A Byd Carbon Cyfalaf
3 Tachwedd 2021
Gyda COP 26 yn cael ei gynnal yn Glasgow, cawsom ni sgwrs gydag Alex Herridge, ein Rheolwr Carbon.
Rôl Alex yw helpu i sicrhau bod ein rhaglen i fuddsoddi £1.8 biliwn rhwng 2020 a 2025 yn defnyddio cyn lleied o garbon â phosibl wrth greu asedau mwy cynaliadwy ac sy'n well i'r blaned ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddarllen am ei rôl, y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol isod.
Esbonia beth yw dy rôl di ar siwrnai Dŵr Cymru i Sero Net a byd carbon cyfalaf?
Dechreuodd y cyfan yn 2010 pan ymunais i â'r Tîm Ynni i adrodd ar allyriannau carbon o weithrediadau Dŵr Cymru. Rydw i wedi cyflawni sawl rôl ers hynny, ond bob amser â ffocws ar ynni a lleihau carbon.
Erbyn hyn, rydw i wedi symud ymlaen i'r tîm Cyflawni Cyfalaf, sy'n cyflawni ein rhaglen fuddsoddi trwy uwchraddio ein rhwydwaith. Mae hyn yn bwysig wrth sicrhau bod ein rhwydwaith a'n hasedau'n wydn ac yn addas at y dyfodol, a'u bod yn gallu gwrthsefyll yr holl newidiadau sydd o'n blaenau oherwydd pethau fel y newid yn yr hinsawdd a'r cynnydd mewn datblygiadau.
Er mwyn cynnal ein hasedau, gwella gwasanaethau a chyfoethogi perfformiad amgylcheddol, mae Dŵr Cymru'n buddsoddi £1.8 biliwn rhwng 2020-2025. Fy rôl i yw helpu i leihau allyriannau o'n rhaglen fuddsoddi sy'n dod â chost carbon ar ffurf carbon ymgorfforedig; neu'r allyriannau sy'n gysylltiedig â'r deunyddiau a ddefnyddiwn a'n prosesau adeiladu. Y newyddion da yw ei bod wedi cael ei brofi'n helaeth fod lleihau carbon mewn gwaith adeiladu'n lleihau costau hefyd!
Mae'r buddsoddiadau sy’n cael eu cyflawni gan ein Timau Cyfalaf yn effeithio ar feysydd eraill o'r map ffordd i Sero Net hefyd – mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Ein nod yw dylunio gweithrediadau sy'n effeithlon o ran ynni, a disodli asedau sy'n heneiddio â rhai mwy effeithlon a charbon is. Nid yw hyn yn bosibl bob tro wrth fodloni'r gofynion uwch o ran ansawdd gyda'r dechnoleg sydd ohoni, felly mae cadw i fyny â datblygiadau arloesi'n rhan allweddol o fy rôl i hefyd.
Pa gynnydd a wnaed hyd yn hyn?
Rydyn ni'n gwneud cynnydd gwych. Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni wedi newid dyluniad y pibellau a'r gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd rydyn ni wedi eu hadeiladu a'u hadnewyddu gan gwtogi 28% ar eu hôl troed carbon o gymharu â'n dyluniadau cychwynnol. Mae hi'n ddechrau gwych, ond nid oes unrhyw le i laesu dwylo. Cyflawnwyd hyn i raddau helaeth trwy fanteisio i'r eithaf ar beth mae angen ei adeiladu, ac ailddefnyddio asedau cyfredol.
Pa gamau sydd ar y gweill nawr?
Rydyn ni wedi cyflawni adolygiad o'n prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod effaith carbon ein buddsoddiadau'n cael ei hystyried ar bob cam o’r broses. Mae hyn yn seiliedig ar yr Hierarchaeth Lleihau Carbon: sef adeiladu dim, adeiladu llai, adeiladu'n glyfar ac adeiladu'n effeithlon. Rydyn ni'n chwilio bob amser am atebion newydd ac arloesol sy'n gallu cyflawni'r un deilliannau, neu rai gwell, ag ôl troed carbon llai.
Mae gwaith yn parhau i wella ein safleoedd adeiladu, gan ystyried sut rydyn ni'n cynllunio, sut rydyn ni'n defnyddio peiriannau ag allyriannau is, a sut mae safleoedd oddi ar y grid yn cael eu pweru. Mae treialon ar droed i leihau'r defnydd o enaduron i bweru safleoedd oddi ar y grid gan ddefnyddio batris ac araeau solar fel y gall safleoedd redeg yn dawel a heb allyriannau am rannau o'r diwrnod. Mae'r canlyniadau cynnar yn addawol, gyda rhai safleoedd yn gweld gostyngiad o 50% yn yr amser y mae'r generaduron yn rhedeg.
Beth nesaf?
Nawr ein bod ni wedi gwneud cynnydd er mwyn datblygu'r ateb cywir ar gychwyn prosiect, byddwn ni'n canolbwyntio'n fwy ar sut i yrru carbon allan trwy ddylunio manwl.
Mae angen i ni wneud rhagor wrth ddewis deunyddiau, a gweithio gyda'n cadwyn gyflenwi i yrru'r carbon allan o'r deunyddiau na allwn osgoi eu defnyddio. Mae tracio'r holl garbon sy'n cael ei ryddhau trwy ein buddsoddiadau’n dipyn o dasg o ystyried pa mor gymhleth yw'r cadwyni cyflenwi a nifer fawr y cyflenwyr sydd o dan sylw. Rydyn ni'n gweithio ein ffordd trwy hyn ac y bwriadu manteisio ar offer digidol newydd lle bo modd. Mae angen i ni floeddio mwy am ein llwyddiannau hefyd!
Sut mae hyn yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd?
I bob pwrpas, mae fy ngwaith am ddefnyddio llai - cyflawni'r un deilliannau manteisiol ar gyfer cwsmeriaid a'r amgylchedd wrth ddefnyddio llai o ddeunyddiau, adnoddau a thanwydd. Trwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau, mae llai o allyriannau'n cael eu creu wrth eu hechdynnu, eu prosesu a'u cludo i'r safle. Rydyn ni'n ailddefnyddio asedau a deunyddiau hefyd lle bo modd er mwyn hwyluso’r newid i economi mwy cylchol.
Mae'r allyriannau rwy'n ceisio eu hosgoi bron a bod yn llwyr o fewn cadwyn gyflenwi Dŵr Cymru – ond maen nhw'n gadarn o fewn ein ffiniau Sero Net hefyd. Gall hyn gwneud eu mesur yn sialens fwy o lawer, ond mae'r effeithiau sy'n tryledu trwy'r economi i helpu i gyflawni Sero Net i Gymru'n gallu bod yn sylweddol.
Rydyn ni'n chwilio bob amser am enillion i bawb lle gallwn gyflawni asedau sy'n wydn rhag yr hinsawdd am gost carbon is.
Yn olaf, beth yw dy hoff dip amgylcheddol?
Deallwch beth yw eich effaith fwyaf, wedyn bydd eich cynllun gweithredu personol i leihau allyriannau'n dilyn oddi yno.