Taclo tlodi dŵr
26 Mai 2021
Rhaid i daclo tlodi dŵr fod yn flaenoriaeth i ni bob amser
Heddiw, mae Cyngor y Defnyddwyr Dŵr (CCWater) wedi cyhoeddi ei 'adolygiad o fforddiadwyedd', sy'n ystyried sut y gall y sector gynorthwyo cwsmeriaid sydd wir yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr.
Rydyn ni'n gwybod yn barod bod llawer o'r cwsmeriaid yn y cymunedau a wasanaethwn ar draws Cymru a rhannau cyfagos o Loegr yn byw yn yr hyn a elwir yn 'dlodi dŵr' – hynny yw, eu bod yn gwario 5% neu ragor o'u hincwm ar filiau dŵr a charthffosiaeth. Fel cwmni nid-er-elw, ein nod yw gosod ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, a dros y degawd diwethaf rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o gynlluniau cymorth ariannol a thariffau cymdeithasol i gynorthwyo aelwydydd ag incwm isel. Rydyn ni'n cynorthwyo dros 140,000 o aelwydydd trwy gynnig disgownt ar eu biliau – mae hynny’n fwy nag unrhyw gwmni arall yng Nghymru a Lloegr, ac rydyn ni'n un o'r ychydig gwmnïau sy'n buddsoddi ein helw ein hunain er mwyn ariannu'r cynlluniau hyn.
Rydyn ni wedi rhoi pwys mawr ar wneud biliau mor fforddiadwy â phosibl hefyd. Dyna pam yr aethom ni ati i sicrhau bod y pris cyfartalog yr oedd ein cwsmeriaid yn ei dalu'n codi'n is na'r gyfradd chwyddiant bob blwyddyn rhwng 2010 a 2020 – a pham ein bod wedi ymrwymo i sicrhau nad yw'n codi yn uwch na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr hyd 2025.
Mae COVID-19 wedi gwneud bywyd yn ymestynnol dros ben i lawer o'n cwsmeriaid ac rydyn ni'n disgwyl i hyn bara am sbel eto wrth i ni ddechrau gweld effaith busnesau'n cau a phobl yn colli swyddi wrth i gymorth y llywodraeth ddirwyn i ben dros y misoedd nesaf. Yn gynnar yn y pandemig, fe sylweddolon ni y byddai angen gwneud mwy i gynorthwyo ein cwsmeriaid. O ganlyniad:
- Fe gyflwynon ni wyliau talu ar gyfer tua 8,000 o aelwydydd
- Gohiriwyd biliau tua 45,000 o fusnesau a orfodwyd i gau yn ystod y cyfnod clo cyntaf
- Ychwanegwyd 340,000 o gwsmeriaid a fu'n gwarchod dros dro at ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth ychwanegol wrth gyrchu ein gwasanaethau
- Cyfrannwyd £106,000 i gynorthwyo 106 o fanciau bwyd ar draws ein hardal.
Er na wyddom o hyd beth fydd effaith tymor hir y pandemig, rydyn ni wedi dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol ac rydyn ni wedi ailwampio ein tariffau cymdeithasol fel y gallwn gynorthwyo 70,000 o bobl ar ffurf biliau is dros y 2 flynedd nesaf.
Rydyn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws ein hardal, fel CAB, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod y cymorth yma'n cyrraedd y rhai mwyaf anghenus.
Sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn gallu fforddio ein gwasanaethau - sy'n chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd – yw blaenoriaeth bennaf yn Dŵr Cymru, a hynny am byth.
Samantha James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig