Taclo anafiadau trwy weithio gyda pheirianwyr


10 Mawrth 2021

Yn ôl Unison, undeb y gwasanaethau cyhoeddus, mae tua 300,000 o bobl yn dioddef poen yn eu cefn bob blwyddyn oherwydd damweiniau wrth godi a chario.

Dyna pam fod Gary Smith, ein Pennaeth Gwybodaeth am Asedau, a'r Rheolwr IMS, Glen Peek, mor frwdfrydig dros gael cyfle i weithio gyda dau arloeswr ym maes peirianneg sydd am fynd i'r afael â'r broblem yma sy’n effeithio ar y diwydiant dŵr a'r tu hwnt.  

Daeth y peirianwyr mentrus Kailash Manoharaselvan a Thomas Labat-Camy at Gary a Glen o Ddŵr Cymru gyda'u syniad ar gyfer ‘MOVA’ – technoleg arloesol sy'n defnyddio technoleg synwyryddion i atal anafiadau codi a chario. 

Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy ychwanegu synwyryddion at gyfarpar amddiffynnol personol (PPE) safonol, a monitro'r defnyddiwr wrth iddynt gyflawni tasgau pob dydd. Mae'n creu afatar amser real o'r defnyddiwr trwy ddelweddaeth gyfrifiadur, sy'n dangos y straen sy'n cael ei roi ar wahanol rannau o'r corff yn y fan a'r lle. Mae hyn yn helpu i glustnodi a delweddu problemau a allai achosi niwed dros amser; sy'n wybodaeth hanfodol y gall cwmnïau ei defnyddio i gadw eu pobl yn ddiogel. Roedd Dŵr Cymru'n fwy na pharod i gefnogi'r fenter, gan helpu'r pâr mentergar i brofi a pherffeithio'u syniadau gan ddefnyddio sefyllfaoedd o'r byd go iawn.

Wrth drafod y prosiect, dywedodd Gary: “Mae hi wedi bod yn bleser cael gweithio gyda Kailash a Thomas ar hyn. Fe fachon ni ar y cyfle i'w cynorthwyo am ein bod ni'n credu yn eu syniad ac yn gweld ei botensial, ac roeddem ni am chwarae rhan wrth helpu i'w wireddu. 

“Mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi amser ac egni yn y prosiect ac wedi darparu data, gwybodaeth fanwl a mentora er mwyn helpu i ddatblygu'r dechnoleg wirioneddol arloesol yma. Rydyn ni'n credu bod gan MOVA y potensial i helpu i amddiffyn llawer o bobl sy'n gweithio mewn diwydiannau tebyg.” 

Mae technoleg MOVA wedi cael ei henwebu ar gyfer nifer o wobrau yn 2021 gan gydnabod arloesedd y dechnoleg a'i manteision o ran iechyd a diogelwch.