Ffocws ar y Tîm Cwsmeriaid Bregus yn y Gymuned

Dydd Gwener: Ffocws ar y Tîm Cwsmeriaid Bregus yn y Gymuned


19 Ionawr 2024

Yn Dŵr Cymru, mae gennym dîm ymroddgar o ymgynghorwyr arbenigol sy’n deall bod yna sawl gwahanol fath o fregustra.

Rôl ein Tîm Cwsmeriaid Bregus yw helpu cwsmeriaid i gael cymorth sy’n gweithio iddyn nhw trwy ein cynlluniau cymorth ariannol sydd gyda’r gorau yn y diwydiant neu ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.

Dywedodd Tracey Price, Rheolwr Tîm Cwsmeriaid Bregus yn y Gymuned Dŵr Cymru: “Mae ein tîm cymunedol yn fach, ond yn nerthol. Mae tri ohonom ni’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth am y cymorth sydd ar gael, gan siarad â chwsmeriaid bob dydd. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â llywodraeth leol, landlordiaid cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector i feithrin perthnasau hefyd. Trwy feithrin y perthnasau hyn, gallwn ymgysylltu â chymunedau sy’n anodd eu cyrraedd.

“Rydyn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid fel Cymdeithasau Tai a Chyngor Ar Bopeth i ddarparu hyfforddiant a sesiynau codi ymwybyddiaeth fel y gallwn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt.

“Diwrnod balch iawn i ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd diwrnod lansio Cymuned, ein hopsiwn cymorth ariannol ar gyfer aelwydydd sy’n gweithio, sy’n helpu cwsmeriaid nad ydynt yn gymwys i gael cymorth fforddiadwyedd fel rheol ond sy’n dod yn fwyfwy bregus.”

Rhwng Ionawr 2023 ac Ionawr 2024, mae ein Tîm Cwsmeriaid Bregus yn y Gymuned wedi mynychu dros 420 o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth, a chynnal ein digwyddiadau ein hunain hefyd. Maent wedi helpu gyda dros 1040 o atgyfeiriadau cwsmeriaid ac wedi hyfforddi mwy na 600 o bobl o sefydliadau partner er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am ein cymorth ariannol.

Un o ddigwyddiadau allweddol Dŵr Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf oedd ein diwrnod yng Nghasnewydd, pan ddaeth dros 300 o gwsmeriaid draw i gael gwybodaeth a chymorth:

I gael rhagor o fanylion am y cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru ewch i: www.dwrcymru.com/costaubyw.