Sbotolau ar: Y Tîm Cwsmeriaid Bregus


17 Awst 2021

Os ydych chi'n mwynhau darllen gwaith John Donne – neu os ydych chi erioed wedi gweld clasur Hugh Grant ‘About a Boy’ – byddwch chi wedi clywed yr ymadrodd Saesneg ‘no man is an island.’ Rydyn ni'n credu'n gadarn yn yr ymadrodd yma yn Dŵr Cymru. Rydyn ni'n gwybod bod bywyd yn gallu bod yn anwadal. Ac mae angen cymorth ar bawb ohonom o bryd i'w gilydd.

Mae bywyd yn annarogan. Does neb ohonom yn gwybod beth sydd o'n blaenau. Bu'r pandemig Covid-19 yn esiampl arbennig o hyn. Fyddai neb wedi gallu rhagweld y sialensiau - ariannol, emosiynol, corfforol ac eraill - oedd o’n blaenau ni i gyd. Does neb yn gwybod beth sydd rownd y gornel na phryd y bydd angen ychydig bach o gymorth ychwanegol arnom. Dyna'n union pam fod gan Ddŵr Cymru dîm cyfan sy'n gyfrifol am gynorthwyo cwsmeriaid dan amgylchiadau bregus.

Mae'r tîm Cwsmeriaid Bregus yn cynnwys criw o ymgynghorwyr cymorth arbenigol profiadol a thîm bychan yn y gymuned. Mae ein hymgynghorwyr yn deall bod sawl gwahanol fath o fregsustra ac maen nhw'n gallu helpu cwsmeriaid i gael cymorth sy'n gweithio iddyn nhw trwy ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth neu ein cyfres flaenllaw o gynlluniau cymorth ariannol.

Yn y cyfamser, mae ein tîm cymunedol yn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau hyn trwy gydweithio'n agos â llywodraeth leol, landlordiaid cymdeithasol a chyrff y trydydd sector. Trwy feithrin y perthnasau hyn, gallwn gysylltu â chymunedau sy'n anodd eu cyrraedd. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos â phartneriaid fel canolfannau gwaith a Chyngor ar Bopeth i ddarparu'r sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth er mwyn tynnu sylw cynifer o bobl â phosibl at y cymorth sydd ar gael iddynt. Mewn un ardal leol, mae proses cyfeirio cwsmeriaid newydd wedi cael ei rhoi ar waith, gyda swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith yn sicrhau arbedion o £14,200 ar gyfer 71 o gwsmeriaid.

Os ydych chi'n adnabod rhywun a allai elwa ar gymorth pellach – hyd yn oed os yw hi’n rhywbeth dro – mae'r tîm arbenigol yno i helpu. Cysylltwch am fanylion.

Stori Mark

Cysylltodd Mark â ni am ei fod wedi colli ei swydd ar ôl cael diagnosis o anhwylder meddygol. Roedd e'n amlwg dan straen a dywedodd nad oedd e'n gwybod rhyw lawer am yr anhwylder gan ddweud "Dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau".

Helpodd Jody, un o'n hymgynghorwyr cymorth arbenigol, Mark i gyflwyno cais ar gyfer ein tariff HelpU i leihau ei daliadau, ac ychwanegwyd ei fanylion at ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth. Fe weithiodd Jody gyda Mark wedyn i drefnu cynllun talu hwylus ar gyfer y misoedd nesaf a gwnaeth drefniadau i'w ffonio ymhen 3 mis i wneud yn siŵr bod y cynllun yn gweithio iddo.

Dywedodd Jody “Roeddwn i'n teimlo fy mod i wir wedi helpu'r cwsmer yma. Roeddwn i'n gallu dweud fod angen dybryd ganddo am y cymorth a'r arweiniad yna. Gwnaeth ei helpu i mi deimlo'n dda fel ymgynghorydd!”

Stori Carrie

Pan gysylltodd Carrie â ni, roedd hi mewn trafferthion ariannol difrifol. Roedd hi mewn dyled fawr i ni ac roedd ganddi ddyledion ar filiau eraill hefyd. Roedd hi'n gymwys i gael ein tariff cymdeithasol, HelpU, i'w chynorthwyo gyda'i thaliadau, a chafodd ei derbyn ar ein Cynllun Cymorth i Gwsmeriaid hefyd i helpu i glirio'i dyledion. Trwy gydweithio i deilwra'r ateb a dod o hyd i daliadau oedd yn hwylus iddi, gallai Carrie glirio'i dyled cyn pen 12 mis.

*Newidiwyd yr enwau i amddiffyn ein cwsmeriaid.