Technoleg fideo’n trawsnewid ein cymorth i gwsmeriaid


28 Tachwedd 2022

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n chwilio bob amser am ffyrdd newydd o wasanaethu cwsmeriaid yn well. Yn ôl ein gwaith ymchwil i gwsmeriaid, pan fo problem yn codi, mae cwsmeriaid am iddi gael ei datrys yn gyflym, ac mae delio â pherson go iawn yn rhoi tawelwch meddwl iddynt.

Er bod meddalwedd galwadau fideo wedi bod o gwmpas ers amser, dim ond yn ystod y pandemig, pan oedd sefydliadau’n gorfod cadw draw wrth eu cwsmeriaid yn ffisegol, yr enillodd galwadau fideo eu plwyf.

Os ydych chi’n sefydliad fel ni, sy’n aml yn gorfod anfon peirianwyr allan i gartrefi neu fusnesau pobl i gyflawni archwiliadau byr, mae manteision galwadau fideo’n amlwg.

Nawr, yn hytrach na bod cwsmeriaid yn cysylltu i ddweud eu bod nhw’n meddwl bod bloc mewn carthffos, a ni’n gorfod trefnu bod archwilydd yn galw ymhen sawl diwrnod, wedyn cynllunio gyda’r tîm, sydd eto’n gallu cymryd nifer o ddiwrnodau, gallwn weld y broblem â’n llygaid ein hunain o fewn munudau.

Mae hi’n fwy hwylus ac effeithlon o lawer i’r cwsmeriaid hefyd. Yn hytrach na gorfod aros i beiriannydd alw draw, gall cwsmeriaid roi galwad cyflym i ni a chytuno ar amser i ni alw nôl gan ddefnyddio fideo, a dyna ni!

Mae hynny’n golygu y gallwn gael cymaint o wybodaeth â phosibl o’r bron, fel y gallwn gael pethau’n iawn y tro cyntaf os oes angen i ni alw draw i ymweld ag eiddo neu safle. Gallwn ddod ag unrhyw offer arbenigol gyda ni, ac os oes angen cau ffordd neu gyfyngu ar draffig, gallwn weithio gyda’r awdurdod priffyrdd lleol i drefnu’r peth cyn dod.

Mae’n golygu hefyd nad oes angen i ni ymweld â chartrefi pobl yn ddiangen, eto gan arbed amser ac ymdrech i bobl.

Dyma ambell i esiampl o fywyd go iawn lle’r ydyn ni wedi gallu helpu cwsmeriaid gan ddefnyddio technoleg fideo:

Rhys Richards-Evans, Swyddog Datrys ar ran Cwsmeriaid

“Cysylltodd gweithiwr cymorth cwsmer â ni am nad oedd y cwsmer yn gallu cyfathrebu yn sgil strôc ddiweddar. Bu modd trefnu galwad fideo i’r cwsmer fel eu bod nhw’n gallu rhoi caniatâd gweledol i ni drafod eu cyfrif gyda’r gweithiwr cymorth. Roedd y ddau’n ddiolchgar dros ben am yr ateb cyflym i’r broblem."

“Cefais i gwsmer arall a esboniodd fod ei ymsuddiant ar ei dreif. Trwy alwad fideo, fe ddarganfuais fod ganddo dwll archwilio â dau gysylltiad ar ei dreif. Aethon ni drwy broses o fflysio’i offer oedd yn defnyddio dŵr â hylif golchi llestri a’i wylio’n dod trwy’r twll archwilio oedd yn dangos taw cysylltiadau ei eiddo ef yn unig oedd y broblem. Fe sylwais i fod hollt yn ochr y bibell yn siambr y twll archwilio, ac wrth fflysio’r dŵr drwyddi, roedd modd gweld y dŵr yn diferynnu drwy’r twll i’r dreif. Er bod hyn yn golygu taw mater preifat i’r cwsmer ei ddatrys oedd hyn, fe ddywedais wrtho ei bod hi’n bosibl fod polisi yswiriant ei gartref yn cynnwys gwaith draenio. Roedd e’n falch y bu modd i ni fynd at wraidd y broblem mewn un galwad, ac roedd e’n ddiolchgar iawn am ein cymorth.”

 

Harriet Jones, Swyddog Datrys ar ran Cwsmeriaid

“Ffoniodd cwsmer i ddweud bod ei dreif wedi suddo yn y canol. I gychwyn, fe geision ni gael lluniau o’r dreif trwy WhatsApp, ond am ryw reswm nid oedden nhw’n dod drwyddo. Felly rhoesom alwad fideo i’r cwsmer a chymryd sgrinluniau o’r dreif anwastad trwy hynny yn lle. Wedyn bu modd i ni drefnu ymweliad yn seiliedig ar y delweddau hyn i weld ai un o’n prif bibellau dŵr neu’n carthffosydd ni oedd wedi achosi’r broblem."

"Er nad yw galwadau fideo’n gweithio i bawb, am ein bod ni’n ymwybodol nad oes gan bawb o’n cwsmeriaid ffôn clyfar, mewn llawer o achosion mae hi’n gallu bod yn offeryn defnyddiol i’n helpu ni i ddatrys problemau’n gyflym ac yn effeithlon, gan arbed amser i gwsmeriaid ac osgoi ymweliadau diangen."