachwedd 2021

Taclo allyriannau ffo yw un o gonglfeini strategaeth sero net Dŵr Cymru. Allyriannau proses o drin dŵr gwastraff yw un o'r meysydd mwyaf ymestynnol i'w datgarboneiddio o hyd, ac rydyn ni'n dal i ddysgu am lefelau cyfredol yr allyriannau ffo sy'n deillio o brosesau trin.

Mae gwaith yn parhau o fewn Dŵr Cymru ac yn sector dŵr ehangach y DU i wella'r gwaith o fonitro ac adrodd ar yr allyriannau hyn, ac oddi yno rydyn ni'n ymchwilio i dechnolegau a fydd yn ein galluogi ni i redeg ein gweithfeydd trin carthffosiaeth mewn ffordd wahanol er mwyn lleihau'r allyriannau eu hunain.

Fe sgwrsion ni â Keeley-Ann Kerr, ein Dadansoddwr Ynni, i glywed am brosiect allweddol y mae'n gweithio arno er mwyn helpu i leihau allyriannau. Fel rhywun â Gradd Meistr yn y newid yn yr hinsawdd, mae lleihau allyriannau nwyon tŷ gwydr y cwmni'n rhywbeth y mae'n angerddol dros ben yn ei gylch. Darllenwch ragor yma...

Felly Keeley-Ann, beth yw'r prosiect Cobalt Water? Sut mae’n ein helpu ni i gyrraedd ein targed o Sero Net?

Pwrpas y prosiect Cobalt Water yw helpu Dŵr Cymru i daclo'i allyriannau ffo, gan gyfrannu at gyflawni gostyngiad o 50% yn yr allyriannau proses sy'n gysylltiedig â thrin dŵr gwastraff, slwtsh carthffosiaeth a gwaredu slwtsh wedi ei dreulio ar dir. Mae'r prosiect yn astudio chwe safle, gan dreulio mis ym mhob un. Y gobaith yw y bydd y canfyddiadau hyn yn ein cynorthwyo ni i baratoi achos fusnes i barhau â'n gwaith ymchwil ar ragor o safleoedd ar draws dalgylch Dŵr Cymru.

Beth yw allyriannau proses?

Yn y broses o drin dŵr gwastraff a biosolidau, mae nwyon tŷ gwydr, sef methan (CH4), ac ocsid nitrus (N2O) yn bennaf, yn cael eu rhyddhau wrth i'r gwastraff ddadelfennu'n naturiol mewn dŵr gwastraff. Mae Ocsid Nitrus o bryder arbennig oherwydd ei botensial o ran cynhesu byd-eang, sydd 265-298 gwaith yn fwy na CO2 dros gyfnod o 100 mlynedd. Mesur o faint o ynni y bydd allyriannau'r nwy yn ei amsugno yw potensial cynhesu byd-eang neu GWP. Po fwyaf yw'r GWP, po fwyaf y bydd y nwy yn cynhesu'r Ddaear o gymharu â CO2 dros yr un cyfnod o amser (100 mlynedd fel rheol).

Dwed rhagor wrthym am y prosiect

Prif bwrpas y prosiect yma yw caniatáu i ni gael gwell dealltwriaeth am effaith ein prosesau o ran cynhyrchu allyriannau nwyon tŷ gwydr. Mae'n caniatáu i ni ddeall hefyd pa welliannau y gellir/dylid eu gwneud i wella ein prosesau, i leihau faint o allyriannau a gynhyrchir ac i ddeall pa offer mesur sydd fwyaf addas at ein hanghenion.

Y cam cyntaf yn yr astudiaeth hon oedd dethol safleoedd treial i gasglu a choladu data am wahanol baramedrau ein proses, a chafodd y data ei fewnbynnu i system peiriant dysgu a grëwyd gan Cobalt Water. Rydyn ni bellach ar ail gam y treial, sef gosod Microsynwyryddion N2O Unisense ar ein safleoedd. Bydd y treial cyntaf yn digwydd yng GTDG Bae Abertawe. Caiff y synhwyrydd ei osod am fis, a bydd y data a gesglir yn helpu i ddilysu'r dysgu peirianyddol, a deall faint yn union o N2O sy'n cael ei gynhyrchu yn ystod y broses.

Beth yw'r cam nesaf ar gyfer y prosiect?

Byddwn ni'n symud teclynnau monitro Unisense i bump o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff arall ar draws Cymru. Yn yr un modd ag Abertawe, byddwn ni'n eu cadw ar y safle am fis i gasglu data ac i'n galluogi ni i gael gwell dealltwriaeth am sut mae N2O yn cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn golygu y gallwn edrych ar ffyrdd o leihau faint o N2O sy'n cael ei gynhyrchu trwy'r broses drin.

Yn olaf, beth wyt ti’n gobeithio ei weld yn sgil COP 26?

Fy ngobaith i yw gweld cytundebau a thargedau arwyddocaol sy’n dechrau'r newid systemataidd i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Dim ots beth sy'n codi o COP 26, rwy'n annog pawb i wneud beth bynnag y gallan nhw, dim ots pa mor fach, am y gallwn ni i gyd fel unigolion helpu i yrru'r newidiadau systemataidd hyn ymhellach fyth.