Dydd Iau: Meddwl am Ddŵr
18 Ionawr 2024
Ers 2020, mae prisiau ynni wedi mwy na dyblu, ac mae lefelau uchel o chwyddiant yn golygu bod yr esgid wir yn gwasgu i aelwydydd yn y DU.
Yn ôl gwaith ymchwil gan National Energy Action (NEA) ac YouGov, mae 26% o oedolion y DU wedi ei chael hi’n anodd fforddio talu eu biliau ynni yn ystod y tri mis diwethaf.
Pan fydd ein tîm cwsmeriaid bregus allan yn sgwrsio â’n cwsmeriaid yn y gymuned, rydyn ni’n aml yn clywed fod pobl yn chwilio am ffyrdd o arbed ar eu biliau ynni, ond nid yw llawer ohonynt yn ystyried a oes modd arbed arian ar eu biliau dŵr.
Wyddech chi fod gennym amrywiaeth o opsiynau cymorth ariannol yn Dŵr Cymru, a bod y rhain wedi helpu i gynorthwyo dros 146,000 o gwsmeriaid y llynedd?
Dywedodd Peter O’Hanlon, Pennaeth Cymorth i Gwsmeriaid Bregus a Gwasanaethau Digidol Dŵr Cymru: “Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth ariannol, a llwyddodd y rhain i gynorthwyo dros 146,000 o gwsmeriaid y llynedd.
“Er bod ein timau’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth am y cymorth sydd ar gael, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn ein helpu ni i ledu’r gair ymhellach, rydyn ni’n ymwybodol y gallai fod yna gwsmeriaid sy’n colli allan ar y cymorth ariannol sydd ar gael iddynt o hyd.
“Mae’r cynnydd mewn costau byw yn golygu ein bod ni i gyd yn chwilio am ffyrdd o arbed arian, ac rwy’n annog cwsmeriaid i ‘feddwl dŵr’ wrth ystyried gwneud arbedion. Estynnwch allan atom i weld sut y gallwn ni helpu.”
Meddyliwch dŵr! I gael rhagor o fanylion am y cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru, ewch i: www.dwrcymru.com/costaubyw ac i glywed rhagor am sut y gallwch arbed arian ar eich bil dŵr ewch i: www.dwrcymru.com/arbeddwr.