Dan y sbotolau: Y Smart Hub
7 Hydref 2021
Gan Nic Rawlings, Rheolwr Smart Hub Dŵr Cymru
Does dim angen dweud taw un o'n blaenoriaethau pennaf un fel cwmni yw sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael dŵr diogel a glân, a bod eu dŵr brwnt yn cael ei gludo i ffwrdd a'i drin cyn ei ryddhau yn ôl i'n hamgylchedd prydferth.
Rydyn ni'n darparu'r gwasanaethau hyn trwy ein rhwydwaith helaeth, sydd, yn ogystal â degau o filoedd o filltiroedd o brif bibellau dŵr a phibellau carthffosiaeth, yn cynnwys asedau eraill fel gweithfeydd trin dŵr, gweithfeydd trin dŵr gwastraff, cronfeydd dŵr a gorsafoedd pwmpio. Fel y gallwch ddychmygu, mae monitro'r asedau hyn yn dasg a hanner.
Mae'r dyddiau pan fyddai cydweithwyr yn byw yn, neu'n agos iawn at ein hasedau er mwyn 'cadw llygad' arnynt rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o'i le wedi hen ddarfod. Nawr rydyn ni'n dibynnu ar amrywiaeth eang o dechnolegau cymhleth a sianelau cyfathrebu i ddangos nad yw un o'n hasedau'n gweithio cystal ag y dylai, neu fod rhywbeth wedi digwydd a allai effeithio ar ein gallu i gyflenwi neu drin dŵr, fel byrst mewn pibell ddŵr neu doriad yn y pŵer er enghraifft.
Dyma bwrpas ein Smart Hub, sef ein canolfan rheoli a monitro larymau yn ne Cymru. Mae'r tîm yma'n benodol i fonitro'r miloedd o asedau sydd ym mherchnogaeth Dŵr Cymru, rownd y cloc, 365 diwrnod o'r flwyddyn. Mae'r tîm yn cynnwys 23 o ddadansoddwyr sy'n gweithio sifftiau i gadw llygad ar ein system larymau, gan dderbyn rhybuddion cynnar am unrhyw broblemau ar ein safleoedd neu yn ein rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth.
Mae dylanwad yr adeg o'r flwyddyn ac amodau'r tywydd yn drwm ar ein baich gwaith, ac mae rhybuddion yn dangos i ni pan fo rhywbeth yn digwydd sy'n wahanol i'r arfer. Er enghraifft, mewn tywydd gwyntog, gall safleoedd fod yn fwy agored i doriadau pŵer; os yw hi'n oer ac yn rhewllyd, mae pibellau'n fwy tebygol o ollwng neu fyrstio; os yw hi'n braf ac yn heulog, mae pobl yn dueddol o ddefnyddio mwy o ddŵr. Gall yr holl ffactorau hyn a mwy ddylanwadu ar weithrediad arferol ein rhwydweithiau a'n prosesau cymhleth ac arwain at rybuddion sy'n galw am ein sylw.
Bob dydd, mae'r tîm yn delio â bron i 2000 o larymau, ac mae ganddynt berthnasau gwych â'u cydweithwyr gweithredol ar draws Cymru a'r tu hwnt er mwyn sicrhau bod unrhyw broblemau'n cael eu datrys yn gyflym ac mewn ffordd effeithlon, heb iddynt effeithio arnoch chi, ein cwsmeriaid.
Wrth gwrs, iechyd a diogelwch cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bennaf bob tro, ac mae tîm y Smart Hub yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf os oes ar unrhyw un angen cymorth mewn argyfwng, yn enwedig wrth weithio ar eu pennau eu hunain.
Felly pan ewch chi i'r gwely heno, gallwch gysgu'n dawel o wybod bod y Smart Hub a'u timau gweithredol yno'n cadw llygad ar y cyflenwad dŵr er mwyn helpu i sicrhau bod popeth yn union fel y gadawyd e.