Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:30 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Pam ein bod mor falch o fod yn gwmni 'Marc Trethi Teg'


28 Gorffennaf 2021

Gan Mike Davies, Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru

Fel y mae llawer ohonoch chi'n gwybod, yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n hoffi gwneud pethau mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol.

Yn gynharach eleni, fe ddathlon ni ugain mlynedd fel yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae ein model gweithredu unigryw'n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym ac rydyn ni'n buddsoddi unrhyw arian sydd dros ben yn ein gwasanaethau ac er budd ein cwsmeriaid.

Ein nod bob tro yw gosod ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Cymaint felly nes bod gennym weledigaeth fel cwmni i 'ennill ffydd ein cwsmeriaid bob dydd'. Efallai nad yw'n syndod i chi felly fod ymddiriedaeth yn bwysig dros ben i ni. Ac rydyn ni ymysg y cwmnïau y mae pobl yn ymddiried y mwyaf ynddynt ar draws y sector dŵr, fel y datgelodd adroddiad y Cyngor Defnyddwyr Dwr (CCW) y mis diwethaf.

Fel cwmni moesegol a chymdeithasol gyfrifol, mae tryloywder ym mhopeth a wnawn yn bwysig i ni ac mae'n helpu i feithrin hyder ein cwsmeriaid ynom eto fyth. Dyna pam ein bod ni'n ymfalchïo ein bod ni'n ymuno ag ychydig dros 60 o sefydliadau eraill sydd wedi ennill cydnabyddiaeth am reoli eu materion treth mewn ffordd gyfrifol a thryloyw.

Trwy gyfuniad o fuddsoddiad uniongyrchol a'n cadwyn gyflenwi ehangach, rydyn ni eisoes yn cefnogi gwerth dros £1 biliwn o weithgarwch economaidd. Rydyn ni'n buddsoddi tua £1 miliwn y diwrnod yn ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, sy'n golygu ein bod ni wedi buddsodd cyfanswm o £1.9 biliwn dros y pum mlynedd diwethaf (2015-2020). Dros gwrs y pum mlynedd nesaf (2020-2025), byddwn ni'n buddsoddi £1.8 biliwn pellach.

Rydyn ni'n gwybod fod ein cwsmeriaid am i ni fod yn gyfrifol ac yn dryloyw. Ein gobaith yw y bydd ennill yr achrediad yma’n helpu ein cwsmeriaid i weld ein bod ni'n falch o wneud y peth iawn a gweithredu fel busnes cymdeithasol gyfrifol, o ail-fuddsoddi ein helw er budd ein cwsmeriaid i dalu'r trethi cywir.

Os oes diddordeb gennych glywed rhagor am y Marc Trethi Teg, mae rhagor o fanylion yma.