James Kiyimba, WaterAid

Wythnos Water Aid gyda Dŵr Cymru


26 Mawrth 2021

Yr wythnos hon, mae Dŵr Cymru wedi bod yn dathlu ei bartneriaeth hir â Water Aid gyda chyfres o achlysuron i godi arian ar gyfer y 2.2 biliwn o bobl ar draws y byd sy'n byw heb gyflenwadau dŵr glân.

Ymhlith y gweithgareddau roedd cwis ar-lein, bingo ar-lein, sialens cerdded saith diwrnod gyda dros 30 o dimau'n cymryd rhan, a neges fideo arbennig gan ein partneriaid yn Uganda. 

Dyma beth oedd gan Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Gwastraff, Cwsmeriaid Busnes ac Ynni, a Chadeirydd WaterAid yng Nghymru i'w ddweud...

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n falch o fod wedi bod yn bartneriaid i WaterAid ers 2008. Mae hi'n elusen mor bwysig, oherwydd hyd yn oed nawr, mae yna filiynau o bobl yn y byd heb gyflenwad dŵr glân da, toiledau na hylendid da.

Yn amlwg, mewn busnes fel hwn, rydyn ni'n deall beth mae hynny'n ei olygu a pha mor anodd yw hi i'r unigolion hyn. Dyna pam ein bod ni mor angerddol ynghylch codi arian, ac ers i'n partneriaeth gychwyn, mae ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid wedi helpu i godi dros £1 miliwn at WaterAid. 

Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn wahanol iawn i'n tîm, a dyw hi ddim wedi bod yn bosibl i ni gynnal ein hachlysuron arferol. Ond fel pawb arall, rydyn ni'n addasu ac yn chwilio am wahanol ffyrdd o fynd ati i gefnogi ein partneriaid, codi arian y mae mawr angen amdano, datblygu ein sgiliau ein hunain a chael hwyl yn y broses.

Yr wythnos hon, fues i'n ddigon ffodus i ddal i fyny â Jane Mselle Sembuche, Cyfarwyddwr Water Aid yn Uganda, ar Teams. Fe gwrddais i â Jane ychydig flynyddoedd yn ôl pan es i i Uganda i weld y gwaith sy'n cael ei wneud yno. Mae'r rhan fwyaf o'r arian a godwn yn mynd at y prosiectau y mae Jane a'i thîm yn gweithio arnynt. 

Fe holais i hi am effaith Covid, ac yn debyg iawn i ni, mae Jane a'i chydweithwyr wedi bod yn gweithio gartref, yn cofleidio technolegau newydd, yn gohirio gweithgareddau wyneb yn wyneb ac yn straffaglu â chysylltiadau band eang mewn ardaloedd gwledig. Ar nodyn cadarnhaol, mae'r pandemig wedi golygu bod y llywodraeth a sefydliadau fel WaterAid wedi gallu cydweithio i gynyddu cyfleusterau golchi dwylo a hyrwyddo pwysigrwydd hylendid da. Mae Jane yn gobeithio y bydd y gwaith da yma'n parhau wrth i fywyd ddychwelyd i normal yn raddol bach. Roedd hi'n awyddus hefyd i ddiolch i'r tîm yn Dŵr Cymru a phobl Cymru am eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch parhaus, ac mae'n gobeithio cyfarfod eto yn y dyfodol a dathlu'r pethau rydyn ni wedi gallu eu cyflawni gyda'n gilydd.

  • Mae £2 y mis yn prynu gwerth blwyddyn o addysg hylendid i un plentyn ysgol yn Uganda
  • Mae £5 y mis yn cyflogi saer i adeiladu cwt tŷ bach i deulu yn Uganda
  • Mae £7 y mis yn prynu beic i wirfoddolwr addysgu hylendid

I gael rhagor o fanylion am waith WaterAid

Os hoffech chi ein cefnogi ni, gallwch wneud rhodd ariannol yma

Darparwyd y lluniau gan James Kiyimba, WaterAid