Wythnos Hinsawdd Cymru


25 Tachwedd 2022

Yr wythnos hon, cymerodd Dŵr Cymru ran yng Nghynhadledd flynyddol Wythnos Hinsawdd Cymru - sef cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau â phartneriaid eraill Tîm Cymru, sefydliadau cyflawni a negeswyr yr ymddiriedir ynddynt, oedd oll wedi dod ynghyd i ystyried sut mae angen gweithredu yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

Bu achlysur eleni’n rhan o’r ymgynghoriad ar strategaeth genedlaethol newydd a fydd yn pennu’r egwyddorion a fydd yn llywio sut y gall y llywodraeth, busnesau a’r cyhoedd gydweithio i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a byd natur.

Bu Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Tony Harrington, yn bresennol yn y gynhadledd, a dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.

Roedd hi’n bwysig i mi fynychu’r achlysur hwn a bod yn rhan o’r drafodaeth, am na ellir mynd i’r afael â’r sialensiau y mae’r Newid yn yr Hinsawdd yn eu hachosi yn effeithlon heb weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o’r Llywodraeth, ein rheoleiddwyr, a gyda chefnogaeth ein cwsmeriaid.

Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cynnal y trafodaethau hyn er mwyn sicrhau bod strategaethau’n bodoli er mwyn i sefydliadau weithredu ar y cyd i leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr, a meithrin gwytnwch yn ein hasedau a’n gweithrediadau er mwyn delio ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd hyd yn hyn gan leihau ein hallyriannau carbon 90% eto (o lefelau 2010) erbyn 2030, a dod yn niwtral o ran carbon neu’n well erbyn 2040.

Roedd hi’n bwysig i mi felly amlinellu sut mae Dŵr Cymru’n addasu ein dulliau o ddarparu ein gwasanaethau er mwyn helpu i amddiffyn ein hamgylchedd, a sut y byddwn ni’n delio â’r sialensiau sy’n ein hwynebu yn y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod trwy ein hymateb uchelgeisiol a rhagweithiol i gyflawni dyfodol sero net.

Roedd y prif bwyntiau godais i yn y gynhadledd eleni oll ynghylch sut y gallwn ni gyflawni ein nod o sero net erbyn 2040, a’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i’n gwaith:

Blaenoriaethu buddsoddiad. Er mwyn cyflawni sero net erbyn 2040, bydd angen buddsoddiad sylweddol arnom (>£100m fesul AMP). Bydd cefnogaeth y cwsmeriaid i hyn yn hanfodol. Bydd angen cydbwyso’r buddsoddiad ei hun yn erbyn pwysau eraill, gan gynnwys ansawdd dŵr afonol.

Gwerth gorau i gwsmeriaid. Mae angen i ni wneud buddsoddiadau tymor hir, lle mae punt pob cwsmer yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r amgylchedd a’r gymdeithas. Am y rheswm hwnnw, rydyn ni wedi datblygu ein dull amlgyfalaf at fuddsoddi, lle mae’r opsiynau’n cael eu pwyso a’u mesur yn ôl y gwelliannau y maent yn eu cynnig i gwsmeriaid, yr amgylchedd a’r gymdeithas. Trwy gydbwyso’r rhain, dylem fod yn gallu sicrhau ein bod ni’n symud ymlaen â buddsoddiadau gwerth gorau ar gyfer ein cwsmeriaid.

Yr agenda glas a gwyrdd. Mae hi’n dod yn fwyfwy amlwg fod yn rhaid i ni gwblhau ein gwaith i liniaru ein heffaith ar yr hinsawdd erbyn 2040. Mae angen i flaenoriaethau eraill adlewyrchu eu heffaith ar yr hinsawdd a chael eu datblygu o fewn cyd-destun yr angen dybryd i ni leihau ein hôl troed carbon. Gallai hynny olygu blaenoriaethu’r buddsoddiadau hynny sy’n gwella ansawdd dŵr a’n hôl troed carbon e.e. atebion sy’n seiliedig ar natur, dros y rhai sy’n gwella ansawdd dŵr yn unig.

Fel darparydd gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer dros dair miliwn o bobl, mae cyfrifoldeb aruthrol a rôl hanfodol gan Ddŵr Cymru i’w chwarae wrth amddiffyn ein hamgylchedd er mwyn helpu i amddiffyn ein hiechyd, ein cartrefi, ein cyflenwadau dŵr a sut rydym yn cynhyrchu bwyd.

Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i gymryd camau yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, addasu a gwneud y newidiadau angenrheidiol i amddiffyn ein hamgylchedd nawr ac am genedlaethau i ddod. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd fel partneriaid, fel a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y gallwn gyflawni hyn am bris y gallwn ni i gyd ei fforddio.