Dydd Mawrth: Siaradwch â Ni

Dydd Mawrth: Siaradwch â Ni


16 Ionawr 2024

Mae diogelwch ariannol yn hawl dynol sylfaenol, ac yn ôl Money Helper, “Po fwyaf agored fyddwch chi wrth siarad am arian - hyd yn oed gyda’r sgyrsiau anodd iawn yna - po orau fydd eich bywyd a’ch perthnasau.”

Os ydych chi’n poeni am eich arian a sut i fforddio talu’ch bil dŵr, siaradwch â ni. Efallai’ch bod chi’n poeni na fyddwn ni’n gallu helpu, ond mae gennym lwyth o opsiynau i chi.

Cwsmer Dŵr Cymru o Ystum Taf yw Rachel Spencer. Mae hi’n gweithio dros Tenovs Cancer Care ac yn fam brysur i ddau blentyn, Jake a Phoebe. Cafodd Jake ei eni ag anhwylder y coluddyn am nad oedd ei goluddyn bach wedi datblygu’n iawn, a bu angen tynnu rhan helaeth ohono.

Dywedodd Rachel: “Oherwydd ei anhwylder, roedd Jake yn cael ei fwydo trwy ddulliau mewnwythiennol trwy lein ganolog nes ei fod yn dair oed. Mae e’n dal i gael ei fwydo trwy PEG, ac mae ganddo broblemau parhaus â’i goluddyn. I’w gadw’n iach, mae angen i ni ddefnyddio llawer o ddŵr i olchi a glanhau pethau’n gyson iawn, sy’n golygu y byddai ein bil dŵr nodweddiadol yn uchel iawn.”

Diolch i’r drefn, cysylltodd Rachel â Dŵr Cymru i ofyn a oedd yna unrhyw beth y gallent ei wneud i leihau ei bil dŵr am fod defnydd y teulu y tu hwnt i’w rheolaeth. Siaradodd Rachel ag Arweinydd y Tîm Cymorth gyda biliau, a ymchwiliodd i’r posibilrwydd o’i chynorthwyo’n ariannol.

“Am fy mod i a fy ngŵr mewn cyflogaeth, roeddwn i wedi cymryd nad oedd unrhyw gymorth ariannol ar gael i ni gyda’n bil dŵr. Roeddwn i mor falch pan ddaeth Tracey nôl a dweud wrtha’i ein bod ni’n gymwys ar gyfer Water Sure Cymru,” ychwanegodd Rachel.

Mae tariff Water Sure Wales Dŵr Cymru yn gosod cap ar swm biliau blynyddol cwsmeriaid â mesuryddion fel nad ydyn nhw’n talu mwy na swm penodol am y flwyddyn, waeth beth yw eu defnydd go iawn. Mae’r cynllun ar gael i gwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr eisoes, neu sy’n dewis gosod mesurydd dŵr.

I fod yn gymwys ar gyfer Water Sure Cymru, rhaid i gwsmeriaid fod yn derbyn budd-dal neu gredyd treth cymwys a bod naill ai â 3 neu ragor o blant o dan 19 oed y gallant hawlio budd-dal plant ar eu cyfer yn byw gartref, neu fod â rhywun ar yr aelwyd ag anhwylder meddygol sy’n gofyn am ddefnydd ychwanegol sylweddol o ddŵr.

Dywedodd Rachel: “Roedd y broses yn un syml. Roedd angen i ni lenwi ffurflen gais a chael meddyg Jake i’w llofnodi i gadarnhau fod ganddo anhwylder meddygol.

“Gyda phrisiau ynni mor anwadal, a chostau byw’n cynyddu, mae cael y tawelwch meddwl o fod â’n bil dŵr ar gost benodol bob mis wedi bod yn gymaint o ryddhad i ni. Mae hi’n hyfryd ein bod ni’n gwybod lle’r ydyn ni gyda’n taliadau am hynny o leiaf, un peth yn llai i boeni amdano. Byddwn i’n argymell bod unrhyw un sy’n poeni am dalu eu biliau dŵr yn cysylltu â Dŵr Cymru, maen nhw wedi bod yn gymaint o help i ni.”

I gael rhagor o fanylion am Water Sure Cymru a’r cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru, ewch i: www.dwrcymru.com/costaubyw

I gael cyngor ar sut i drafod arian gyda ffrindiau, perthnasau neu ddarparwyr cymorth, ewch i: Money Helper.