Amser Siarad Arian: sut y gall Dŵr Cymru eich helpu chi i wneud arbedion a rheoli eich arian.
12 Tachwedd 2021
Yn ystod Wythnos Siarad Arian, r'yn ni yma i ddweud wrthych pam fod siarad am arian yn bwysig ac i rannu ychydig o wybodaeth â chi a allai'ch helpu chi i reoli eich arian.
Arian: Pum llythyren fach. Gair mawr. Yma yn Dŵr Cymru, r'yn ni'n ymwybodol iawn bod llawer o'n cwsmeriaid yn wynebu sialensiau ariannol ar y funud. Ac mae trafod arian yn agored yn gallu cael effaith anferth wrth daclo pryderon am arian a chyfrannu at iechyd pobl yn gyffredinol.
Mae effaith Covid-19 wedi ei gwneud hi'n bwysicach nag erioed gofalu am ein llesiant ariannol a dechrau sgyrsiau am arian. Mae effeithiau ariannol digwyddiadau'r 18 mis diwethaf wedi bod yn bellgyrhaeddol yn sgil profiadau o ffyrlo, y newidiadau i daliadau Credyd Cynhwysol, a phryderon am gostau ynni'n cynyddu wrth i'r tywydd oeri. Yn wir, yn gynharach eleni cyhoeddodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ffigurau sy'n awgrymu bod cymaint ag 1 oedolyn mewn 4 yn y DU yn cael trafferthion o ran gwytnwch ariannol yn sgil y pandemig.
Felly, sut gallwn ni helpu? Mae'r cyfan yn dechrau gyda sgwrs. Rydyn ni eisoes wedi datblygu ein cefnogaeth i gwsmeriaid mewn ymateb i'r pandemig, ac ar hyn o bryd rydyn ni'n darparu cymorth ariannol ar gyfer dros 147,000 o gwsmeriaid sydd angen cymorth i dalu eu biliau. Rydyn ni'n darparu amrywiaeth o opsiynau i'r bobl hynny sydd angen cymorth, gan gynnwys:
- Cynlluniau dyled â'r nod o gynorthwyo cwsmeriaid i glirio dyledion a chael eu taliadau dan reolaeth
- Tariffau sy’n capio biliau dŵr aelwydydd incwm isel neu bobl sy'n derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd
- Cyngor ar effeithlonrwydd dŵr er mwyn helpu cwsmeriaid â mesurydd dŵr i wneud arbedion trwy wneud newidiadau syml i'w harferion gartref
Y peth olaf rydyn ni am i bobl ei wneud yw cadw'n dawel am unrhyw sialensiau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae amgylchiadau unigol yn newid yn barhaus, ac rydyn ni'n gwybod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i lawer o'n cwsmeriaid.
Mae gennym dimau o gynghorwyr arbenigol a chyfeillgar sy'n gweithio'n benodol i ddod o hyd i atebion ar gyfer cwsmeriaid sy'n wynebu caledi ariannol. Mae hi'n bwysig i ni fod ein holl gwsmeriaid yn gwybod ein bod ni yma i gynnig cymorth - os oes unrhyw bryderon gennych am eich bil dŵr, r’yn ni am siarad â chi ac rydyn ni'n awyddus i helpu.
Dim ots beth yw'ch amgylchiadau, gallwn ni weithio gyda chi i ddod o hyd i ateb. Ac mae pob un ateb yn dechrau gyda sgwrs. Dyna pam ein bod ni'n annog unrhyw un sy'n poeni am allu fforddio talu eu bil dŵr i estyn allan a siarad â ni.
Rydyn ni'n deall efallai nad yw rhai o'n cwsmeriaid yn hapus i siarad â ni dros y ffôn – wedi'r cyfan, mae trafod arian yn gallu bod yn anodd. Er y byddem ni'n dwlu i chi estyn allan a siarad â'n hymgynghorwyr cyfeillgar i ofyn am gymorth, os byddai'n well gennych fynd ar lein, mae'r holl wybodaeth a ffurflenni sydd eu hangen arnoch am ein hopsiynau cymorth ariannol ar gael yn cymorth gyda biliau
I gael rhagor o fanylion am Wythnos Siarad Arian ewch i yma