Amser manteisio ar ein gwasanaethau digidol?
27 Medi 2021
Newyddion pwysig am filio ar lein
Mae sawl agwedd ar fywyd pob dydd wedi mynd yn hollol ddigidol erbyn hyn. Trodd llawer ohonom at fancio ar lein sbel yn ôl, rydyn ni'n arbenigwyr am siopa ar lein ac erbyn hyn rydyn ni'n hen lawiau ar gadw mewn cysylltiad â chydweithwyr ac anwyliaid trwy Teams, WhatsApp neu Facetime. Felly yn y byd digidol sydd ohoni, sut mae pobl yn dewis rheoli eu biliau nwy, trydan a dŵr?
Roedd ein ffocws ni yma yn Dŵr Cymru eisoes ar ddigideiddio ac awtomeiddio gwasanaethau cyn dechrau'r pandemig, cyn i’r geiriau fel 'cyfnod clo', 'hunan ynysu' a ‘chwarantîn’ yn rhan o fywyd pob dydd. Ond mae hi'n wir hefyd fod Covid-19 wedi ei gwneud hi'n bwysicach nag erioed cynnig profiadau digidol di-dor ar gyfer cwsmeriaid – yn niogelwch a chlydwch eu cartrefi.
Ein nod oedd canfod a yw ein cwsmeriaid yn dewis rheoli a thalu eu biliau dŵr yn ddigidol? Gwnaethom ychydig o waith ymchwil mewn ymdrech i ddeall yn well sut mae ein cwsmeriaid yn dewis rheoli eu biliau gan gwmnïau cyfleustod. Dywedodd bron i dri chwarter (73%) eu bod eisoes yn talu eu biliau trydan ar lein, a dywedodd bron i ddau draean (62%) eu bod nhw'n talu eu biliau nwy ar lein. Ond, dywedodd bron i hanner oedolion Cymru (49%) nad oeddent wedi symud i dalu eu biliau dŵr ar lein eto.
Y newyddion da yw ein bod ni wedi rhyddhau ambell i ddiweddariad newydd cyffrous i Fy Nghyfrif, sy'n rhoi mwy fyth o resymau i chi newid i filiau digidol. Bydd y dangosfwrdd Fy Nghyfrif yn haws byth i'w ddefnyddio, a bydd llwyth o swyddogaethau eraill ar gael ar flaenau'ch bysedd…
Felly beth sy'n newydd?
- Mae eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif wedi cael ei drawsnewid. Mae'r dangosfwrdd bellach yn fwy personol i chi, ac yn haws i'w ddefnyddio.
- Gallwch wneud taliadau'n gyflym ac yn hwylus. Caiff eich balans ei ddiweddaru'n gynt o lawer wrth dalu ar lein.
- Symud rhwng cyfrifon: Os ydych chi'n talu biliau ar gyfer mwy nag un eiddo, gallwch symud rhyngddynt ag un glic gan ddefnyddio'r botwm 'newid cyfrif'.
- Gwybodaeth leol ar flaenau'ch bysedd. Defnyddiwch ein hadran "Yn Eich Ardal" newydd i gael newyddion am waith neu ddigwyddiadau yn eich milltir sgwâr.
- Hawdd darllen eich mesurydd. Os oes mesurydd dŵr gennych, byddwn ni'n eich atgoffa pan fydd angen cymryd darlleniad ac yn eich gwahodd i'w gyflwyno trwy Fy Nghyfrif mewn dau gam syml.
Ac nid yw'r gwaith ar ben. Rydyn ni'n cynllunio llawer o ddiweddariadau pellach i gyflwyno â rhagor o swyddogaethau a fydd ar flaenau'ch bysedd. Os ydych chi'n defnyddio Fy Nghyfrif yn barod, rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei feddwl am y newidiadau. Ac os nad ydych chi wedi newid eto, dyma'r amser delfrydol!
Mewngofnodwch neu mynnwch ragor o fanylion yn Fy Nghyfrif